Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
TY'R GLEBER.
TY'R GLEBER. [GAN AELOD Y MAESDREFI.] Rhyw dymor rhyfedd ydyw hwn Er ei gychwyniad, nid oes neb yn gwybod pa le yr ydym yn sefyll, nac i ba blaid yr ydym yn perthyn. Heddyw mae plaid y Gwydd- elod yn neidio tros y gwrych, ac yn dod yn ol i'r hen safle cyn machlud haul. Yfory dacw'r Llafurwyr yn bygwth bygythion gan yrru pawb i anrhefn, ac erbyn y diwrnod wedyn y maent yn sobri i'w hen gynefin. Un diwrnod traetha Asquith ei gynlluniau, a chyn y bydd eisteddiad arall trosodd myn un arall o aelodau y Weinyddiaeth wrth- ddweyd y Prif Weinidog yn hollol; a dyna ein safle er yr adeg y dychwelwyd o'r ethol- aethau Pa hyd y pery yr anrhefn presennol ? Y mae'r wlad yn dechreu blino ar chwareuon o'r fath, a chredaf fod yr aelodau eu hunain wedi cael digon ar y brawychon trafferthus yma, ac yn awyddus am eistedd i lawr i gyflawni rhyw waith. A phwy a wyr na ddaw lies o'r ysgarmesoedd hyn, ac y llwyddir i gario'r Weinyddiaeth ymlaen am hir amser. Ond ynghanol yr holl helbulon pleidiol hyn y mae'r Blaid Gymreig yn hollol ham- ddenol. Nos Wener ddiweddaf bu Syr Alfred Thomas yn croesawu nifer o honom yn ei glwb enwog-y Devonshire. Nid dyma'r tro cyntaf i mi gael mwynhau y wledd wleidyddol hon, ond dyma'r waith gyntaf i mi deimlo marweiddwch y Blaid Gymreig Yr oedd pob un ag ydoedd yn bresennol wedi hen syrffedu, naill a'i ar bengamrwydd y Weinyddiaeth neu ar wen hunanfoddhaol Syr Alfred ei hun. Ni chafwyd unrhyw ysbrydiaeth o'r dechreu i'r diwedd, ac ni fa yr aelodau oeddent yn absennol ar eu colled ychwaith. Y ffaith am dani ydyw, mai gwledd gymdeithasol yw hon wedi dod ac mae'r aelodau yn edrych ymlaen gydag aiddgarwch am y croesaw arferol hwn. Y Canghellor—Mr. D. Lloyd George- oedd y prif siaradwr, ond yr oedd yn amlwg ei fod yn teimlo oddiwrth bwysigrwydd yr helyntion yn y Weinyddiaeth. Rhoddodd amlinelliad o fwriad y Weinyddiaeth, ac yr oedd yn amlwg fod y Blaid Gymreig yn cydolygu ag ef yn y trefniant. Yr oedd amryw o'r aelodau yn absennol, yn bennaf am fod eu galwadau proffeswrol yn hawlio eu gwasanaeth mewn lleoedd ereill. Er fod y blaid yn hollol unol yn y wledd, nid ydym i ddeall oddiwrth hyn fod rhyw ysbryd newydd wedi meddiannu yr aelodau yn y Senedd-dymor hwn. Yn wir, y maent yn dra rhanedig ar amryw faterion fel yn y tymorau blaenorol. Mae dau neu dri o'r aelodau newydd yn credu y gallant ddiwygio y gweddill, a chafwyd awgrym- iadau gan rai o honynt yn ystod wythnos gyntaf y tymor eu bod am greu chwyldroad. Edrychai Mri. Haydn Jones ac Edgar Jones yn lied awdurdodol ar y cychwyn, megis pe baent am ddangos i'r hen haid eu bod hwy wedi eu creu o ddefnydd tra gwahanol i'r hyn oedd yn y blaid o'r blaen. Yr wyf yn cofio gweled Ellis Davies yn torri yr un ymddangosiad ar ddechreu ei yrfa yntau, ond heddyw Ellis ydyw amddiffynydd pennaf yr hen arferion, ac mae'n barod i edrych gyda dirmyg ar haerllugrwydd y newydd-ddyfodiaid hyn A diau mai dyna fydd hanes y rhai sydd newydd ymuno dan arweinyddiaeth Syr Alfred am y tymor hwn eto. Trannoeth i'r wledd gan Syr Alfred, dacw Mr. D. A. Thomas yn gwneud araith bert yng Nghaerdydd yn amddiffyn y blaid. Cwynodd Mr. John Rowland nad oedd yr aelodau yn gwneud cymaint tros eu gwlad ag oedd yr aelodau Gwyddelig a'r Albanwyr
