Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Bwrdd y Gol.

News
Cite
Share

Bwrdd y Gol. Er i'r Gol. roddi rhybudd arbennig uwchben y drws y buasai yn cau ei swyddfa yn gynnar yr wvth- nos hon fe barhaodd y torfeydd ddylifo i mewn hycl y fynud olaf. Y canlyniad oedd iddo orfod cau yn bur ddiseremoni, a hynny bron cyn cael amser i gyflwyno ei gyfarchiadau arferol i'r cyfeillion oeddent wedi llanw'r ystafell. Yr oedd wedi paratoi nifer o anrhegion erbyn y Nadolig a'r Calan, a hynny ar waethaf y deddfau mae'r Sais wedi eu gosod i rwystro pob rhodd garedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn; ond gan i'r amser fyned mor bell a'r miloedd o'r tuallan yn disgwyl am gynnyrch ei wasg cafodd yr oil eu hesgeuluso, a rhaid eu gadael hyd y flwyddyn nesaf neu i dawelwch tymor yr haf. Dechreuwyd y cwrdd trwy i'r Gol. wrando ar nifer o gwynion yn erbyn yr awdurdodau am beidio gosod i fewn rhai adroddiadau oeddent wedi eu gyrru i'r swyddfa. Ba'r doethawr mor dirion ag y medrai wrth y rhai a achwynent, a chaed allan mai eu diweddarwch yn dod i law oedd y rheswm pennaf. Nid yw'r Gol. yn fwriadol yn gadael yr un llith yn ddisylw, ac ond i'r gohebwyr fod yn brydlon a blasus rhoddir croesaw a lie iddynt ar unwaith. Ond cofier rhaid i'r hanesion beidio bod yn rhy hen fel ag fod yn ddiflasdod i'n darllenwyr hefyd.

Cydnabod Cydymdeimlad.