Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
PRUDENTIAL ASSURANCE COMPANY LTD. The Largest, Wealthiest and Best Company to assure in. Prospectus sent on application. Energetic men wanted for Agencies, good round to start on, salary and commission. —— apply SUPERINTENDENT OF AGENTS TO MR. G. H. HEAP. 1, ARGYLE SQ., KING'S CROSS. MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST, 10, TAVISTOCK PLACE, W.C. Single Teeth from 5/- Complete Sets. Upper and Lower from X4. Repairs executed at Moderate Charges. Old Cases Remodelled. Teeth Extracted, Stopped and Scaled. Siaredir Cymraeg oa yn fwy dymunol. ALDRIDGE'S HORSE REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE for business on THE MILK ROUND or for pleasure attend Messrs. ALDRIDGE'S Sales on Wednesdays and Saturdays at 10.30 a.m., UPPER ST. MARTIN'S LANE, LONDON W.C. Horses of every class sold by Auction each Wednesday and Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues forwarded. "Oes y Byd i'r Iaith Gymraeg." TH E L. C C. WELSH EVENING CUSSES are now being held at the HUGH MYDDELTON SCHOOL, Corporation Row, Clerkenwell (3 minutes from Farringdon St. District Railway Station) Elementary: Monday Evenings, 7.0 to 9.30 Advanced: Friday „ Fee for Session, Sis. 6d. Teacher: GORONWY OWEN, M.A. Correspondence to FF. ITHEL MORGAN, Whitehall House, Charing Cross, S.W. A +CAN NEWYDD SOPRHNO NEU DENOR. 6 "WflT J&SwJEL* IU £ GAN ELSIE ROBERTS. GEIRIAU GAN EIFION WYN. CYFIEITHIAD I'R SAESNEG GAN E. ANWYL, M.A. ZPJR.IS SWLLT. Copiau i'w cael gan David Jenkins, Mus. Bac. (Cantab), Aberystwyth.
----_._--_"Sub Rosa," fel…
"Sub Rosa," fel Cymro. Bu'r newyddiadurwr gwleidyddol, Mr. Spencer Leigh Hughes, yn annerch ychydig Gymry yn y Clwb Rhyddfrydol Cenedlaethol y noson o'r blaen. Rhoddi ei farn ar bync- iau gwleidyddol Cymry oedd amcan ei araith, a chaed hynny ganddo yn null nod- weddiadol y Sais. Er fod enw Mr. Hughes- yn dangos ei fod yn hanu o linach Gym- reig, rhaid addef mai Sais pur ydyw, mor bell ag y mae ei ddaliadau gwleidyddol yn myned. Yr oedd ei dad yn wir Gymro, ond bu raid i hwnnw druan fyned i Loegr i ennill ei fri fel pregethwr ac yng ngwlad y Sais, yn unol a thraddodiadau y Sais, y magwyd ac yr addysgwyd ei fab, S.L.H. Mae ei wybodaeth o Gymrll yn seiliedig ar ei astudiaeth o'r aelodau Cymreig yn y Senedd, a chan fod ei ddefnyddiau addysg mor wael, nid rhyfedd fod ei wybodaeth mor ddiffygiol! Mae'n wir iddo dreulio rhyw fis eleni yn ardal Aberystwyth, ac eto addefai nad oedd yr un gwahaniaeth cydrhwng anghenion gwleidyddol y Cymro a'r hyn oedd angen y Sais Iddo ef, fel Rhydd- frydwr Seisnig, gwna yr un deddfau y tro i bob rhan o'r ynys, ac wrth gwrs 'does wiw i neb ofyn am ddim, os na fydd y Sais hefyd yn gofyn am yr un peth. Gwir iddo addef fod pwnc Dadgysylltiad ychydig yn wahanol, ond ni eglurodd paham, ond am y pynciau ereill, 'does ar Gymru eisieu yr un gwelliant nad yw'r Sais a'r Ysgotyn mewn angen am dano hefyd. Dyna hen syniad y Sais erioed a dyna sydd wedi bod yn achos yr holl drafferthion yn yr Iwerddon er amser uniad y wlad honno a Phrydain Fawr. Myn y Sais y gwnai yr un deddfau y tro i'r Gwyddel ag iddo yntau. Erbyn hyn mae'r Rhyddfryd- wyr wedi gorfod addef yn wahanol, a chyd- nabyddant, ar ol cael eu curo gan y Gwyddel, fod yna wahaniaeth cydrhyngddynt. Ac wele Mr. Hughes yn defnyddio yr un hen ddadl yn erbyn y Cymry a'r Scotiaid yn awr Nid yw'n foddlawn addef unrhyw wahaniaethau cenedlaethol, nac fod unrhyw ddeddf sydd yn addas i Sais yn abl i fod yn ormes ar Gymro. Rhaid i ni, fel y Gwydd- elod, vmladd tros ein hawliau eto, mae'n eglur; a'r gwrthwynebwyr gwaethaf fydd gennym i'w gorchfygu fydd y rhith Rydd- frydwyr yma, a honant fod o'n tu, pan mewn gwirionedd mae gelynion tost i bob mudiad cenedlaethol ydynt. Soniai rhywun am osoi S.L.H. yn aelod tros ran o Gymru. Gwnai cystal aelod, yn ddiau, a'r rhai a'n cynrych- iolant heddyw, ond yn sicr nid dyma'r math. o bersonau sydd angen ar Gymru yn awr. Rhaid i ni wrth blant y bryniau, pobl a wyddant rywbeth am ein traddodiadau, pobl a. fedrant gydymdeimlo a phob dyhead gwlad- garol; ac nid rhywbeth wedi ei feithrin ar sothach gwlad y Sais a fedr la-aw Ite'r Cymro yn Senedd Prydain Fawr. Ac mae'n hen bryd dysgu hynny i'r dosbarth yma o wleid- yddwyr profeswrol, a gynrychiolir mor fiacnliaw gin Mr. Spencer Leigh Hughes. C)
