Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

MR. DAN PRICE.

News
Cite
Share

MR. DAN PRICE. Y mae gennyf y pleser o gyflwyno darlun y cantor hwn i'm darllenwyr a chan mai dyma'r un olaf a gyflwynir iddynt cyn diwedd y flwyddyn hon, bydded iddynt ei dderbyn fel "rhodd Nadolig Tybiaf ei fod yn un cwbl deilwng fel y cyfryw, canys nid oes un cantor Oymreig yn fwy o ffafr- ddyn na'n Dan ni Nis gallaf ddych- mygu iddo ganu mewn un lie heb iddo gael ail alwad. Ac yn sicr nid oes beiraiad cerddorol sydd yn fwy derbyniol nag ef- .am ei fod mor addysgiadol yn ei waith. I'r diben hwn y mae Rhagluniaeth wedi ei ddonio a gallu i siarad ac yn rhinwedd ei ymdaangosiadau parhaus o flaen y cyhoedd, y mae ganddo yr hunan-lywodraeth hwnnw '6ydd mor hanfodol i siaradwyr cyhoeddus. Goddefer imi roddi ychydig o'i hanes yma. Ganwvd ef yn Dowlais-pa flwyddyn nis gwn ond, gan iddo ennill banner y wobr ,,3m ganu Y Dymhestl" yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr, 1881, tybiaf y rhaid .ei fod y pryd hwnnw yn ugain oed o leiaf. MR. DAN PRICE. Ac eto y mae yn edrych fel na bae wedi gweled 30ain o flynyddau Os wyf yn peri iddo ymddangos yn hynach nag a ddylid, maddeuer imi. Dylaswn feddu blwyddyn ei enedigaeth. Yr oedd ei dad yn arweinydd y Gan yng Nghapel Gwernllwyn am amser maith. Bu dau frawd i Dan yn chwareu yr harmonium yn yr un capel, ac, yn ei dro, ba yntau hefyd. Ar agoriad yr R.O.M., yn 1883, ymgeis- iodd am scholarship, ac ennillodd hi. Bu yno yn astudio am bum mlynedd, ac wele ef ar derfyn ei efrydiaeth yno yn cael ei benodi yn athraw mewn datganiaeth! Yr un flwyddyn (1888) ymunodd a chor pwysig y Westminster Abbey. Ymhen deuddeng mlynedd, rhoddodd y swydd honno i fyny, gan ei bod yn ei gaethiwo yn ormodol o ran ei drefniadau cerddorol; ond y mae wedi glynnu hyd heddyw wrth ei swydd athrawol yn y Ooleg Breninol. Y mac wedi canu yn yr operiion canlynol: "Marriage of Figaro (Mozart), The Water Carrier" (Cherubini), Der Freis- chÜtz" (Webber), Merry Wives of Windsor (Nicolai), &c. Can odd yn y gwyliau adna- byddus canlynol: Caer, Peterborough, Here- ford, a Lincoln. Y mae nifer y cyngherddau mawrion y bu yn canu ynddynt yn rhy liosog i'w henwi—o'r cyngherddau yn y Royal Albert Hall i lawr. Yn 1899, bu ar daith yn Neheubarth Africa, a chafodd y pleser o ganu yn y cyflwyniad cyntaf o'r gwaith, Faust" (Berlins), yn y wlad honno. Yn 1901, teith- iodd drwy Canada—gyda'r Gan, wrth gwrs. Fel beirniad, y mae wedi gweithredu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd (1899), a Merthyr (1901). Yn yr wyl nesaf a gyn- elir yn Stratford bydd wedi ymddangos y chweched tro. Bu ddwy waith yn y South London Musical Festival. Y flwyddyn bre- sennol ydyw y bedwaredd un iddo feirniadu yng Ngwyl Gerddorol Preston, a'r ail dro iddo ymddangos yn Eisteddfod Bristol. Gallwn enwi nifer o leoedd ereill, ond nid oes eisieu. Y