Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR A.LAW, Mus.Bac. CAROLAU.—Mor hyfryd ydyw dwyn i got yr amser y bu rhai o honom yn canu carolau yn yr Eglwys neu y Capel yng Ngbymru! Onid ydym yn cofio cario'r llusern i'n goleuo, am chwech o'r gloch foreu y Nadolig, ar hyd y ffordd dywell i'r fynwent—yr olaf a barai ini fwyaf o ofn ofn cadw ymhell oddiwrth y llusern, rhag i ryw fwgan ein cipio! 0, ddydd o lawenydd dydd o gan t-i nes crygu owrandawar bregethau foreu, nawn a hwyr a'r dydd byth-gofiadwy o fwyta cyfletli (toffee), pwdin, a gwydd-digon i sicrhau breuddwydion o'r fath waethaf, a phoenau yn y lleoedd isod Y mae y cyfan wedi diflanu megys breudd- wyd Os clywir carolau y blynyddau hyn, y maent fel pe allan o le all an o ddyddiad. Y rheswm rydd rhai am hyn, ydyw fod pobl y dyddiau hyn yn meddu cymaiut o hymnau pwrpasol i'r Nadolig, fel nad edrychir am ddim arall. Yr oedd symlder p]entynaidd y syniadau yn yr hen garolau yn eu gwneud yn bur gyfaddas i'r amseroedd y blodeuent ynddynt. Erbyn hyn, y mae y cyfryw syniadau yn groes i gredo'r mwyafrif, er y gellir yn awr, wrth eu darllen, gael gafael ar gyfran o'r swyn oedd ynddynt. Sylwer ar a ganlyn :— When Christ was born of Mary free, In Bethlehem that fair Citie, Angels sang with mirth and glee In Excelsis gloria,! Herdsmen beheld these Angels bright To them appearing with great light, And said God's Son is born this night" In Excelsis gloria! Then. Lord, for Thy great grace Grant us the bliss to see Thy face, Where we may sing to Thee solace in Excelsis gloria Wele engraifft dlos o garol:— Christ was born on Christmas Day, Wreathe the holly, twine the bay, Christus natus hodie, He is born to set us free, He is born our Lord to be, Ex Maria Virgine. Let the bright red berries glow Everywhere in goodly show Christus natus hodie. Christian men rejoice and sing, 'Tis the birthday of a King, JTs Maria Virgine. Tebyg fod un fel a ganlyn allan o'r ffasiwn o ran yr hyn a ddysgir ynddi There was weeping, there was wo For every man to hell can go, It was litel merry tho' Till on the Christmas Day.—&c. Addurnid y tai, cyffredin a mawrion, hefyd yr Eglwysi a chelyn (holly), eiddew (ivy), &c.-fel y cyfeirir yn y cardan. Yn y palasau brenhinol, hefyd, hyd amser Charles y Cyntaf, ac ar ol yr Adferiad (Restoration), yr oedd yn arferiad i ganu carolau. I'r diben hwn, elai Cor y Capel Brenhinol yno bob Nadolig. Wele eiriau un o'i garolau The darling of the World is come, And fit it is we find a room To welcome him. The nobler part Of all the house here is the heart, Which we will give Him and bequeath This holly and this ivy wreath, To do Him honour; who is our King And Lord of all this revelling. CYFLOG MAWR AM G-AISIU.—Clywaia ddarfod i'r cantor Van Hoose gael cynnyg dwy fil 0 bunnau y flwyddyn. am ganu dau unawd bob Sul yn G-race Church," Efrog Newydd Dywedir mai iddo ef y telir y cyflog mwyaf eisoes fel cor-gantor. Y mae yn eithaf peth cael y gerddoriaeth oreu i'r capel, a'r personau goreu i'w chanu, ond y mae tal fel yr uchod yn debyg o wneud mwy o ddrwg nag o wir les i achos crefyddol. Ai nid yw y bregeth yn ddigon galluog i apelio at bobl ? A pha le y safai y weddi, a mawl yr addolwyr ? Y mae yn ddywediad cyffredin Ewch i'r Eglwys hon a hon dyna