Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
1 gr f f lt"jT BAIRYMEM S UPPL:J:ED ■ A I I MM In any part of London and Suburbs with Itfl I I U RICH, GOOD KEEPING MILK If I I I I II DIRECT FROM THE FARMS. I g | B H 1 1 Over 50,000 Samples tested annually in our Laboratories. WHOLESALE ONLY. DAIRY SUPPLY CO., LTD., Chief Office: MUSEUM ST., LONDON, W.C.
EISTEDDFOD BATTERSEA
EISTEDDFOD BATTERSEA Er cymaint yr atyniadau gwleidyddol y dyddiau hyn, myn y Cymro gael ei Eistedd- fod, a dangoswyd pybyrwch cenedlgarol Cymry ardal Battersea nos Iau ddiweddaf mewn modd poblogaidd, trwy gynnal eu gwyl flynyddol yn neuadd drefol y rhan- barth. Trodd y cyfan yn hynod lwydd- iannus, o dan yr amgylchiadau ac er fod y cynulliad yn llai nag y gobeithiwyd, eto cafodd y gwrandawyr raglen rhagorol o ganu a chystadlu ar faterion Cymreig. Yn absenoldeb Mr. Edwin Evans, llywydd- wyd gan Mr. Horace Davies, y Cyfreithiwr, yr hwn draddododd anerchiad addas i'r Wyl. Yr arweinydd oedd Mr. Watkin Jones, King's Cross, yr hwn wnaeth ei orchwylion yn hynod drefnus, a llwyddodd i gadw'r hwyl o'r dechreu i'r diwedd. Beirniadwyd y gwahanol ymgeiswyr gan y personau a ganlyn:-Cerddoriaeth, Mr. Oaradog Roberts, Mus.Bac., Rhos, yr hwn a r,)ddodd foddlonrwydd cyffredinol; Bardd- oniaeth, Machreth ac Elfed; Rhyddiaitb, Parchn. D. C. Jones a John Humphreys; Oyfieithiadau a'r Adroddiadau, Machreth a T. Huws Davies; Celf, Mrs. Wm. Davies, Mrs. D. Richards, a Miss Sarah Griffiths. Isod wele restr o'r buddugwyr yn y gwa- hanol adrannau Prif Gystadleuaeth Gorawl Un cor, Willesden. Cor Plant: Un cor, Jewin. Her Unawd: Miss Annie Thomas, Hackney. Solo Bass Rhanwyd y wobr rhwng J. Stanley Davies, Kiug's Cross, a John Hughes (City Boy). Tenor Hugh Williams, Brunswick. Contralto: Miss Irene M. Owles, North Bank, Dover. Soprano Miss Annie Thomas, Hackney. Deuawd Mri. John Humphreys (Chelsea) a David Thomas (Castle Street). Unawd ar y Berdoneg: Miss Lizzie Hughes, St. Padarn. Adroddiad i rai dan 10 oed 1, Ian Davies, Radnor Street; 2, Miss Mary Richards, Battersea Rise Adroddiad i rai dan 16 oed Rhannwyd y wobr rhwng Miss Ashton, Beauchamp Road, a Miss Oissie Jones, Jewin. Adroddiad i rai mewn oed Caronian," Jewin. Rhoddwyd ail wobr i "loan," Park Road, Battersea. Table Centre: Miss Sallie Tomkins, Llandilo. Hosanau Mrs. J. Thomas, Hammersmith, Cushion Cover: Miss Dorothy Davies, Falmouth Road. Blouse: Miss Lydia Williams, Dihewyd, Ceredigion. Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg: Mr. T. R. Thomas, Council School, Lower-Cwm- Twrch, Swansea Valley. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg Neb yn deilwng, Traethawd Mr. Isaac Williams, Bruns- wick. Englynion Mr. E. Richards, Heol-y- Graig, Swansea Valley. Y Gadair: Mr. W. Jones (Gwilym Myrddin), Rhyd Amman, Caerfyrddin. Enillwyd y Fedal Aur" am werthu y nifer liosocaf o docynau gan Mrs. Jenkin Davies, Amner Road. Yr oedd yn siomiant gweled y corau Cymreig wedi cilio o faes y gystadleuaeth. Beth yw y rheswm am hyn ? A ydynt yn ofni cyfarfod a'r ymgeiswyr Seisnig ? Mae'n amlwg fod rhyw ddiflasdod wedi dyfod tros ein partion lleol, ond hyderwn mai dim ond am amser byr y mae hyn. Y mae'r ysgrif- enyddion yn haeddu clod am eu gweith- garwch