Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

O'R WLAD I'R SENEDD.

News
Cite
Share

O'R WLAD I'R SENEDD. Y FRWYDR FAWR YN AGOSHAU. UNO Y RHENGOEDD RHYDDFRYDIG. Heddyw wele'r cadau gwleidyddol wedi. -dychwelyd i Lundain. Ar ol deufis o ysgar- mesoedd ar hyd a lied y wlad, daw'r cyn- rychiolwyr i Westminster, lie yr ymleddir yr Armageddon fawr. Pa un ai'r werin ynte'r Arglwyddi fydd yr enillwyr amser, yn xmig a ddengys; ond mae'r rhagolygon yn hynod o foddhaus i achos y bobl ar hyn o bryd. Bu'r Canghellor a'r Prif Weinidog, ac amryw o wyr blaenaf y blaid, am seibiant ar y Oyfandir dros rai dyddiau, ac maent wedi dychwelyd yn llawn hyder am y dyfodol. Tymor o adgyfnertliiad coriforol yn unig fu'r seibiant hwn, a chafodd gwleidyddiaeth a dyrys bynciau y Cyfansoddiad Prydeinig lonydd am y tro. Mae'n wir fod y wasg Doriaidd wedi ceisio gwneud melin ac eglwys o'r ymweliad a'r Cyfan- dir, a chysylltu rhyw Iwriadau cyfan- soddiadol pwysig ynglyn a phob symudiad o'r eiddynt. Buont yn creu ymweliadau ac ymgynghorfeydd dychmygol cydrhwng y naill Sen- eddwr a'r Hall, ond dychmygion ac anwireddau oedd y cyfan. Ni fu'r Canghellor yng nghwmni Mr. Asquith, ac ni cheisiodd y Prif Weinidog boeni neb o'r Seneddwyr, a gyfarfu, ag helyntion gwleidyddol y Cyfnod. Yr oil a wnaed ganddynt oedd mwynhau eu hunain, ac ang- hofio pob gwahaniaethau pleidiol am y tro, a gwnaethant hynny er mawr leshad i'w cvflyrau iechydol. Dechreu Gwaith Ond bellach mae tymor y mwyn- iant wedi gorffen, ac wele pob gwr yn ol wrth ei orchwyl yn paratoi gogyfer a'r ornest sydd gerllaw. Ac mae pob un o honynt yn galonogol am y canlyniadau. Ar ei ddychwel- iad i Lundain ddechreu'r wythnos, datganodd Mr. Lloyd George ei farn fod yr oil o'r pleidiau Rhyddfrydol yn barod i uno fel un gwr yn erbyn honiadau Ty'r Arglwyddi, ac er cymaint a geisir gan y wasg Dori- aidd i hudo'r cyhoedd oddiar lwybr eu dyledswydd, teimlai ef yn ber- ffaith- foddhaol ar yr arwyddion, a chredai nad oedd neb o'r blaid mor ffol a gwrando ar y gau broffwydi, sy'n awr, ar ol colli yn yr etholaethau, yn ceisio dyrysu cynlluniau y Rhyddfryd- wyr yn y Ty. Marw Diffyndollaeth Wrth edrych dros y ffigyrau a gyhoedd- wyd ar derfyn y frwydr, y mae'r mwyafrif yn bendant yn erbyn Diffyndollaeth. Yn wir, ceir hyn yn Lloegr ei hun, ar wahan i farn y gwledydd ereill, canys er fod mwy o Doriaid yn cynrychioli Lloegr yn y Senedd, eto yr oedd mwyafrif y pleidleisiau a rodd- wyd yn ffafriol i Fasnach Rydd. Yng ngwyneb hyn, ni feiddia'r Wrthblaid :gynnyg mesur Diffyndollol yn awr, ac yn wir byddai hynny yn groes i gyngor rhai o arweinwyr callaf yr Undebwyr yn ogystal a barn rhai o'r prif bapurau yn y Deyrnas. Y Cyfarfod Cyntaf Trefnir ar raglen y tymor yn y cyfarfod cyntaf yr wythnos hon, ac un o weithred- iadau cyntaf y Rhyddfrydwyr fydd cwtogi ar hawliau y Ty Uchaf. Pa un a gani- teir hyn ai peidio, nid yw'n eglur eto, ond y mae Mr, Asquith wedi datgan yn groew dros ad- drefniad, ac os na wneir hyn, daw y blaid i'r un dinystr ag a'i goddiweddodd pan fu mor wangalon yn 1906. Gwell gan yr etholwyr gefnogi ymladdwyr dewr na rhyw gymodwyr parhaus, ac os ydym yn deall rhywbeth am gymeriad Mr. Lloyd George, credwn ei fod yn ymladdwr di-ildio pan fo pynciau o egwyddor fel hyn i gael eu trin. Os gorfodir etholiad arall, ni raid digaloni, er ar yr un pryd, credwn y dylai'r pleidiau Rhyddfrydig fod yn ddigon gwrol a phen- dant i wrthod y diraddiad parhaus hwn o orfod gofyn am farn y cyhoedd cyn y rhydd Ty'r Arglwyddi ei fendith ar eu trefniadau. Esgusodion y Toriaid Yr esgusawd mawr sydd gan y blaid Doriaidd dros wrthwynebu cynlluniau y Weinyddiaeth bresennol yw, nad yw'r wlad wedi cyhoeddi yn bendant o blaid Mr. Asquith. Dosrannant y blaid Ryddfrydig i fan bleidiau, tra y cyfrifant yr