Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

CYMRU A'R SENEDD.

News
Cite
Share

SYR D. BRYNMOR JONES. CYMRU A'R SENEDD. YR AELODAU NEWYDD. YR YMLADDWYR CYNTAF. Fel pob adran arall o'r Deyrnas, mae Cymru yng nghanol ei berw etholiadol y dyddiau hyn. Dechreuodd ar y gwaith o ,ethol ddydd LInn diweddaf, a phery yr ornest hyd ddydd Iau nesaf, pryd y disgwylir y bydd yr olaf o'r Siroedd yn rhoddi ei barn. Rhaid addef ar y cychwyn fod hon yn un o'r gornestau poethaf ydym wedi gael yn yr Hen Wlad. Mae pob etholaeth i gael ei hymladd, ac nid yw'r naill blaid na'r Hall wedi prisio dim am y gost; ac am yr haer- iadau ynglyn a gwaith y Rhyddfrydwyr a bwriadau y Toriaid, rhaid addef eu bod yn nodweddiadol o etholaethau yr oesoedd gynt, pan yr oedd ymladdfeydd yn rhan o ddi- fyrwch yr ymgeiswyr a'u cefnogwyr. Tref Abertawe oedd y gyntaf i xoddi ei dedfryd, a bu'r etholiad yno, y Llun di- weddaf, yn un hynod o fywiog. Yn an- ffodus i Gymru, nid oedd yr un o'r ymgeis- wyr yn rhai y gallai'r Cymro eu dilyn gyda chalon agored. Dewis-ddyn y Rhyddfrydwyr oedd Mr. Mond, masnachwr cyfoethog, a gwr o ddylanwad uchel yng nghylchoedd Llafur. MR. KEIR HARDIE.. Yn anffodus disgynnydd o deulu Ellmynaidd ydyw, ac ni wyr ond y nesaf peth i ddim am anghenion cenedl y Cymry. Oredai arwein- wyr masnachol Abertawe y gwnai cystal cynrychiolydd i'w rhanbarth a Syr George Newnes (y Sais), ac yn hyn o beth diau eu bod yn hollol gywir, canys y mae cael cefnogaeth gwr sydd a galwadau masnachol mor helaeth ar ei ddwylaw yn sicr o wneud lies i'r rhanbarth y mae yn ei chynrychioli. Yr oedd y Ceidwadwyr, hwythau, wedi penodi gwr o Sais i ymladd eu brwydr, ond ar wahan i'r ffaith ei fod yn ddyn lleol," nid oedd fawr o ddim i'w gymeradwyo. Nid oedd yn meddwl fawr o'r program Cymreig, ac yr oedd yn llawn o ragfarnau yr uchelwyr yn erbyn gwerin ymneilltuol Cymru. Ymladdwyd achos plaid Llafur gan Mr. Ben Tillett, gwr nad oes yr un rheithyn o syniadau Cymreig wedi myned i'w goryn erioed. Yn wir, rhyw drempyn gwleidyddol yw Ben, heb feddu yr un egwyddor, ac mae'n syndod meddwl fod dros fil o bobl yn Abertawe wedi bod mor benfeddal a chael eu hudo gan gymeriad mor sal o safle cenedl- aethol ag ydyw y gwr hwn. MR. W. LLEWELYN WILLIAMS. Ar ol gornest galed cyhoeddwyd y ffigyrau fel a ganlyn Mr. A. Mond (R) 6020 Col. J. R. Wright (C) 4375 Ben Tillett (Llaf) I 1451 Mwyafrif 1645 Wrth hyn gwelir fod Mr. Mond wedi curo'r ddau, a phleidleisiodd 11,846 o ethol- wyr allan o 12,935. Yn y ddwy ornest a ymladdwyd gan Syr George Newnes, yr oedd ei fwyafrif yn- 1906 1454 1900 1115 felly gwelir fod Cymru wedi dechreu ar ei thasg yn hynod o foddhaol i gadgyrch Mr. Lloyd George. Ar yr un diwrnod cymerodd yr etholiad le yn ardal Abertawe, lie y mae Syr D. Brynmor Jones wedi ei gynrychioli mor ffyddlon am flwyddi lawer yn y Senedd. Yma yr oedd yr ymgeisydd Rhyddfrydol wrth fodd calon y Cymro, a byddai yn anhawdd dyfod o hyd i unrhyw wr sy'n caru ei genedl yn fwy nag ef, nac un hanesydd a wyr ein hanes fel SYR FRANCIS EDWARDS. pobl yn well na Syr Brynmor. Ei ddiffyg pennaf yw ei geidwadaeth greddfol fel un o wyr y Gyfraith. Nis gall ef byth fod yn rebel: rhaid iddo gael rhedeg ar linellau "cyfansoddiadol a chyfreithiol" ynglyn a phob pwnc. Nid oedd ei wrthwynebydd o fawr fri, ac nid syndod, felly, oedd clywed cyhoeddi y ffigyrau a ganlyn ar hanner dydd y diwrnod wedyn :— Syr D. Brynmor Jones 8488 Mr. R. Campbell 2415 Mwyafrif 6073 'Roedd y mwyafrif aruthrol hwn yn galon- ogol iawn ar ddechreu y frwydr, a bu'r dylanwad yn llethol ar yr etholaethau a ddilynent yn yr un gorchwyl ar ddydd Mercher. Ddydd Mercher cymerodd wyth o ornestau le yng Nghymru. Yng Nghaerdydd bu Mr. D. A. Thomas yn ymladd ag Arglwydd Ninian, a chan fod y ddau yn ddieithr i'r etholwyr, yr oedd y brwdfrydedd yn fawr iawn. Ym mwrdeisdrefi Caerfyrddin cafodd Mr. W. Llewelyn Williams ymladdfa bur hawdd, ond yr oedd Merthyr, o'r ochr arall, yn frwydr hynod amhenodol. Yn y Gogledd pleidleisiodd etholwyr Bwrdeisdrefi Dinbych a Flint, dau le hynod o ansicr eu dyfarniad hyd yr awr olaf, tra yr II MR. D. A. THOMAS.