Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
FTJUIXJ CBEAM, GOOD KBEPXH G-, MILK, FREE FROM PRESERVATIVES. ¡ EbV IDElalVEHIES — TWICE DlbV TO 7* la la IS. FREETH & POCOCK, Ltd., Head Dep6t: ALBERT EMBANKMENT, S.E. Tel. No.: Hop 1249. West Central Dep6t: WAKEFIELD ST., JUDD ST., W C. Tel. No.: Holborn 1676.
COLLI'R DDELFRYD.
COLLI'R DDELFRYD. Yn ol arwyddion amlycaf yr amseroedd y mae Cymru yn dechreu colli ei nodweddion cenedlaethol o'i mudiadau gwleidyddol. Mae'r llifeiriant Seisnig wedi rhuthro gyda'r fath nerth i'n gwlad gan ysgubo holl obeith- ion y cenedlaetholwyr bron yn llwyr o'r tir. Heddyw Did oes obaith y gall ein cenedl godi yr un Tom Ellis arall, ac mae'r ethol- wyr wedi eu hudo i'r fath raddau gan gyfoeth y Sais nes eu gwneud yn ddifater am ddi- wygio ein Cymdeithasau Rhyddfrydol ar linellau hollol Gymreig. Nid beth a ddywed y pwyllgorau lleol sydd yn cael sylw, eithr beth awgrymir gan arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yn Llundain a'r canlyniad yw, ein bod, yn ddiweddar, wedi cael amryw o ddieithriaid i fod yn gynrychiolwyr Seneddol dros ein siroedd a'n bwrdeisdrefi. Pan ddaeth gwawr y Deffroad dros ein bywyd,cenedlaethol rhyw chwarter canrif yn ol, ac y caed plant y werin ym mhersonau Tom Ellis, Lloyd George, S. T. Evans, a William Jones, ac ereill, i fod yn arweinwyr i ni fel ffrwyth y cyfnod newydd, yr oeddem yn gobeithio y daliai Cymru afael ar bob cyfle i ychwanegu at y gatrawd ragorol hon. Ond yn hyn fe'n siomir. Mae'r dylanwadau allanol yn rhy gadarn, ac Ymneilltuwyr selog wedi troi yn aur-addolwyr nes ei gwneud yn amhosibl i ddyn ieuanc talentog aberthu ei alluoedd ar allor cenedlaetholdeb. Dyna'r achos na fuasem yn cael olynydd priodol i yr iS. T. Evans ym Morganwg, ac fod un o'r seddau mwyaf Cymreig, a mwyaf nodweddiadol o werin ein gwlad, yn cael ei gwerthu i gynrychiolydd Llafur, gwr sydd heb ronyn o gydymdeimlad a'n dyheadau goreu fel cenedl, ac yn cael ei gyflogi gan undebau gweithfaol cyfoethog i hyrwyddo buddiannau un plaid ac un dosbarth ar draul anwybyddu a diystyru adran helaeth o etholwyr a ddylent ar bob cyfrif gael eu cydnabod yn Senedd ein gwlad.
[No title]
Mae'r aelodau Cymreig eisoes wedi cynnal dau neu dri o gyfarfodydd y Blaid," a dywedir eu bod wedi pasio hanner dwsin o benderfyniadau. Dyna ddigon o waith, ysywaeth, am y tymor hwn Yn ol rhai o'r adroddiadau eglwysig eisoes i law, y mae Eglwysi Ymneilltuol Cymreig Llundain yn dal i gynyddu yn raddol. Mae nifer y bobl ieuainc sydd yn tyrru i'r Brif- ddinas yn myned yn fwy lliosog y naill flwyddyn ar ol y llall. Gwneir trefniadau gan eglwysi yr Ani- bynwyr Cymreig yn siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, a Phenfro, i gynnal cymanfa undebol yn Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedl- aethol yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn 1911.
