Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
[No title]
CAISTEUON GWERIN. Nos Fawrth nesaf rhoddir darlith ar Ganeuon Gwerin y Cymry," gan Mrs. Mary Davies yn Jewin. TEIFY DAVIES, T GANToREs.-Mae'r gan- tores Gymreig, Madame Teify Davies, ar ymweliad a'r America yr wythnosau hyn, ac yn cael croeso cynnes iawn gan edmygwyr y gan yno. Ceisir ei gwasanaeth yn y prif gyngherddau, ac mae cwmni'r Metropolitan -y rhai sy'n llogi Caruso ac ereill-wedi cytuno a hi am gyfres o gyngherddau ar- bennig. Gwyr Cymry Llundain yn dda am Teify," y fath gantores swynol yw, a bydd yn llawen ganddynt ddeall am ei llwyddiant haeddiannol tu hwnt i'r Werydd.
----__---A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. [GAN ALAWYDD]. Rhoddwyd eu lie haeddiannol i alawon Cymreig yr wythnos hon, canys yn nath- liadau Gwyl Ddewi nid gweddus gwneud y cyfan yn Saesneg. Gwir fod yr areithio wedi mynd yn Seisnig bron yn hollol, ond diolch am wasanaeth y cerddor i gadw'r ysbryd Cymreig yn fyw o hyd. Gan fod adfywiad cyffredinol ynglyn a'r alawon cenedlaethol yny blynyddoedd hyn, y mae gobaith y daw'r caneuon Cymreig i fwy o fri yn ein prif gyngerddau, ac nid oes eisieu i ni gywilyddio o'u plegyd, canys y maent yn llawn mor gymeradwy mewn un- rhyw gynulliad a'r caneuon tramorol a roddir i ni byth a hefyd. Cyngerdd Cymreig Feallai mai'r cyngerdd mwyaf Cymreig a gafwyd yn Llundain yn ystod yr wyl eleni oedd yr un roddwyd gan Gymdeithas Lenydd- ol Castle Street nos Sadwrn ddiweddaf. Yn anffodus, ni ddaeth y Canghellor enwog yno, fel yr hysbyswyd, gan i'r Brenin wahodd ei bresenoldeb er mwyn cael ymgom ag ef ar yr helyntion gwleidyddol. Er hynny, ni chollodd y cyngerdd ei ysbryd Cymreig, canys ni chafwyd ond alawon Cymreig o'r dpchren i'r diwedd. Yr unawdwyr oeddent Misses Gertrude Hughes a Winifred Lewis, a Mri. Gwynne Davies a David Evans, pedwarawd a gawsant dderbyniad calonogol dros ben. Profodd yr hen alawon mor felus ag erioed, ac yr oedd y pedwar yn abl i gyflwyno y gwahanol ddarnau yn llawn o'r ysbryd cenedlaethol. Yr oedd eu gwahanol
Advertising
CHARING CROSS ROAD WELSH e. M. CHAPEL. —1——■— B AS5 A. R, In aid of the Popular Mission in connection with the Chapel, will be held at HP LT T? THrr^nrTTT?!-? Q A T T (Entrances Charing Cross Road, and J- Jrl JlL 1 LJ 1V JTH L1.±\L-J L-J 136, Shaftesbury Avenue), On Thvtrsday and Friday, March 10th a, n d i i ih, 1910, The Bazaar will be opened at 3 p.m. each day by the following Ladies:— On Thursday: lwns. El 1 Is d. tH. ehairman: HOWELL J. WILLIAMS, Esq., J.P., L.e.e. On Friday: bad Spynmop clones. Chairman HUGH LLOYD WILLIAMS, Esq., M.R.C.S., L.R.C.P. SOLOISTS: Madame LAURA EVANS. Madame ELLIS JONES. Mr. W. H. JONES. Mr. NEVIN JONES. The eharing eross Glee Party and the ehildren's ehoir will sing. (Conducted by Messrs. Dd. Parry and W. G. Hughes.) Accompanist: Miss Bessie Jones. Stalls of Useful Articles, Fancy Goods, &c. Side Shows with Merry Exhibitions, &c. "Try Your Weight" Machine. Interesting Competitions for Ladies and Gentlemen. REFRESHMENTS AT POPULAR PRICES, Admission: Up to 6 p.m.. Is,; after 6 p.m., 6d. each day TICKETS may be had from the Members of the Committee and the Hon. Secretary- TOM HUGHES, 33, Ampthill Square, N.W.
