Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TY'R GLEBER.

News
Cite
Share

TY'R GLEBER. Ddydd Llun diweddaf, ynghanol rhwysg ac urddas, agorwyd y Senedd-dymor gan y Brenin. Daeth y miloedd ynghyd i ddangos eu parch i Iorwerth, ac yn Nhy'r Senedd yr oedd yr olygfa yn brydferth dros ben. Wedi esgyn i'w orsedd yn Nhy'r Arglwyddi, darllennodd y Brenin ei neges mewn iaith hyglyw. a gellid symio ei genadwri fel a ganlyn Hysbysodd fod Undeb Gwleidyddol De Affrica wedi ei gwblhau, ac yr agorir y Senedd newydd yno gan Dywysog Cymru yn gynnar yn yr Hydref. Yr oedd trefniadau llywodraethol yr India wedi eu diwygio, ac argoelion fod y gwell- iantau yn fwy cydnaws i farn y trigolion yno. Wrth Dy'r Cyffredin cyhoeddodd y deuai'r pynciau ariannol i'w hystyriaeth yn fuan, a sylwodd fod y costau ynglyn a'r Llynges yn aeI ymchwiliad dirfawr. Ynglyn a'r Gyllideb ddiweddar yr oedd cryn anrhefn wedi cymeryd lie, a bu raid benthyca llawer er cyfarfod a'r gofynion ariannol. Rhaid gwneud trefniadau ar fyrder i roddi terfyn ar y fath sefyllfa. Wrth aelodau y ddau Dy cyhoeddodd fed yn rhaid ad-drefnu y berthynas cydrhyng- -ddynt, a dywedodd y dygid mesur ger bron yn fuan i egluro safleoedd y naill a'r Hall, ac i wella'r cynlluniau i hwyluso mesurau a fwriedid eu gosod ar ddeddf-lyfrau y wlad. Ar ol cael y datganiadau hyn aeth y ddau Dy i bwyso a mesur yr hyn a gynwysid yn yr araith, a bu dadlu brwd ar hyd yr wythnos. Yr oedd yr oil o'r aelodau Cymreig yn eu lleoedd ddechreu'r wythnos, a bu cryn ddadlu yn eu plith beth i'w wneud ynglyn ag araith y Brenin. Gwir fod dau neu dri yn teimlo yn dra siomedig nad oedd neb o'r blaid wedi cael cael swyddi yn y Weinydd- iaeth newydd, a phrin y rhoddid gwrandaw- iad i'r awgrym y dylai un o honynt ym- neilltuo er mwyn rhoddi lie i Mr. Pease, yr hwn oedd wedi cael swydd bwysig arall. Gwir ddarfod i Mr. Ellis j. Griffith gael cynnyg ar safle is-raddol yn y Weinyddiaeth, ond prin y gellid disgwyl i un mor dalentog ag efe i wasanaethu yn ddi-dal ar hyn o bryd. Mae Mr. Griffith yn hawlio rhywbeth .gwell na hyn, a da gan ei gyfeillion ei fod wedi gwrthod y cynnyg. Cyn i'r Senedd gyfarfod yr oedd y proff- Tvydi wedi cyhoeddi fod dau, o leiaf, o'r aelodau Cymreig i gael eu penodi i swyddi pwysig. Yn anffodus, nid yw hyn wedi <cymeryd lie, a bydd raid iddynt aros am dymor arall cyn cael eu haeddiant. Gan fod pwnc Ty'r Arglwyddi yn cael y fath arbenigrwydd y misoedd hyn, a'r blaid Ryddfrydig yn cyhoeddi celanedd i'w erbyn, y mae'n amhosibl, gydag un math o gyson- deb, i benodi arglwyddi ereill. Dyna'n ddiau, sydd yn cyfrif na fuasai arweinydd y blaid Gymreig wedi ei ddyrchafu i'r Ty Uchaf Os mai arwydd o anrhydedd ydyw cael dyrchafiad i Dy'r Arglwyddi, y mae'n sicr nad oes neb yn haeddu hynny yn well na Syr Alfred, a hwyrach y daw ei dymor yntau ar ol i'r anghytundeb presennol gael ei benderfynnu. Bydd rhai o'r aelodau ar gyfeiliorn yr wythnos nesaf, canys y mae galwadau am rai o honynt i lywyddu yn nathliadau Gwyl Ddewi ar hyd a lied y wlad. Ond ni fydd angen pryderu na rydd y blaid Gymreig bob ..cef nooaeth i'r Weinyddiaeth os yw yn bender- n fynol i ymgymeryd a phwnc yr Arglwyddi yn ddi-ymdroi. Yr oedd Mr. Hemmerde yn lied ffyrnig nos Fawrth am nad oedd datganiad Mr. Asquith wrth ei fodd. Ond dylid cofio mai bargyfreithiwr yw Mr. Hemmerde, a gwr yn awyddus am ennill sylw yn y papurau newydd, eithr nid yw ei farn yn y Ty nac ymysg aelodau y Blaid Gymreig yn cael fawr o sylw hyd yn awr.

Y CYMMRODORION.

A BYD Y GAN.