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. [GAN ALAWYDD]. Caneuon Gwerin Y mae Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru wedi bod yn hynod ffodus i sicrhau Cymraes mor bybyr ag ydyw Mrs. Mary Davies, i fod yn un o gefnogwyr y mudiad newydd. Gwyr bopeth sydd yn werth ei wybod am gerddoriaeth, ac y mae ei phrofiad helaeth yn y byd cerddorol a'i chariad at ei chenedl ei hun, yn ei gwneud yn arweinydd diogel ynglyn a'r hen alawon, sydd megys wedi bod ar goll am gyhyd o amser. Mae ei darlith- oedd yn Llundain, a lleoedd ereill, wedi ychwanegu yn ddirfawr at werth y Gym- deithas, ac mae pob un sydd yn rhyw gymaint o gerddor, yn teimlo yn ddyled- swydd arno bellach, i groniclo bob hen alaw ddieithr neu syml a glyw yn cael ei chanu gan hen breswylwyr ein hardaloedd gwledig. Mae aelodau y Gymdeithas wedi llwyddo eisoes i ddarganfod nifer liosog o hen ganeuon a genid gan ein teidiau, ond nad ydynt yn ysgrifenedig yn ein prif gasgliadau a rhyfedd yn y fath leoedd anis- gwyliedig y deuir o hyd i drysorau cerddorol yr oesoedd gynt Edrydd Mrs. Davies am un hen dorrwr cerrig ar ochr y ffordd yng Ngheredigion sydd wedi rhoddi amryw ganeuon i'r Gymdeithas, a phwy a wyr nas gellir cael gan ami i hen gymeriad gwledig amryw alawon na fuont erioed yn cael eu canu ond gan breswylwyr y fro honno. Yr oedd darlith Mrs. Davies yn Jewin y nos o'r blaen yn amheuthyn o'r radd oreu, ac nid syndod i'r rhai oeddent yno dreulio noson ddyddorol dros ben. He Mrs. Teify Davies-Meyrowitz Yn ol y papurau Americanaidd i law yr wythnos hon, gwelaf fod Mrs. Teify Davies (fel y myn y Cymry o hyd ei galw) yn cael derbyniad cynnes iawn yn yr Unol Daleithau, a'i bod ya canu mewn ami i gyngerdd Cymreig yn y wlad tu hwnt i'r werydd. Hi oedd un o'r atyniadau yng ngwledd Gwyl Ddewi yn Utica, a chafodd groesaw cynnes iawn. Nid rhyfedd i un o'r beirdd dorri allan mewn mawl iddi ar ol clywed ei llais melus. Dyma ffrwyth ei awen Oi ydyw calon dyn yn brudd, Ar lawr gan wasgfa bywyd, O'i min daw melus win yn ffrwd, Nes cilia pob rhyw flinfyd. Daeth hon o blith pur engyl Nef Er ysgafnhau ein mynwes, A dywed holl gerddorion byd, Ei bod hi'n rhyw angyles. "NATHAN." Cor o'r America Ers amryw flynyddoedd bellach clywir sibrwd fod cor o'r America yn bwriadu cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf." Hyd yn hyn nid yw'r flwyddyn nesaf" wedi dod, ac mae'r uu hen stori yn cael ei hail-adrodd eleni eto. Fel y gwyddis yng Nghaerfyrddin y cyn- helir yr Wyl yn 1911, a chan fod miloedd o weithwyr ardal Llanelly ac Abertawe yu ogystal ac o ardaloedd glofeydd Oaerfyrddin a Morganwg yn yr America, ceisir eu denu yn ol i'r hen froydd am dro. Byddai cael cor o'r America yn atyniad mawr yn sicr, a byddai yn werth eu cymharu a'r amrywiol gorau sydd wedi bod ar daith tu hwnt i'r don yn ystod y pum mlynedd ddiweddaf hyn Hyderwn y llwydda pobl Caerfyrddia i sicrhau eu cymrodyr cerddgar o'r Taleithau i fod ymhlith eu lliaws cystadleuwyr. Canu Diwygiad Cwyna D.E.J." fod fy nodyn ar y mater hwn ya rhifyn Chwefror 26ain naill a'i yn