ynglyn a'r Wyl, a dylai'r Eisteddfod yn flynyddol ar ol hyn, ddod yn un o uchel- wyliau y rhanbarth. Y BEIRNIADAETHAU. Pryddest AWELON HYDREF." Ymddengys nad yw'r oil o'r cystadleuwyr yn cytuno ar ystyr y testyn. Cymer rhai o honynt ei fod yn golygu awelon mis Hydref, a'r lleill awelon y tymor o ddechreu Awst hyd ddiwedd mis Hydref. buasai n well gennyf fi gael pryddest ar ystyr gyntaf yr ym- adrodd, am y caem felly gan gryno, gymhesur ond wrth ddechreu tua gwyl y Bangc, y mae'n ormod o demtasiwn i'r ymgeiswyr grwydro i bob man. Ond yn hyn o beth, nid oes gan feirniad hawl i fynnu ei ystyr ei hun. ALUN WYN.—Y mae llawer o deimlad tyner yn ei gan, ond rhy fach o'r Awelon." Byddai Hydref yn well teitl iddi. Y mae'n ysgrifennu'n syml a digon di fai. CLYCHAU'R HWYR.-Credwn na ddywedwn fwy na'r gwir pe dywedwn fod mwy o ryw nwyfiant barddonol yn y gan hon nag yn un o'r lleill. Ond nid yw o dan reolaeth o gwbl. Y mae yn llamu ac yn fflachio yma a thraw, fel yn y diwedd nid oes gennym fawr wedi aros Er engrhaifft, beth yw ystyr hyn A brig y nos yn plethu'n drwm Am blu ei aden brudd ? ALLTUD Y BRYNIAU. Nid oes yma fawr o'r awelon," er fod yma gryn lawer o'r "hydref." Y mae'r gan yn wasgarog iawn. Y mae ganddo 6 pennill i ddarlunio hel cnau nid oes gennym fawr yn eu herbyn ond pa le mae'r awelon yr holl amser? Gyda Haw, dywed iddo (neu iddynt) dreulio "llawer awr i dynnu lawr y gangen. Rhaid fod honno'n gangen go ryfedd. Y mae hyn yn engrhaifft o'i ddull dibris o eirio ar adegau. Ond ceir ganddo hefyd lawer darn bach dymunol. DEILEN GRIN.—Pryddest syml, ond lied gyffredin ei syniadau a'i harddull Gormod o hono ei hun, a rhy fach o Natur, sydd gan hwn, fel ereill yma. Pam nad allai'r beirdd roddi i ni am dro ddisgrifiad syml, yng ngoleu'r awen, o faes neu goedwig, dan awel Hydref, yn lie pregethu neu athronyddu, neu feddwl eu hunain allan i olygfeydd natur ? Y MEUDWY.-Pryddest goeth o ran ei harddull, ond ychydig yn farwaidd. Y mae'r awdwr fel pe heb gynllun clir, ac yn gwneud ei gynllun wrth fyned ymlaen. Beth bynnag, dyna'r argraff adewir gan ei gerdd. Nis gwn pam y darlunia'r bore llwyd fel yn ddi-sawr." DYN O'R WLAD —Lie mae hwn yn curo ei rag- flaenydd yw, ei fod yn fwy hoenus, yn fwy clir e gynllun, ac yn ei naturioldeb yn dod yn nes at y galon. Nid yw heb rai brawddegau chwithig. Tybed na wyr pa bryd y mae tymor y mefus yn darfod ? Y mae "penrhynau bras" yn glogyrnog; ac "ys- gubo'r nef yn IAs ynrhy ddaearol. DAN YR AWEN.-Pryddest ag ynddi lawer o feddwl, ond fod tuedd yn yr ysgrifennydd i droi at ryddiaith yn rby fynych. Dechreua mewn rhyddiaith Awelon Hydref !—mor hanfodol ynt I angenrheidiau bywyd. Ac eto Awelon Hydref ddeil gysylltiad llawn A ffeithiau. Peth arall sydd gennym i gwyno arno yw, er fod awelon Hydref yn cael eu henwi yn fynych, y maent bron fel eiry mynydd" yr hen feirdd gan leied o berthynas sydd rhyngddynt a llawer o'r sylwadau fydd yn dilyn. Y mae'r tri hyn, "Dan yr Awel," CI Melldwy," a Dyn o'r Wlad yn dod yn agos at eu gilydd ond er nad yw "Dyn o'r Wlad" heb rai diffygion, ystyriwn ef yn oreu, o ryw gymaint, ac yn deilwng o'r gadair. ELFED. ————— MACHRETH. Dau Englyn Y GïACH," Daeth chwech o gyplau i law. Sylwir arnynt fel y canlyn GWYDDON.