Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
[No title]
Nid oes un Cymro wedi cael dyrchafiad ynglyn a'r cyfnewidiadau yn y Weinyddiaeth. Ofnwn fod yr aelodau Cymreigyn rhy was- aidd i'r Blaid Ryddfrydig ar hyn o bryd! Mae Syr Alfred Thomas yn dathlu ei benodiad fel arweinydd y Blaid Gymreig drwy roddi gwledd i'r aelodau ar ddechreu y tymor, yn ol ei arfer. Mr. Lloyd George fydd prif siaradwr y noson. Nid oes son am Ddatgysvlltiad yn araith y Brenin. Rhaid torri crib Ty'r Arglwyddi cyn byth y gellir gobeithio am ryddhau Oymru o'i Heglwys amhoblogaidd. Teimla aelodau Plaid Llafur fod safle'r Weinyddiaeth yn hollol foddhaol, a'r unig amod ofynant am eu cefnogaeth yw, fod Mr. Asquith i wthio y Gyllideb a phwnc yr Arglwyddi drwy y Senedd yn ddi-ymdroi Ceir dwy neu dair o fan etholiadau yr wythnos nesaf ynglyn a'r penodiadau newydd yn y Weinyddiaeth. Yn Llundain y gwelir yr ornest boethaf, lie nad yw mwyafrif Mr. Benn yn uchel iawn. Teimlir fod y seddan ereill yn dra diogel.
Advertising
National Welsh Festival.. THE ARKVAL SERVICE of the above will be held at ST. PAULJS CATHEDRAL, On MONDA Y, February 281h 1910, at 7 o'clock. Preacher The Rev. D. GRIMALDI DAVIS, D.B., Vicar of Welshpool. Conductor: Lieut. A. WILLIAMS, M.V.O., Mus. Doc., Oxon., Bandmaster, His Majesty's Grenadier Guards, the Band of which will accompany the service (by kind permission of Col. R. G. Gordon Gilmour, C.B., M.V.O., D.S.O.). ORGANISTS: Mr. R. MEYRICK ROBERTS I Mr. DAVID J. THOMAS, (Organist of St. Mary-the-Boltons, S.W.). (Organist of St. Anselm's, Davies St., W.). THE FESTIVAL SERVICE BOOK containing Responses, Psalms, Hymn Tunes (O.N. and Tonic Sol-fa combined), price 3d. (by post 3!d.); also Admission Tickets, for 2 which a stamped envelope should be enclosed, may be had from the Hon. Organizing Sec.— Mr. J. E. DAVIS, 39, Upper Park Fields, Putney, S.W. THE G EBTTR AIi INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed by the] Liverpool, and London & Globe Insurance Co. Assets exceed 911,000,000. Fife, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, Loss of Profits, &c., &c. Write for Pro8pectus: Head Office-1, CORNHILL, LONDON, E.G. HUGH LEWIS, Manager and Secretary. -LLAETH — Cytuqdeb Mawrth. Llaeth am 6 neu 12 mis. (l Prynwch gan y Ffermwyr yn uniongyrchol, ac felly sicrhewch y prisiau iselaf. (l Gwareotir yr oil a ddanionir i'r prynwyr. (L &m restr gyflawn o'r Ffermydd lie ceir y Llaeth puraf a goreu, a mwyaf addas i Lundain, anfonwch at W. H. EDWARDS, 15, LITTLE JAMES STREET, LONDON, W.C., Goruchwyliwr y Midland aqd Derbyshire Farmers' Association. YN Y WASG, AC YN BAEOD YN FUAN, 30 o DONAU CYNULLEIOFAOL ar Emynau Adnabyddus a Chynefin GAN T. VINCENT DAVIES. PRIS: Hen Nodiant, 2s.; Sol-ffa, Is. 6d. Telerau Neilltuol i danysgrifwyr o 6 copi ac uchod. Esiamplau o 12 o'r Tonau (Hen nodiant yn unig heb y geiriau) i'w cael ar dderbyniad dau stamp Id. gan yr Awdwr, 31, LUCERNE ROAD, HIGHBURY, N.
COLLI'R LLWYBR.
