Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

---YN Y GLORIAN.

News
Cite
Share

YN Y GLORIAN. Wedi gorffen o'r ornest ar faes yr ethol- aethau, y mae dyddordeb y gwleidyddwr yn cael ei gyfeirio, yn naturiol, i ardal West- minster y dyddiau hyn. Mae tynged y blaid Ryddfrydig yn ogystal ag awdurdod Ty'r Arglwyddi yn y glorian; ac mae dyfodol rhyddid ein gwlad yn dibynnu yn hollol ar ymddygiad Mr. Asquith a'i wein- yddiaeth yn ystod wythnosau cyntaf y Senedd-dymor. Gwir fod yr anhawsterau yn fawrion a'r cynghorwyr yn lliosog ar y daith; er hyn oil, y mae llwybr y blaid yn hollol oleu, a'r unig ofnau yn awr ydynt, fod canlynwyr Mr. Asquith yn teimlo yn rhy lwfr i ymosod ar y gelyn ar unwaith, a phenderfynu, unwaith am byth, pa un ai y bobl ynte'r Arglwyddi sydd i fod yn ben ym Mhrydain. Myn rhai cynghorwyr mai dilyn cynllun- iau 1906 sydd oreu i'r blaid, a cheisio cymodi a'r gwrthwynebwyr ymhob am- gylchiad. Y ffaith onest yw, mai dyna fu damnedigaeth y blaid yn y flwyddyn honno Dangosodd y Rhyddfrydwyr eu bod yn rhy lwfr, drwy geisio ymddwyn yn foneddigaidd, a dylai'r wers a gawsant y pryd hynny fod ar gof a chadw yn awr. Unwaith y dech- reuir cymodi a chytuno ar y modd i ad- drefnu Ty'r Arglwyddi fe gyll y wlad bob dyddordeb yn y pwnc, ac ni fydd gwaeth ganddi gael ei rheoli gan Doriaid yn hollol na chael ei rheoli yn rhannol trwy gyfadd- awdau parhaus. Mae'r etholwyr wedi datgan eu barn, a gwaith pendant y Senedd- wyr ddylai fod i ofalu fod caie; yr etholwyr yn cael ei ateb yn briodol. Cyhoeddodd Mr. Asquith yn bendant, ar ddechreu yr ornest, na byddai iddo ef nac un Rhyddfrydwr arall ffurfio gweinyddiaeth hyd nes cael dealltwriaeth clir ar safle Ty'r Arglwyddi ynglyn a materion ariannol y wlad. Nis goddefir i'r Ty Uchaf ymyrryd dim a gofynion cyllidol y Deyrnas; ac ymhellach na hyn, ceisir rhoddi atalfa ar eu gallu i rwystro un math o fesurau os bydd i'r mesurau hynny gael ymdriniaeth briodol ar lawr Ty'r Cyffredin ddau dymor yn olynol. Deddfwrfa i ddiwygio ein cyfreithiau newydd yn unig ddylai Ty'r Arglwyddi fod, ac nid Ilys lie y gellir gwrthod yn hollol bob cais a wneir ar ran unrhyw weinyddiaeth Rydd- frydig. Nid oes un anhawster ar y ffordd yn awr, nac unrhyw gamddealltwriaeth ynglyn ag apel Mr. Asquith ar ddechreu yr ymdrafod- aeth, ac felly y mae'r llwybr yn glir. Yr unig fater i'w benderfynnu fydd, pa un ai y Gyllideb ynte ad-drefniant Ty'r Arglwyddi gymerir gyntaf. Mae'r ddau yr un mor bwysig, ac mae'r wlad wedi rhoddi ei llais tros y naill a'r Hall. Ond pa un bynnyg a gymerir gan y blaid Ryddfrydol, y mae'r wlad yn disgwyl y bydd iddi ymwneud ag ef gyda chalon ddewr ac yn ddi-ildio. Bydd pob petrusder yn arwydd o lwfrdra, ac ni haedda'r llwfr byth gael ail-gefnogaeth y cyhoedd, mewn achos mor bwysig i'n bodol- aeth fel gwerin rydd ag sydd tan ystyriaeth y Senedd ar ddechreu y tymor hwn.

NODIADAU LLENYDDOL.