* * * Gwledd o Gan
ddetholiadau yn dra hapus, ac nid rhyfedd iddynt orfod ail-ganu yn agos bob tro. Canwyd unawdau ar y delyn gan Miss Winifred Hemming, a rhoddodd y cyfeilydd, Mr. David Richards, ddetholiadau campus ar y berdoneg. Llanwyd lie Mr. Lloyd George gan Syr E. Vincent Evans, yr hwn roddodd araith amserol ar y pwysigrwydd o feithrin y nodweddion Cymreig a chadw'r cymeriad cenedlaethol yn bur ymysg y genedl yr ydym yn trigo yn eu plith. Ar ran y dorf, talwyd diolch cynnes i'r marchog am ei barodrwydd yn ogystal a'i ddeheu- rwydd yn cadeirio'r cyfarfod. Gwledd o Gan Nid yn ami y ca'r Cymry y fath wledd gerddorol ag a gyflwynwyd iddynt nos Iau yr wythnos ddiweddaf gan Gor y Tabernacl, King's Cross. Fel mae'n hysbys i'r dinas- yddion, mae gan Mr. D. Richards, yr organ- ydd, un o'r corau cynulleidfaol goreu dan ei arweinyddiaeth, a rhoddwyd perfformiad ganddynt o'r gantawd The Gates of Life." Yn cynorthwyo y cor fel unawdwyr oedd Miss Carrie Lanceley, Mr. John Roberts,, a Mr. Ivor Foster fel unawdwyr, a gwasan- aethodd Miss Towena Thomas fel cyfeilydd, ynghyd a Mr. D. T. Williams wrth yr organ. Yn ychwanegol at hyn yr oedd cerddorfa ragorol yno, o dan arweiniad Mr. Tom Morgan. Hen Arweinydd Syniad hapus ar ran cor y Tabernacl oedd cael Mr. Tom Davies, London Road, i fod yn llywydd yn y cyngerdd rhagorol hwn. Efe oedd arweinydd y gan yn yr hen eglwys yn Fetter Lane rhyw ddeugain mlynedd yn ol, a gwnaeth ef a'r diweddar Ddr. Joseph Parry wasanaeth gwerthfawr dros ganiadaeth y cysegr ymysg Cymry'r ddinas. Yn ystod yr amser hirfaith hwn nid oes neb wedi cymeryd mwy o ddyddordeb yn nadblygiad y dalent gerddorol ymysg ei gyd genedl nag efe, ac er wedi rhoddi ei ofalon cerddorol o'r neilltu, y mae mor fyw ac mor feirniadol ag erioed. Doniol oedd clywed ganddo am ei helyntion yn yr hen eglwys, a'r modd y bu raid iddo ymladd cyn cael harmonium bychan i'r lie, ond heddyw wele gerddorfa ac un o'r organau harddaf yn cael cynorthwyo y can- torion yn yr addoldy newydd. Rhyfedd y cynnydd mewn un oes Miss Carrie Lanceley Dyma'r waith gyntaf i mi glywed y gan- tores hon er yr adeg y bu'n cystadlu yn Eisteddfod y Cymry yn Albert Hall. Fel y cofir, rhoddodd y beirniaid hi yn gyfartal a Mrs. Gunter Williams ar yr unawd soprano, ond gan ei bod yn ennill rhan o'i bywiol- iaeth ar y pryd fel cantores, yr oedd yn naturiol yn dyfod dan reol a waharddai y professional class fel cystadleuwyr. Gwnaed protest effeithiol i'w herbyn, a dyfarnodd y pwyllgor y wobr i'r gantores o'r Deheubarth, tra y cydnabyddwyd fod y ddwy wedi canu yn ardderchog. Mae Miss Lanceley yn gwneud cynnydd dirfawr o hyd ymyd y gan, a chlywir hi yn ami yn y prif gyngherddau ar ol hyn. Medd ar lais cyfoethog, a phrof- odd ei hun y nos hon yn bencerddes ymhob ystyr.
TY'R GLEBER.
yn ei wneud dros eu gwledydd hwy, ond cododd D.A. yn ffyrnig gan hawlio eu bod wedi pasio dau benderfyniad eisoes ynglyn a materion plwyf Llandegai, ac nis gall neb gwyno am ein difrawder ar ol talu sylw i Landegai yng nghyfarfodydd y Blaid Gymreig Un llym ei wawdiaith yw D. A. erioed Ddydd Llun cafwyd datganiad newydd gan Mr. Asquith, ac mae argoelion yn awr y cerir gwaith y tymor ymlaen gydag hwylus- dod, ac nad oedd yr holl ofnau ond pethau ofer. Y pwnc yn awr ydyw a roddir swydd i Mr. William Jones ? Y mae'r aelod dros Arfon wedi cael ei esgeuluso yn druenus gan y blaid, canys nid oes neb wedi gweithio mor galed ag ef ar hyd y blynyddoedd. Ond y drwg yw, nid ydyw yn gyjreithiwr—ac fel yr honnai D.A. ddydd Sadwr-u-y cyfreithwyr sydd yn cael y brasder i gyd. Mae'r Senedd wedi dyfod yn fath o grefft gan y dosbarth hwn, a diau y gwel Cymru hynny cyn bo hir. Mae'n amlwg, ar hyd yr wythnos, nad yw Cyllideb Mr. Lloyd George i gael ei chario heb ornest galed eto ar lawr Ty'r Cyffredin. Myn y Toriaid fod y wlad wedi pleidio i'w herbyn a bygythia y Gwyddelod eu bod hwythau un ac oil wedi eu dychwelyd i Westminster er mwyn rhoddi terfyn i'r anghyfiawnder hwn. Os yw hyn yn wir, goreu po gyntaf i Mr. Balfour gymeryd materion Cyllidol y wlad i'w ddwylaw ef a'i 'blaid. Nid oes son fod yr un cynulliad, gan Gymry Llundain, i groesawu yr aelodau yn ol o'u gornestau. Dylid trefnu rhyw fath o wyl lie y gallem draethu ein barn ar eu buddugoliaethau rhagorol. Fe drefnwyd pwyllgor i ystyried mater cyffelyb yn 1906, ond gan i waith hwnnw fyned yn ofer, a'i teg yw casglu y byddai yr un dynged yn aros mudiad cyffelyb yn awr ? Beth ddywed y gwyr profedig ar hyn