-_--------__----------AR Y…
AR Y TERFYN. Wele ni bellaeh yn canu ffarwel i'r hen flwyddyn ffarwel i'r hon. y bu ein gobeithion mar fawr ynddi, ac am yr hoa y cyhosdd- asom fel gwlad eiriau lawer i'w chroesawu ddeuddeng mis yn ol. Rhyfedd mor fuan y teimlasom barodrwydd i ymadael a hi! A dyna arfer dynoliaeth ym mhob oes heddyw yn llawenhau a gorfoleddu, ac yforu yn crochlefain ymaith ag ef Ond cyn gorffen a'i dyddiau, gadawer i ni daflu cipdrem dros ei hanes, er gweled pa le y safwn fel cenedl ar derfyn ei thymor. A ydyw Cymru wedi gwneud y defnydd priodol o'i chyfle? A ydyw'r genedl wedi dadblygu i'r graddau a ddisgwyliem ar ddechreu yr ugeinfed ganrif? A phrun ai gwanychu ynte cryfhau mae'r ysbryd cened- laeihol o fewn ein tir wedi wneud yn ystod y deuddeng mis y buom dan ei nodded ? Ychydig dros flwyddyn yn ol, yr oeddem fel pobl yn llawenhau am mai crefydd Cymru oedd ei dylanwad cryfaf. Mae'n wir mai i'w dylanwadau crefyddol rhaid priodoli ei safle arbennig heddyw ond crefydd wedi ei thrwtho ag erlidiau a dioddefaint cenedl ydoedd hwnnw. Po fvvyaf y dioddef a'r ymladd ar ran gwlad, neu genedl dros ei chrefydd, mwyaf oil y cariad tuag ati a'r ymlyniad wrthi. Erbyn heddyw, mae'n crefydd yn chwareubeth teimladol, ac heb feddu'r asgwrn cefn hwnnw a alluogodd ein tadau i ddioddef erlidiau a gorthrwm dros eu. daliadau a'tt hegwyddorion. Buom yn pwysleisio ar anhegwch rhai deddfau neillduol, yn enwedig Deddf Addysg, ddwy flynedd yn ol, ac mae'r gwyn o hyd yn aros. Ond beth mae'r genedl wedi ei wneud yn ystod yr amser ? Mae wedi bron gollwng y cyfan dros got, a 'does heddyw yr un sibrwd am wrthwynebiad i'r Ddeddf, nac am aberth tros ddaliadau cydwybodol. Byddai'r oil mor gross i gymdeithas ag i'n har- weinwyr sy'n honni bod ar y blaen i'r genedl ym mhob peth. Swn ymraniadau, ar bob Haw, sydd wedi bod yn ystod ei dyddiau ymraniadau crefyddol ac ymraniadau cenedlaethol. Ond, trwy'r cyfan i gyd, mae ysbryd byw y genedl yn graddol ddadblygu, ac hwyrach na chaed cyfnod erioed yn ein hanes pan y bu pob dosbarth mor barod i uno ar bwnc hollol genedlaethol ag y maent heddyw. Pan mae llesiant cyffredinol y wlad i'w ganfod yn eglur, yna 'does yr un sain anhynaws yn yr holl gad, a dyna wedi'r cyfan un o arwyddion pennaf ein cynnydd heddyw. Angen mawr y genedl heddyw yw arwein- wyr wedi eu trwytho ag yspryd crefyddol a chenedlaethol y Cymro. Yr ydym yn meddu. ar un cad-lywydd yn barod, ac mae wedi profi ei gariad a'i sel tros ei genedl ar amryw droion, ond y mae angen am ereill o gyffelyb ysbryd aberth ag a gaed ynddo ef, a phan gyfyd y rheini, diau y daw ein cenedl i fwy o fri, ac i fwy o ddylanwad ar ffurfiad cymeriad ein cymydogion nag y mae wedi ei wneud eisoes. Nid oes eisieu digaloni. Mae'r arwyddion 1-1 yn ddigon gobeifcliiol, er cymaiat y cwyn. a glywir ar hyd y daifck Yn araf y mae pob diwylliant mawr yn gweitho, ac nid yw pob chwyldroad yn dod gyda rhuthr corwyntoedd. Ond i'r genedl fod yn ffyddlon i'w thraddod- iadau, i'w hegwyddorion crefyddol, ac i'w hysbryd cenedlaethol, nid oes berygl iddi golli ei dylanwad a syrthio yn ol i ddinodedd y cenhedloedd anghofiedig. Mae ein cyfle yn rhy fawr; ac mae arwyddion y flwyddyn sydd ar ein gadael yn tystio ein bod yn ymwybodol o'r cyfle, ac o'n gallu i fod yn genhadon ymhlith cenhedloedd bychain y byd.