Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. [GAN ALAWYDD]. Dyma'r adeg pan y try pob cerddor yn Gymro, ac y clywir yr alawon Oymreig yn ein holl gynulliadau dinesig. Mae'r hen alawon a adewir, fel rheol, i orwedd yn eu dinodedd gwledig, yn cael rhyw fath o ad- fywiad yn nhymor Gwyl Ddewi, ac oni bae am eu nodau melus hwy, prin y gellid gwahan- iaethu y gwleddodd Cymreig yma oddi- wrth y gwleddoedd a gynhelir yn gyffredin ym myd y Sais. Alawon Cymru Mae'r to presennol yn fwy dyledus i Mrs. Mary Davies—y bencerddes—nac i odid neb o'n cerddorion am ddwyn Alawon Cymreig i'r fath fri cenedlgarol, ac y mae hi, ag ereill, ar eu goreu yn awr yn codi yr hen Ganeuon Gwerin i sylw ein hefrydwyr. Gwelaf ei bod i draddodi un o'i darlithoedd poblog- aidd yng nghapel Jewin un o'r nosweithiau nesaf yma, a dylai fod yn atyniad mawr i gantorion ac i Gymry ieuainc y ddinas. Er symled yr hen ganeuon hyn dylid cofio mai nid gwaith hawdd yw eu canu yn briodol, canys rhaid i'r ysbryd, yn ogystal a'r gelf, gael ei le arbennig ynglyn a hwy. Casgliad Diwygiedig Deallaf fod y cerddor medrus, Pedr Alaw, ar fin cyhoeddi argraffiad newydd o Alawon Oymreig. Teimla'r cyfansoddwr hwn nad yw rhai o'n halawon wedi eu hieuo a geiriau priodol, ac fod amryw o'r rhai sydd a geiriau tra chanadwy yn y Gymraeg yn perthyn iddynt, wedi gorfod dioddef am nad yw'r cyfieithiadau o'r rhai hyn yn deilwng o honynt. Ar ol cael cyfieithiadau priodol o rai o'r hen ganeuon, yn ogystal a threfniad addas o eiriau i gyfateb ag ysbryd y tonau, feallai y deuir i weled mwy o werth ynddynt. Daw'r casgliad newydd hwn o'r wasg yn fuan, wedi ei gyhoeddi gan Mri. Jarvis a Foster, Bangor. Tonau Cynulleidfaol Mae ein cyd-ddinesydd, Mr. Vincent Davies-organydd Eglwys Dewi Sant-ar fin cyhoeddi cyfres o Donau Cynulleidfaol newydd, a hyderaf y rhoddir y gefnogaeth haeddianol iddi. Nid un yn dechreu cyfan- soddi yw Mr. Davies, canys y mae amryw o'i gyfansoddiadau wedi ennill cryn enwog- rwydd. Ond fel ami i gyfansoddwr Cymreig arall, nid yw ei ganeuon mor boblogaidd yng Nghymru ag y dylent fod, a'r rheswm am hyn yn ddiau yw, mai cyhoeddwyr Seisnig sydd yn gyfrifol am y cafansodd- iadau. Hen bwnc dyrys yw pwnc y cyhoeddi yma, ac mae ami i gan ragorol yn myned yn ddisylw am na roddir iddi y cyhoeddusrwydd priodol. Cor Merlin Morgan, Neu y Gymdeithas Gorawl Gymreig, a rhoddi yr enw newydd iddo; ond gall yr hen enw wneud y tro tra y deil Mr. Morgan i ofalu am yr arweinyddiaeth. Fel yr hys- byswyd eisoes, y mae'r cor wedi newid dyddiad ei Gyngerdd mawr o Chwefror i noson yn nechreu mis Mai. Daeth amryw anhawsterau ar ei ffordd i gwblhau y trefn- iadau yn y mis hwn, ond hysbysir yn awr fod popeth yn myned ymlaen yn dra addawol, ac y ceir cyngerdd teilwng o'r cor ym Mai. Y bwriad ar hyn o bryd yw, rhoddi ail ddat- ganiad o waith Elgar, Caractacus," ac hefyd The Pied Piper of Hamelin," gan Sir Hubert Parry. Ar yr achlysur, cynorth- wyir y cor gan nifer o unawdwyr o'r rheng flaenaf, a bydd cerddorfa o dros drigain o offerynwyr yn gofalu am y cyfeiliant arferol.

Advertising

[No title]

"SHIRGAR."

A BYD Y GAN.