Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. SEIBIANT.—Wythnos o seibiant yw hon i'n Seneddwyr newydd, ond mae amryw o honynt wedi bod ar ymweliad a'r ddinas i wneud trefniadau gogyfer a'r tymor. AR Y CYFANDIR y mae Mr. D. Lloyd George yn treulio ei gyntun, a daw yn ol erbyn y cynhadleddau gwleidyddol, y rhai a gynhelir ganol yr wythnos ddyfodol. YMLADD ETo.-Er mai anffodus fu Mri. David Rhys ac R. 0. Roberts yn yr etholiad ddiweddaf, y mae'r ddau yn tystio eu bod yn trefnu i ymladd yr un lleoedd eto yn yr ornest nesaf. Rhaid i Ryddfrydwyr M6n a Dinbych edrych ati! Y CYMMRODORION. Traddodwyd papur dysgedig ar nodweddion Cerddoriaeth Gym- reig, a rhai o draddodiadau lleisiol ein halawon, gan Dr. Alfred Daniell, gerbron aelodau Cymdeithas Anrhydeddus y Cym- mrodorion, nos Iau yr wythnos ddiweddaf. Llywyddwyd gan Syr John Rhys, Rhyd- ychain, a chaed sylwadau addas ar y papur dysgedig a chraff gan Mrs. Mary Davies, Mr. W. Llewelyn Williams, Parch. Elfet Lewis, ac ereill. MARWOLAETH MR. JOHN JONES, CATFORD.— Bydd yn chwith gan gyfeillion lliosog y brawd ieuanc uchod i glywed am ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn ei breswylfod, 6, The Parade, Sandhurst Road, Catford, S.E. Mab ydoedd i Mr. a Mrs. Rhys Jones, Maeswallter, Senny, Swydd Frycheiniog. Priododd a Miss S. A. Thomas, Beilian, Senny, a daeth- ant i Barnsbury, N., i gario ymlaen fasnach. Wedi hynny aethant i Catford. Tua dwy flynedd yn ol gafaelodd y cancr yn ei wyneb ef. Bu dan driniaeth feddygol yng Nghlaf- dy Bartholomew, Llundain, am wythnosau. Aeth yn raddol waeth, a bu yn ddioddefydd mawr iawn am y saith mis diweddaf. Gwnaeth ei briod garedig a'i feddyg galluog eu rhan iddo yn ei gystudd. Cafodd oll- yrjgdod o'i waeledd fore Saboth, Ionawr 23, ac efe ond tair-ar-ddeg-ar-ugain mlwydd oed. Brawd addfwyn, tawel, dioddefus, a chref- yddol oedd efe. Disgynai o gyff enwog ar ochr ei .dad a'i fam. Bydd enw ei daid, John Jones, Maeswallter, yn wyrddlas yn ardal y Brychgoed dros lawer oes. Cedr- wydden gref ym mynydd Duw ydoedd. Mae ein nain, Mrs. Morris, Brynaman, Sir Gaer- fyrddin, byw eto yn diif ac iraidd yn ei henaint.1 Claddodd^Mr. Jones ei unig ferch yr Hydref diweddaf yn Godstone, Surrey ac yn yr un bedd a hi y gorchymynodd gael ei gladdu. Bore Iau, Ionawr 27, aethpwyd a'i gorff i'r gladdfa. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan ei weinidog, y Parch. D. C. Jones, Llundain. Saif eglwys blwyfol God- stone ar dwyn yn un o lanerchau harddaf Lloegr. Diau fod harddwch y fro dawel yn gymorth i'w weddw, ei unig frawd, a'i fodryb, i ffarwelio a'i weddillion gan gredu ei fod ef a'i eneth fach yn iach mewn bro o harddwch digymar-y nef. Boed nawdd Duw i'w weddw ieuanc a'i mab bychan, a'i frawd a'r perthynasau Iliosog yn nydd eu trallod a'r storm. BORO'Nos Lun, Ionawr 24, bu y prif- fardd Machreth yn darlithio i Gymdeithas Lenyddol y Boro' ar Foes-ddysg a Moesau y Mabinogion." Cafwyd cynulliad Iliosog a darlith addysgiadol goeth. Dengys y ddar- lith hon o'r Mabinogion nad barbariaid disyniad am egwyddorion o iawnder, cared- igrwydd, hunanaberth, gwobr, a chosb, byd arall, a gallu uwchanianol yn rheoli mewn bywyd oedd y Prydeiniaid boreuol, ond llwythau ym meddu gwybodaethau bydol, meddyliol, ac ysbrydol. Creodd awydd dwfn yn y gynulleidfa i wybod mwy o hanes yr Iberiaid, y Goideliaid, a'r Brythoniaid yn yr ynysoedd Prydeinig. Ganad beth a roddodd y Saxoniaid i ni yr Iberiaid a'r Goideliaid roisant iddynt hwy grefyddolder natur a defnyddau goreu eu llenyddiaeth. Mawr y sarhau sydd wedi bod ers daufis neu dri ar y Celtic fringe; ond y gwir yw mai y Celtic fringe yw iachawdwriaeth Prydain heddyw fel ymhob oes Beth sydd yn y Sais yn fawr heblaw ei fol, ei frol, a'i frychau ? Pwy all enwi Sais gododd i enwogrwydd rhinweddol mewn unrhyw oes neu wlad heb fod ynddo waed y Celtic fringe ddirmygir ganddo ? Brath i lygad y Sais yw gweled y Celt gorchfygedig ganddo ef eto yn llywodraethu Prydain. Astudiwn hanes ein hynafiaid-byddwn ffyddlon i'n dyheuadau, a galluogir ni i fod yn athrawon i'r Saeson. Codwn y Sais i fod yn rhywbeth anrhaethol uwch na cheg a bol. BARRETT'S GROVE.—Mae Concert Barrett's Grove" erbyn hyn yn hen sefydliad. Y cyngerdd eleni oedd y pedwerydd a thri- ugain, a chymerodd le nos Iau, Ionawr 27, ac fel arfer yr oedd o'r radd flaenaf, a'r cantorion oil mewn hwyl rhagorol. Canwyd gan Miss Gertrude Hughes, Miss Tilly Bodycombe, Mr. Herbert Emlyn, a Mr. W. J. Samuell, ac adroddwyd gan Miss Ceinwen Price, yr hon sydd yn fuan hynodi ei hun ymyd areitheg. Cyfeiliwyd gan Mrs. Nellie Jones a Mr. Arthur Emlyn. Rhoddodd yr oil foddhad cyffredinol. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. Tudor Jones, Fulham, a chyfeiriodd yn ei araith at y cysylltiad oedd rhwng yr Eglwys yn Barrett's Grove a'r diweddar Gohebydd," yr hwn, drwy ei ysgrifau i'r wasg, a wnaeth gymaint ynglyn a dyrchafiiad cenedl Cymru. Diolchwyd gan y Parch. E. T. Owen, Battersea, i'r oil oedd wedi cymeryd rhan, yn enwedig y merched oedd wedi paratoi y danteithion. Mae gennym y boddhad befyd o gofnodi caredigrwydd Mr. a Mrs. Williams, Allen Road. Pythefnos yn ol rhoddwyd ganddynt, fel y mae yn arferol bob blwyddyn, d6 rhagorol i aelodau yr Ysgol Sul, a chafwyd ar ol hynny gyfarfod amrywiaethol, o dan lywyddiad Mr. Williams, Brighton Road.

[No title]

CWRDD BLYNYDDOL SYR JOHN PULESTON.

Advertising

---------CYMRU A'l HAELODAU.