lie y clywir canu da gan gor Ai dyna werth neu ragoriaeth pennaf y cyfryw wasanaeth? Os ie, y mae crefydd yn brin iawn yno! Nis gwn pa faint o ysbryd addoli a geir le ym mynwes cantor fyddo yn ymchwyddo yn y ffaith fod ei gan yn un bur euraidd ychydig iawn mae'n debyg ac y mae perygl i bobl wneud duw bychan o un felly, a myned ar eu ffordd yn ddi-fendith. Onid oes perygl fod y nifer atyniadau a geir i'r capelau, &c., yn brawf fod y gwas- anaethau crefyddol yn bresennol, mewn rhai lleoedd o leiaf, yn yr ystad honno o aneffeith- iolrwydd, fel y rhaid wrth bethau eithriadol o ddyddorol ? Yr oedd y gwasanaeth, neu y moddion, yng Nghymru, chwarter canrif yn ol, yn rhai nodedig o syml; ond yr oedd yr ysbryd yn bresennol ynddynt, a swn addoli ym mhob sain! Y mae yr addoliad cy- Iioeddus erbyn hyn yn drefnus iawn, ond rhaid i rai lleoedd wrth unawdwyr costfawr er ei wneud yn effeithiol! 0 na ellid ei wneud, drwy bob ryw foddion, yn fwy ysbrydol. EMYNAU ADNABYDDUS.—Bum yn darllen yn ddiweddar am yr amgylchiadau o dan ba rai yr ysgrifenwyd amryw o honynt. Diau y bydd yn ddyddorol i'm darllenwyr gael ychydig o'r manylion. I erthygl o'r eiddo Mr. Vincent Feesey yr wyf yn ddyledus am danynt. Ysgrifenwyd yr emyn Forward be our Watchword" gan Deon Alford, wrth ym- deithio ar ei ben ei hun o amgylch Prif Eglwys Caergaint. Yr oedd eisieu emyn Ymdeithiol i Uchelwyl Gerddorol Eglwysig; a chan nad oedd ymgais gyntaf y Deon yn un foddhaol, awgrymodd ei gyd- offeiriad, y Parch. J. G. Wood, y priodoldeb iddo ymdeithio (inarcli) fel y crybwyllwyd, a gwyr pawb mor ffodus y bu i gael gafael yn y swing, yn yr ysbryd ymdeithiol, sydd mor angenrheidiol i emyn o'r fath i'w feddu Daeth yr emyn adnabyddus At even, ere the Sun was set," i fodolaeth yn y ffordd ganlynol: Yr oedd Syr Henry Baker ar y pryd yn golygu y llyfr "Hymns Ancient and Modern," a dywedodd mewn ymddiddan a'r Parch. Henry T. Wells, prif feistr ysgol y Godolphin," Hammersmith, y carai gael emyn hwyrol newydd i'r llyfr. Un pryd- nawn, tra'n arolygu y plant oeddynt yn gweithio ar bapurau Arholiadol, eisteddodd Mr. Wells i lawr, ac ysgrifenodd yr emyn hwn, heb freuddwydio y deuai i'r fath bob- logrwydd, ac y cyfieithid ef i bron bob iaith ysgrifenedig! Ysgrifenwyd yr emyn, Here we suffer znl pain and woe," gan Thomas Bilby, gwr selog iawn dros yr Ysgol Sabothol, tra yn myned gyda llwyth trol o blant i treat berthynol i'r ysgol. Yr oedd ar y pryd yn eistedd ar risiau y drol. Ysgrifennodd hefyd don i'r geiriau, ac, ar ganol ei chwareu, cymhellodd hwynt i ddod o'i amgylch er dysgu'r emyn a chanu y don. Amgylchiad hynod, onide, i roddi datganiad 0 emyn mor bruddaidd Yn y Gospel Magazine, am Dachwedd 1779, ymddangosodd ton ar y geiriau All hail the power of Jesu's name." Galwyd hi yn ddiweddarach yn Miles Lane," am fod y gynulleidfa yn y capel hwnnw, yn y ddinas hon, mor hoff o honi. Dyna ddigon am y tro hwn ynghylch hanes ein emynau adnabyddus. MRS. MARY DAVIES.-Y mae hi ar Bwyll- gor Cerddorol Eisteddfod 1909. Yr unig foneddiges arall ydyw Miss Llewela Davies. Y mae y flaenaf wedi addaw ei darlun imi i'r CELT, a diau y bydd yn dda gan lawer ei weled. Ni fagodd Cymru gantores fwy teilwng, nac un a gadwodd urddas ei gwlad i fyny yn fwy na Mrs. Mary Davies.

Advertising