COLLI'R LLWYBR. Megys yn 1906, y mae'r blaid Ryddfrydig wedi colli'r llwybr ar ddechreu ei gyrfa. Ar ol sicrhau cefnogaeth yr etholwyr yn yr Etholiad Gyffredinol, mae'r Weinyddiaeth yn ymddwyn yn llwfr a digalon a'r can- lyniad yw, fod y wlad yn colli ei ffydd yn eu hymddygiadau. Pan yn ysgrifennu y mae'r sefyllfa yn wir ddifrifol, a phriodolir yr holl anffawd i wendid yr arweinyddiaeth Rydd- frydol. Gall fod yna rai anfanteision ar ffordd Mr. Asquith, ond mae'n amlwg mai nid trwy gymodi a'r anhawsterau y mae i ni sicrhau goruchafiaeth yn y pen draw, ac oni cheir datganiadau mwy pendant ac arweinydd- iaeth mwy gwrol, nid oes ond dinystr a dif- odiad yn aros y blaid. Y mae gwersi 1906 heb eu dysgu gan y Weinyddiaeth. Ymhob achos y bu cymodi a chytuno ar bynciau dadleuol y cyfnod hwnnw troes y cyfan yn anffafriol i'r blaid. Teimlai'r gwrthwynebwyr os gellid gwerthu egwyddorion ar un pwnc y gellid gyda chysondeb eu gwerthu ynglyn o phynciau ereill, a'r oil a allasai'r blaid Ryddfrydig wneud oedd dilyn cynghorion Mr. Asquith yn wasaidd gan gredu fod eu safleoedd yn hollol ddiogel. Yr un modd y tro yma nis gellir cyfiawnhau y Weinyddiaeth, ac o gan- lyniad nid oes yr un brwdfrydedd o'r tu ol i gadlef y Weinyddiaeth ar ddechreu ei gyrfa. Yr hyn sydd wedi peri siomiant yn awr yw addefiad Mr. Asquith fod ei ddatganiad ar ddechreu yr etholiad wedi ei gam-esbonio gan y cyhoedd. I bawb a glywoud y dat- ganiad yn yr Albert Hall, na fyddai iddo ef na neb o'r blaid Ryddfrydol gymeryd yr awen- au eto hyd nes y sicrheid iddynt gwtogiad priodol ar allu y Ty Uchaf, nid oedd ond un ateb i'w ddisgwyl; sef fod Mr. Asquith yn gosod ymyriad yr Arglwyddi ymlaenaf yn ei gynlluniau ar adeg agoriad y Senedd. Ond yn hyn y mae'r wlad wedi ei siomi! Ofer yn awr yw ceisio dadrys o'r helyiit, ac egluro mai rhywbeth arall a fwriedid yn y geiriau.. Cymerwyd y datganiad fel un gonest a phendant gan y Prif Weinidog ar y pryd, ac yn ysbryd y datganiad gwrol hwn yr enillwyd y frwydr yn erbyn y Ty Uchaf. Yr Arglwyddi a'r Gyllideb oedd y cri, a gwae y sawl a ffy oddiwrth y canlyniadau ar derfyn yr ornest! Gwnaeth Mr. John Redmond wasanaeth amserol ddydd Llun pan yn condemnio araith y Brenin ac ymddygiad Mr. Asquith. Nid oedd yr un cwrs arall yn agored iddo, a haedda barch am ei graffer gwleidyddol, yn ogystal a'i fedr fel arweinydd diwyro ymhob achos o ryddid ac iawnder. Er mor anifyr yw gorfod addef fod Lloegr heddyw yn cael ei rheoli o'r Iwerddon, y mae'n gan mil gwell iddi gael hynny na chwareu ag egwyddorion fel y mae'r blaid Ryddfrydol am wneud. A goreu po gyntaf i Mr. Asquith ddilyn yr un llwybr gwrol a hawlio yr awenau yn hollol i'w ddwylaw yn hytrach na chael ei gyfyngu gan hen arferion, nac hyd yn oed gan y Teyrn ei hun. Mae'n rhy hwyr o'r dydd i oddef ymyriad o'r cylchoedd uchel hyn, ac os nad yw Mr. Asquith yn barod i roddi dat- ganiad i lais yr etholwyr ar fyrder, yna goreu po gyntaf i ni werthu ein hawlfreintiau a gadael i ereill redeg y genedl i ddinystr ac aflwyddiant fel ag a wnaed ganddynt cyn yr adfywiad yn 1906.