Advertising
FULL CREAlVL GOOD ICEEFIITG-, MILK, 4dow FREE FROM PRESERVATIVES. EbV DELIVERIES ——— TWICE lbV TO bb TS. FREETH & POCOCK, Ltd., Head Dep6t: ALBERT EMBANKMENT, S.E. Tel. No.: Hop 1249. West Central Depdt: WAKEFIELD ST., JUDD ST., W.C. Tel. No.: Holborn 1676. — I^LAETH — Cyturtdeb Mawrth. Llaeth am 6 neu 12 mis. (LPrynwch gan y Ffermwyr yn uniongyrchol, ac felly sicrhewch y prisiau iselaf. (l Gwarentir yr oil a ddanfonir i'r prynwyr. (l Am restr gyflawn o'r Ffermydd lie ceir y Llaeth puraf a goreu, a mwyaf addas i Lundain, anfonweh at W. H. EDWARDS, 15, LITTLE JAMES STREET, LONDON, W.C., Goruchwyliwr y Midland ad Derbyshire Farmers' Association.
-----GWYL Y GENEDL.
GWYL Y GENEDL. Cafodd helbulon gwleidyddol y Sais, a phob ymraniadau sectol eu anghofio am yr wythnos lion, a bu Cymru'n un yn dathlu coffa nawdd Sant y genedl. 0 flwyddyn i flwyddyn mae nifer y dathliadau cyhoeddus yn myned ar gynnydd, ac yng Nghymru ei hun rhoddwyd mwy o arbenigrwydd nag erioed i Ddydd Gwyl Ddewi a'i hanes. Yn yr ysgolion .elfenol a chanolraddol bu'r efrydwyr ieuainc yn cael eu swyno ag ystori- au am ddechreu cenedl y Cymru, ac am y gwr a wnaeth gymaint dros ei chymeriad moesol ac addysgol. Er fod pymtheg canrif wedi myned heibio er yr adeg y bu Dewi yn troedio daear Cymru, y mae ei ysbryd yn fwy byw heddyw nag erioed, a lie bynnag y bu Cymru yn cydgyfarfod ddech- reu yr wythnos hon buont yn talu gwarog- aeth i'w goffhad, ac yn cymeryd llw adnew- yddol o ffyddlondeb i'r genedl a garai mor fawr. Yn Llundain, lie mae dros banner can mil o blant Gwlad y Bryniau yn preswylio megys yn nhir alltud, bu'r dathliadau yn llawn brwdfrydedd. Ni chafwyd erioed gynulliad lliosocach yn hen eglwys gadeiriol Sant Paul, lie, yn sain mawl a chan, buwyd yn traethu am ei ddylanwad ar gymeriad y genedl, ac y bu'r pregethwr yn dadlu am gadwraeth ei iaith. Yng nghapel yr Ym- neilltuwyr cadwyd nodweddion y dosbarth hwnnw trwy bregethau effeithiol. Yn y prif westai, wedyn, daeth cannoedd ereill ynghyd i gydlawenhau fod pob gwahanfur cymdeithasol yn cael ei anghofio yn yr ysbrydiaeth cenedlgarol sydd ynglyn ag enw Dewi Sant. Yr un yw'r hanes o bob tref a phentrof yn yr hen wlad, ac o brif drefi y cyfandir lie y trig unrhyw nifer o blant Gwalia; ac nid rhyfedd, felly, ein bod yn ymfalchio yn yr adnewyddiad o'r ysbryd cenedlaethol hwn. Tra deil y genedl i garu ei phrif gymeriadau, a thra y gesyd gwr o fuchedd Dewi fel ei hesiampl, nid oes berygl y cyll ei bri fel un o genhedloedd goreu ei moes a'i dysg ymysg cenhedloedd gwareiddiedig y ddaear.