Undebwyr a'r Ceidwadwyr yn un. Eithr yn yr ysgarmes etholiadol dylid cofio fod pob adran o'r blaid Ryddfrydig, yn ogystal a'r Gwyddelod, yn ymladd yn bennaf ar bwnc Ty'r Arglwyddi MR. DAVID RHYS. a'r Gyllideb, a chan fod mwyafrif o dros 120 yn cefnogi Mr. Asquith yn y pethau hyn, ni ddylid ar un cyfrif adael i lais y wlad fyned yn ddisylw. Wrth gwrs, myn y blaid Dori- aidd wneud yn fawr o'u bachos a'u llwydd- iant, eto pan gofir mai dim ond ad-ennill banner nifer y seddau a drowyd gan y Rhyddfrydwyr yn etholiad 1906 a wnaethant, nid yw eu hachos wedi cael y lath groesaw ag a obeithid ganddynt ar y dechreu. Lie Collodd y Rhyddfrydwyr Fel y mae'n hysbys bellach, ym maesdrefi Llundain a'r Siroedd cylchynol, trwy ddylan- wadau y brif-ddinas y collodd y Rhydd- frydwyr yn bennaf. Mae byn i'w briodoli i esgeulusdra y blaid ynglyn a rhoddi man- ylion priodol i'r llafurwyr gwledig, yn ogystal ag i arferion y coeg-dyddynwyr o geisio efelychu yr Arglwyddi Ileol ymhob dim. Profodd yr ardaloedd gweithfaol eu bod yn hollol gadarn dros eu hawliau, a chyn y gellir gobeithio, am unrhyw lwydd- iant ar Ddiffyndollaeth rhaid e-nnill etbolwyr ardaloedd y mwnfeydd yn llwyr. Yn yr Alban, fel yng Ngbymru, He mae'r gwerin- wr yn arfer meddwl trosto ei hun, yr oedd y bleidlais yn aruthrol dros Fasnach Rydd, a phan lwyddir i roddi addysg i'r gwerin- wr yn Lloegr, a dysgu iddo ysbryd llai gwasaidd, mae sicrwydd yr ad enillir nifer liosog o'r seddau a gollwyd am y tro. Mae'n wir fod llu o esgusodion wedi eu cyhoeddi ar ran ymgeiswyr aflwyddiannus. Ceir y rhai hyn gan y ddwyblaid ar ol pob etholiad, ac nid yw esgusodion 1910 yn gwahaniaethu ond pur ychydig oddiwrth y rhai a gyhoeddwyd ar ol 1906. Barn Mr. Dafydd Rhys Gwir mai cadgyrch anobeithiol i'r Toriaid fu eu hymosodiad ar y seddau Cymreig. Rhyw bedair o seddau sydd yn anwadal eu hanes yng Nghymru, a chollwyd dwy o honynt y tro hwn. Mae dau o ymgeiswyr wedi dweyd eu barn yn lied onest. Yn un o bapurau Cymru dywed Mr. Fox Davies- yr ymgeisydd dros Ferthyr-mai yr unig reswm paham na lwyddodd ef oedd y ffaith syml nad oedd digon o Doriaid yn yr ethol aeth. Mae hwn yn addefiad gonest, a gall yr oil o'r ymgeiswyr aflwyddiannus ereill ddweyd Amen i'r fath wir- ionedd, ond myn Mr. Dafydd Rhys fod rhagor na hyn yn ei etholaeth ef. Mewn ymgom a gohebydd y CELT yr wythnos hon, dywed ei fod yn ber- ffaith foddlawn ar y canlyniadau, ac nid oedd ganddo yr un achwyniad am ddyfarniad y bobl rhagor na'r ffaith syml eu bod wedi dewis estron o Sais yn hytrach na chefnogi gwr o'u tylwyth eu hunain. Mae'n rhaid addef," meddai, fod Cyllideb Mr. Lloyd George yn bob- logaidd iawn yn ardaloedd y gweith- feydd, a dylai'r blaid Ryddfrydol heddyw fod yn ddiolcbgar i'r gwr o Gaernarfon am eu hachub o lwyr ddifodiad. Efe, ac nid neb arall, enillodd y frwydr hon, a chredaf, pan fydd y trefniadau presennol allan o'r ffordd, y gwelir canlyniadau ereill i etholiadau Cymreig." Yn bersonol, rhaid addef i mi gael derbyniad boneddigaidd gan yr etholwyr yn gyffredinol, ag eithrio y pregethwyr Ymneilltuol. Mynnai y rbai hyn fy nghyhoeddi yn fradwr am nad oeddwn yn cydolygu a hwy ar brif bwnc cyllidol y Deyrnas a'm profiad o bonynt yw, eu bod y dos- barth mwyaf erlidgar a tbrahaus yn yr holl ranbarth." Credaf i mi wneud llu o gyfeillion yn y Gogledd, ac mae gennyf adgof- ion cynnes o'm derbyniad croesawgar, ac ni fydd arnaf ofn eu gwynebu eto ar unrhyw fater sydd o les i genedl y Cymry fel cyfangorff." "I ddangos culni un o'r brodyr Ymneill- neilltuol, ysgrifennwyd ataf gan un o'm gwrthwynebwyr, gan ddweyd ei fod ef yn bwriadu rhoddi ei bleidlais i lesu Grist, ac mae'r ymgeisydd agosaf i'w syniad ef yn hyn o fater oedd Mr. Hemmerde Yr oedd ceisio esponio yngwyneb datganiad o'r fath yn anobeithiol!

[No title]