mae y rhestr bwysig a roddais yn profi yn ddiamheuol fod y wlad wedi deall ei gryfder yn yr adran bwysig hon o'r gelfyddyd gerddorol, a chlywir mwy eto am Mr. Price ar y fainc feirniadol, yn ddiau. Wele ef, hefyd, yn dechreu dod i'r amlwg fel arweinydd cymanfaoedd canu. Y mae yn dechreu ar y gwaith da hwn yn Mawrth, 1908, yn nhref ei enedigaeth, Dowlais, gyda'r Anibynwyr; a chan y gwyr mor dda y modd i ganu, a pha fath ganu ddylid ei gael, sicr gennyf y llwydda i wneud i gan- torion Dowlais fod yn fwy balch o hono ar ol y gymanfa na chynt! Gallwn yn rhwydd ddodi yma nifer fawro dystiolaethau i'w allu fel cantor, o amrywiol newyddiaduron y wlad ond wedi ei glywed droion, gwell gennyf roddi fy marn fy hun am dano. Yn y lie cyntaf, medd y sylfaen, sef llais da, yr hwn y gall ei drin fel y myn-a gofala wneud hynny fel artiste. Y mae yn y llais fwy o nerth nac o dynerwch o'r hyn lleiaf, credaf fod y cantor hwn yn fwyaf hapus gyda cherddoriaeth ddisgrifiadol-cerddor- iaeth ym mha un y mae cyfle i ddangos character. Teifl gymaint o elfen y dyn i'w ganu; rhydd gymaint o bersonoliaeth y cymeriad y mae yn ei bortreadu yn y ger- ddoriaeth, fel y mae yn hynod effeithiol ac argyhoeddiadol (convincing). Wrth wneud hyn, gofala am beidio gwthio ei hun i'r amlwg yn ormodol—fel y gwna rhai. Mewn gair, nid ydyw poblogrwydd wedi ei an- dwyo! Ceidw ei ben, a rhydd i ni bob amser ddatganiad meddylgar, cywir, a ffyddlon. Wedi dweyd cymaint a hyn o fy marn fy hun am dano, dyfynaf ychydig o sylwadau papurau Seisnig ein dinas Y PALL MALL GAZETTE.—Mr. Dan Price's Lucifer was spirited and vigorous, reminding us at times of Mr. Andrew Black's admirable impersonation of the same part. Y GLOBE.—Mr. Dan Price as Mephistopheles filled the role very creditably indeed. Y PALL MALL GAZETTE.—Mr. Dan Price was extremely good in the part of the Narrator (yn y gwaith, The Redemption.") Y STANDARD.—Mr. Dan Price acquitted him- self admirably (yn yr un gwaith). Y TELEGRAPH.—The baritone solos were safely entrusted to Mr. Dan Price. Y STRATFORD FESTIVAL HANDBOOK.—Mr. Price as a public singer is noted for his thorough sincerity and dramatic intensity, the grand ,quality of his heavy baritone voice, his passionate ifervour, his spirited and stalwart reading of his part, and his wonderful expression. As for his adjudications, every one is a miniature photo- graph of the performance-true, faithful, and invaluable. Y mae sylwadau fel yr uchod-rhai cwbl anibynol a didderbyn-wyneb—yn werthfawr iawn i'r cantor sydd yn ddigon ffodus i'w haeddu ac y mae y Wasg Seisnig yn ddigon .eofn i feio yn llym pan fydd galw, fel ag y mae yn ddigon parod i ganmol lie bo haedd- iant. Wrth derfynu y Ilith hwn, nid oes gennyf -ond gobeithio y caiff Mr. Price lawer iawn o iwyddiant eto, ac yr adlewyrchir ei glod ef fel cantor a cherdclor ar y wlad fach a'i magodd. PEDR ALAW.

[No title]