Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Bwrdd y Gol.

News
Cite
Share

Bwrdd y Gol. Caed oedfa gynnar yr wythnos hon o gylch y 'Bwrdd am fod y Gol. yn awyddus i gilio i unigedd y wlad i fwynhau ei wledd arferol. Y canlyniad oedd na ddaeth torf fawr ynghyd, ond eto yr oedd yno .ddigon i wneud y cyfarfod yn wir ddyddorol. Un o'r rhai cyntaf i wthio ei big i fewn oedd At Norick," ond gan fod ei bregeth mor faith bu raid i'r Gol. ofyn iddo am ohirio'r traethiad hyd y nesaf, i'r hyn yr ufuddhaodd ar ol dangos llawer o anfodd- lonrwydd. Wedyn, wele'r Parch. J. Hugh Edwards yn awyddus am roddi gair ynglyn ag adgyfodiad Druce —nage, y Gymdeithas Leagueyddol yna mae wedi .gychwyn ynglyn a Chymru ond ceir clywed y stori yn y nesaf. Ar ol hyn wele Ap Shon yn rhedeg i'r lie gyda llawer o storiau diddan o'r clwb, ac er mor ddonioled oeddynt, ebe'r Gol., yn dadol, Fe roddir lIe iddynt yn y nesaf." Yr un oedd ei gan wrth bob ymwelydd, a chy- hoeddai y rhybudd a ganlyn ar y diwedd :—Gan fod y Nadolig yn disgyn ar ddydd Mercher, byddwn yn cau y swyddfa o nos Fawrth hyd y Llun canlynol. Felly bydd raid i bob gohebiaeth erbyn y rhifyn nesaf fod yma yn brydlon erbyn boreu'r Llun nesaf. Cofied ein gohebwyr am hyn.

Advertising

Am Gymry Llundain.