—Y mae gwallau yn yr englvn cyntaf ac mae'r nil yn ddiystyr. HEN HELIWR — Dyw^.l f fod y giach "n "fuan a bywiog ail-adrodliad noetli. Cytfrtdin rhyfeddol yw'r ddau englyn drwyddynt. YMDEtTHYDD Y MYNYDD MAWIZ -Cyffl'edil-I iawn eto. Yn y linell gyntaf oil ceir "yswil tdyn" • y mae'n amlwg mai "yswil etln" a feddyiid, eithr gorfodai'r gynghmedd y bardd i droi'r edn yn edyn. Ni thai peth fel hyn. BRWYN Y GoRs.-Dywed y grai-naiegau fod c yn y gair ac pan y'i dilynnir gan air yn dechreu gydag h yn gotyn c i'w hateb ac nid g. Anghofiodd" Brwyn y Gors" hynny. A beth yw ystyr y fath ymad- rodd a lleithr ei osgo ? GLAN Y GORs.-L'awer rhagorach na'r un fu dan sylweto. Mwy disgrifiadol a naturiol. Prin y mae dyrr t-i phall" yn ymadrodd hapus am "dyrr ei nhewyn." Llithrodd gwall i drydedd luellyrail englyn. UNIG WR YN Y GORS.-Yingais dda mewn cyng- hanedd gywir. Gallasai'r mynegiad fod wtithiau'n loewach. Llinell wael yw, « Brig awel ga'i hediad." Nid yw lawn mor naturiol a disgrifiadol a ulan y Gors," ond gan ei fod yn ddiwall a hwnnw'n wallus, iddo ef yr a'r wobr. El FEU MACHRETH. CYFIEITHIADAU, O'r Saesneg i'r Gymraeg.—Pump o ymgeiswyr sydd yn y gystadleuaeth, a blin gennym orfod dweyd eu Lod i gyd yn ddiffygiol iawn. Y mae'n rhaid cyfadde fod y dernyn yn un anodd dros ben i'w osod mewn Cymraeg gloaw ac ystwyth, ond er hynny, disgwyliem lawtr gwell gwaith nag a geir gan un o'r pump. Y maent wedi cloddio geiriau allan o ryw hen eiriaduron llwydion, geiriau na ddefoyddiwvd mohonynt erioed mewn Ilenyddiaeth, ac na ddeallir gan neb. Gwaeth na hynny, y maent wedi anghotio fod gan iaith ei phriod-ddull arben- nig. Peth c-is yw atal gwobr, yn enwedig mewn cystadleuaeth o'r fath yma. Ond rhaid cael rhyw- faint o deilyngdod, ac ni fedrwn o gydwybod wob- rwyo yr un o'r rhai hyn. O'r Gymraeg i'r Saesneg.-Nid yw'r dernyn Cym- raeg mor anodd i'w droi i iaith arall a'r dernyn Saesneg. Yn anffodus Ilithrodd gwall iddo fel y mae yn y rhaglen-11 ffeithiau pleserau" yn lie "ffeithiau pleserus," ond nid yw amryw o'r naw ymgeisydd yn gwybod Cymraeg yn ddigon da i weled mai gwall ydoedd. Ond nid camddeall geiriau yw'r bai mwyaf yn y cyfieitbiadau hyn, eithr anghofio fod y fath beth yn perthyn i iaith a phriod-ddull, ac mewn canlyniad y mae'r mwyatrif o honynt wedi ysgnfennu Cymraeg yn y Saesneg. Credwn fod yma ori yu rhagori—"Aspirin," "Silvan," a "Tempus fugit." O'r tri hyn, y di- weddaf ydyw'r gorcu. Galltm feddwl bi fod wedi ysgrifennu mewn tipyn o frys, pe cymerasai ychydig yn rhagor o amser at y gorchwyi, credwn y gwnaethai berffeithiach gwaith. Ond y mae hwn yn gyfieithiad pur ganmoladwy, a barnwn ei fod yn teilyngu'r wobr. T. Huws DAVIES. J. MACHRETH BEES.
Y DYFODOL.
Y DYFODOL. Boed i Ysgrifenyddion y gwahanol Gymdeithasau anfon ar fyrder restr o'u cyfarfodydd arbennig, i'w gosod yn y Golofn hon. SW- Gosodir y Cyfarfodydd, etc., a hysbysebir yn y CELT, yn rhad yng ngholofn Y Dyfodol," ond codir tdl o 1s, yr un am y rhai na hysbysebir. Chwefror. 17-Glamorgan County Dinner. 17-Cwrdd Te a Chyngerdd Blynyddol y Bora', 19-Eisteddfod Flynyddol y Tabernaci. 24—Cyngerdd Cor y Tabsrnacl. 28-Gwasanaeth Gymraeg Genedlaethol yn St Paul. Mawrth. 10-Falmouth Roid. Cymanfa Flynyddul DJir- westol y M.C. V