Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

CINIO'R CYMMRODORION.

News
Cite
Share

SYR JOHNfRHYS (Llywydd Gwledd y Cymmrodorion). CINIO'R CYMMRODORION. Un o'r hanesion cyntaf sydd gennym am G-y mdeithas Gymreig yn Llundain yw hanes .am niter o fechgyn Gwalia yn cydgyfarfod i gael gwledd ar ryw wyl arbennig. Mae'r Cymdeithasau Cymreig yn dal at yr hen arferiad hwn o hyd, ac un o'r cynulliadau parchusaf bob blwyddyn yw eiddo cym- deithas anrhydeddus y Cymmrodorion. A dyna fel y disgwyliem i bethau fod, o ran hynny, oherwydd hi yw'r hynnaf a'r mwyaf dylanwadol o bob sefydliad ym mhlith ein cenedl yn Llundain heddyw, os nad yng Nghymru ei hun hefyd. Sefydlwyd hi yn foreu yn y ddeunawfed ganrif gan y Morrisiaid o Fon, a phrudd ydyw coffau yn y fan hon mai ar ol un o wehelyth y Morrisiaid y bu'r aelodau yn galaru ddiweddaf, a gwnaed coffhad toddedig am farw Syr Lewis Morris, y bardd, gan amryw o'r areithwyr yn yr wyl hon eleni. Er mor ddiweddar y tymor, ac er cymaint o alwadau ymhlith y Cymry y dyddiau diweddaf hyn, llwyddwyd i gael cynulliad mawr yn yr Hotel Metropole, Whitehall, ar y 12fed o'r mis hwn. Llywyddid gan y dawnus ysgolor o Rydychen, Syr John Rhys, n y a chefnogid ef wrth y byrddau gan Mri. John Hinds, Mr. Pritchard Jones, Dr. Henry Owen, Mr. Simner, a Mr. John T. Lewis. Fel y gwr gwahodd i'r wledd caed y cerf- lunydd Mr. Goscombe John, A.R.A., ac eisteddai ef a'i briod gerllaw'r cadeirydd. Ymysg ereill oedd yn bresennol gwelsom Syr D. Brynmor Jones a'i briod, Dr. Lynn Thomas a Mrs. Thomas, Mr. a Mrs. John Thomas (Pencerdd Gwalia), yr Henadur Robert Hughes, Caerdydd; Mr. a Mrs. T. H. W. Idris Mr. T. D. Jones, Mr. J. Jay Williams, Mr. T. E. Morris, LL.M., yr Athro J. Morris Jones, Dr. Ivor Thomas, Parchn. Wade Evans, Herbert Morgan, Machreth Rees, a'r ysgrifennydd, Mr. Vincent 9 Evans. Yr oedd arlwy foethus wedi ei threfnu gan yr ysgrifennydd, ac 'roedd yn amlwg fod pawb wedi eu llwyr boddloni ar yr amryw- iaeth a osodwyd ger eu bron, ac ar ol gwag- hau'r byrddau caed nifer o areithiau-rhai yn d dawnus ac ereill yn Gymmrodoraidd hollol. Ar ol dymuno iechyd da i'r Brenin caed gan Mr. Vincent Evans restr faith o lythyrau oddiwrth wahanol aelodau yn gofidio am nas gallent fod yn cydwledda gyda'r Gymdeithas eleni. Y cyntaf oedd oddiwrth Dr. Douglas Hyde, y lienor Gwyddelig enwog, yr hwn a fwriedid gael yn un o wahoddedigion ar- bennig yr wyl, ond oherwydd ei afiechyd bu raid iddo aros yn ei dy. Ereill a draethent eu gofid oeddent Syr Harry Reichel, Syr J. Puleston, Arglwydd Aberdar, Arglwydd Powys, Arglwydd Glantawe, Esgob Bangor, Syr Clifford Cory, Syr Hugh Owen, y Cyrnol Hills Johnes, a nifer o urddasolion llai enwog. Yr yfair cyntaf oedd Llwyddiant a pharhad i anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion," yr hwn a gynygiwyd gan Syr D. Brynmor Jones, a'r Athro J. Morris Jones. Dywedodd Syr Brynmor eu bod fel aelodau yn llawenhau fod y Gymdeithas yn myned ar gynydd ac yn dod yn fwy dylanwadol o dymor i dymor. Yr oedd drwy ei chyhoedd- iadau wedi cyfoethogi lien a hanes Cymru, a hyderai. y rhoddid pob cefnogaeth iddi eto i barhau i ddwyn allan gyfrolau teilwng o honom fel cenedl. Addefai'r Athro J. Morris Jones mai aiiaml yr oedd ef yn alluog i fod yn bresen- nol yn y cynulliadau hyn er hynny yr oedd yn teimlo yn hoffi o'r Gymdeithas am mai cynnyrch rhai o wyr mawr Mon ydoedd yn amlycaf. Y Morrisiaid oedd wedi bod a Haw bennaf yn ei sefydliad yn 1751, ac roedd Goronwy ac ereill wedi bod yn aelodau Y DIWEDDAR SYR LEWIS MORRIS (Aelod ffyddlon o'r Gymdeithas, ac un o ddisgynydd- ion Morrisiaid Mon, sefydlwyr y Cymmrodorion). pybyr o honi, ac onid oedd yr Hen Oronwy yn ei ddull celfgar ei hun wedi canu awdl i'r Gymdeithas ? Yr oedd ef yn gwybod fod y Gymdeithas wedi gwneud llawer tros yr iaith Gymraeg a thros gyfoethogi ein llen- yddiaeth, a dymunai iddi bob llwydd eto yn y dyfodol. Syr John Rhys, wrth ateb, a gyfeiriodd at sefydliad y Gymdeithas gan wyr Mon, ac ar ol cant a hanner o flynyddoedd un o ddis- gynyddion y brodyr hynny oedd un o gyf- eillion goreu y Gymdeithas. Cyfeiriodd at waith cyson Syr -Lewis Morris dros y Gymdeithas, ac nid oedd ond ychydig fis- oedd er pan ysgrifennodd farwnad ar 01 un o'r aelodau i'w gyhoeddi yn yr adroddiad blynyddol, yr hwn oedd bellach yn nwylaw yr aelodau. Yr oedd y Gymdeithas yn par- hau i wneud gwaith lawer, ac yna caed rhestr ganddo o gyfarfodydd y flwyddyn, ynghyd a'r trefniadau gogyfer a chyhoeddi rhai llyfrau pwysig yn ystod y gauaf presen- nol. Ond angen pennaf y Gymdeithas oedd ychydig gefnogaeth sylweddol er eu galluogi i gyfarfod a'r treuliau enfawr ynglyn a chyhoeddi y cyfrolau hyn. Ar derfyn ei araith hysbysodd yr ysgrif- ennydd fod y boneddwr hael Mr. J. Pritchard Jones, Y.H., wedi rhoddi y swm anrhydedd- -is o gan gini tuag at gyhoeddi rhai o weithiau'r hen awdwr Cymreig. Ar ol gwneud cyfiawnder a Chymdeithas y Cymmrodorion cododd yr Henadur Robert Hughes, Caerdydd, i gynyg iechyd da i Mr. Goscombe John, sef arwr y wledd am y noson. Gwnai Mr. Hughes hyn am mai un o fechgyn Caerdydd oedd Mr. Goscombe John, ac roeddent hwy fel dinas yn llawen- hau yn ei lwyddiant. Ystyrient Mr. John fel un o flaenffrwytb. y mudiad addysgol a gychwynwyd mor rhagorol gan y diweddar Syr Hugh Owen, Arglwydd Aberdare, ac ereill o aelodau blaenllaw y Cymmrodorion, a hyderai nad oedd y cynnyrch megys ond ar ddechreu. Caed Cymry gwladgar i fod yn gychwynwyr i'n cyfundrefn addysg, ond peidied ein cyfoethogion marsiandiol a meddwl fod y gwaith wedi ei orffen. 'Roedd eisieu noddwyr eto i'w wahanol adrannau, ac os oedd rhai o fawrion ein tir am wneud rhywbeth i yrra'r gwaith ymlaen, boed iddynt gyfrannu yn helaeth er sefydlu ysgol- oriaethau i adran y celfau fel ac i godi ereill i ddilyn camrau llwyddianus Mr. Goscombe John. Yn ei ateb diolchai'r cerfiunydd am y modd cynnes yr oeddent wedi ei wahodd i'r wyl, ac 'roedd yn llawenbau fod adran y celfau yn cael mwy o sylw gan ein cenedl oddicartref. Yr oedd Cymru wedi bod yn enwog erioed am ei barddoniaeth a'i cher- ddoriaeth, ond yr oedd yn syndod mor lleied ydoedd wedi wneud gyda'r chwaer- gelf-arluniaeth. Hyd yn oed yn ein prif gynulliadau rhoddid yr amlygrwydd pennaf i'r ddau flaenaf, a gwthid adran celf i ryw neillduedd syml fel pe'n cywilyddio o'i herwydd. Hyderai fod pethau yn dechre-LL gwella yn ein tir, ac y ceid gweled y Cymro eto yn cymeryd ei le ochr yn ochr wrth oreuon celf pob gwlad. Yn olaf caed araith gan Mr. G. G. T. Treharne yn cynnyg iechyd da i'r Cadeirydd, Syr John Rhys, ac atebodd y Prifathro yn ei ddull diymhongar arferol. Er mai Saesneg oedd yr areithiau i gyd- ag eithrio yr Athro J. Morris Jones—daeth y cantorion a thipyn o hwyl Gymreig i'r wledd drwy ganu nifer o alawon tra swynol. Yr unawdwyr oeddent Miss Dilys Jones, Miss Beatrice John, a'r tenorydd Mr. John Roberts. Rhoddodd Mr. Percy Hughes unawd ar y berdoneg, a gofalodd Miss Llewela Davies am y cyfeiliant yn ei dull medrus arferol. MR. E. VINCENT EVANS {Ysgrifennydd Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion).