Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES ABERYST WYTH. One of the Constituent Colleges of the University of Wales. PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL— T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). rpHE next Term begins on January 14th, 1908. A X number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 15th, 1908, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, 210, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- 11 It, tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar.
---------AR Y DDAEAR TANGNEFEDD!
AR Y DDAEAR TANGNEFEDD! Dyma'r Nadolig wrth y drws a thymor y cyfarchiadau llawen wedi dod. Er cymaint pryderon a thrafferthion y flwyddyn cytuna pawb i roi'r gofalon o'r neilltu am un diwrnod a ckadw'r Nadolig yn ysbryd yr Hwn a goffheir gan yr wyl. Heddwell a llawenydd yw'r arwyddair i fod ar y dydd hwn, a gall gwledydd cred gyduno am un- waith yn yr ysbryd priodol i gadw'r dydd yn ddydd o wir lawenydd. Gall yr engyl ganu mor beraidd yn awr a phan yr ym- ddangosasant ar feusydd Bethlehem gynt, oherwydd mae gwawr cyfnod newydd yn torri ar ddynoliaeth heddyw feI y torrodd ar gaddug tywyll yr oesoedd gynt. Daw gwaredwr i'n rhyddhau o bob cyfnod o orthrwm ond i ddynoliaeth chwilio am dano yn yr ysbryd priodol. Os methodd yr Iddew balch a defosiynol adnabod ei Wared- wr ugain canrif yn ol fe ddaeth cenkadaetk y Tirion hwnnw i lwyddiant cyn hir; ac os methwn ninnau yn yr oesoedd hyn ganfod y cyfryngau sydd i'n rhyddhau oddiwrtb. ormes, trais, tylodi, anhegweh, a beichiau pechod y maent i gael eu symud mor llwyr ac y symudwyd yr hen oruchwyliaetkau Iddewig gtn wawr Ef engyl Mab y Dyn. Mae grwgaackwyr ac eilidwyr, bradwyr ac angkredmwyr yn aros o kyd, ond na hidier. Canwch engyl eich molawd o nedd, a thang- nefedd a daena ei glaer belydrau dros ein daear dywell. Unwn ninnau yn y cydgan ar foreu'r Nadolig "Ganwyd i ni heddyw Geidwad ac os gwnawn fyw yn ysbryd y gred honno fe wnawn ein rhan i ddwyn keulwen oleu y dydd dedwydd-addewid y mil blynyddoedd-i dywynnu ar ddynoliaetk drwy y cread oil.
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. Miss, LAURA EVANs.-Da gennyf ddarllen am ei llwyddiant mawr hi ar ei thaith gerddorol sydd newydd derfynu. Ymwelodd a Threffynnon, Llanelly, Nantymoel, Port Talbot, Neath, Aberaman, Brynaman, Peny- graig, Porth, Bargoed, Aberdar, Hirwain, Amwythig, Caersws, Drefnewydd, a Gwrec- sam. Dywed gohebydd fod y gantores ragorol hon wedi dringo i'r safle blaenaf ymhlith sopranos Cymru. Yn Ninbych, yr oedd raid iddi roddi encore ar ol encore. Yng Ngwrecsam, yr oedd ei datganiad o'r unawd "Ernani" (Fertli)-yrn mha un y profai burdeb mawr ac ystwythter ei llaÏs- a hefyd ei dull syml, dirodres, yn gymeradwy iawn. Dywedais eisoes yn y golofn hon fod dyfodol disglair yn ei haros. Y mae yn forysur wirio hyn. «= # ANN GRIFFITHS.—Bum yn gwrando darlith y Parch. W. G. Owen (Llifon) nos lau, y 12fed cyfisol, yng Nghapel Castle Street, Oxford Street-yr elw tuagat gronfa yr Achos yn Little Alie Street. Yr oedd yn dywydd anffafriol iawn, ond cafodd y rhai ddaethant ynghyd wledd ragorol. Y mae Llifon yn ddarlithydd dymunol iawn. Nid ydyw yn ymgeisio at hyawdledd, eithr sieryd yn hyfryd a phleserus a'i wrandawyr. Testyn wrth fodd ei galoa ydoedd hwn: son am Farddones di-rodres, ond duwiolfrydig, Gwalia Wen. Barddones cenedl gyfan, ac nid un enwadol, ydoedd hi; ac yr oedd yr hyn a ddywedai Llifon am dani yn peri i ddyn ofidio na fuasid wedi ei gweled a'i hadnabod yn bersonol. Ganwyd hi yn Nolwar Fechan, amaethdy ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwvnfa, Sir Drefaldwyn, yn 1776. 0 ran ei pherson, yr oedd yn dalach na'r cyffredin o'i rhyw, ac o gyfansoddiad tyner ac eiddil; ei gwynebpryd yn wyn, a'i gruddiau yn rhosynaidd. Yr oedd ei thalcen yn uchel a llydan, ei gwallt yn hir ac o liw tywyll, ei llygaid yn siriol ac amlwg, a'r olwg arni yn foneddigaidd a mawreddog. Bu ei theulu yn perthyn i'r "Eglwys" hyd nes oedd Ann Thomas yn ddeunaw mlwydd oed; ond ni ddaeth yr eneth i goHeidio crefydd lesu Grist cyn ei hymweliad a Llanfyllin, pryd yr aeth yn ddarnweiniol i wrando y Parch. Benjamin Jones, Pwllheli, yn pregethu. Ar ol i'r teulu ymuno a'r Methodistiaid dywedir ddarfod i'r ci ymlymi wrth yr "Eglwys" am beth amser wedi hynny! Yn 1804, priododd a Thomas Griffiths, ac fel Ann Griffiths, yn ol ei phriod, yr adnabyddid hi ar ol hyn. Yn Awst, 1805, bu farw, yn 29 mlwydd oed. Claddwyd hi yn Llanfikangel yng Ngwynfa, lie y bu yn gorwedd am yn agos i 60 mlynedd, a phrin y gwyddai y trigolion lie yr oedd man fechan ei bedd" hi. Yn 1864, gosodwyd bedd-golofn brydferth i ddynodi mangre ei gorweddle, a chostiodd dri-ugain-a-ckweck o bunnau. Dyna yn fyr ei hanes. Sylwai Llifon ddarfod i fardd Heol ddylan- wadu arni-sef Jokn Hughes, Pontrobert, yr hwn hefyd ydoedd yn Ddiwinydd da. Byddai Ann yn darUen ei kemynau i Ruth Evans—dynes dduwiol oedd yng ngwasan- aefck y teulu. Iddi hi y dylid diolch am y gofal fa i gadw yr emynau rhag iddynt fyned ar goll neu yn anghof. Y mae yr emynau hyn yn ffrwyth profiad Ann Griffiths. Y maent yn cynnwys ysbryd y Beibl. Yr oedd dylanwad y Gyfrol Sanc- taidd yn llond ei henaid hi! Dyna paham y maent mor gysegredig. Emynau persain ydyw yr oU o'i heiddo hi; rhai. ciir, di-niwL Ffrwyth enaid wedi ei oleuo ydynt. Cyn- nyrch un sydd wedi derbyn yn helaetk o ysbrydoliaeth-un wedi gweled ymhell! Canodd tslwyn gystal ag unrhyw Fardd Cymreig. Efe bia'r llinellau godidog :— Yr Haul yn elor gerbyd du A'r Dydd o'i fewn yn farw! ond nis gellid cann llinellau fel y rhai hyn. Dododd Ann Griffiths feddyliau cyffeiyb ar got, ac y maent yn ganadwy :— Rhoi awdwr bywyd i farwolaeth A chladdu'r adgyfodiad mawr! Wedi'r ddarlitk cafwyd sylwadau buddiol gan Mr. Williams a Miss Williams. Cad- eiriwyd, hefyd, yn ddymunol gan y gwr siriol, Mr. Ben Jones. Canwyd amryw dorian ar eiriau or eiddo Ann Griffiths yn ystod y ddarlith, ga.n gor, o dan arweiniad Mr. Lewis, gyda chyfeilianfe ar yr organ. Ychwanegodd hyn lawer at waith y noson. Yr oedd datganiad y cor or rhangan, Bydd melus gofio y cyfamod" yn goron ar ei ymdrechion clodwiw. HANESIAETH GERDDOROL. Lliosog ydyw nifer y llyfrau a gyhoeddwyd ar y testyn hwn, er mai cerddoriaeth ydyw yr ieuengaf o'r holl gelfau. Yr hen Hanesion Cerddorol Safonol ydynt eiddo Burney a Hawkins, ond ceir maeth (essence) y rhai hynny, a gweith- iau eraill, yn y geiriadur diweddar cynwys- fawr a olygwyd gan y diweddar Dr. Grove. Y mae y gwaith gwerthfawr hwn, modd bynnag, yn anmherifaitk o ran ei gynnwys fel y rhaid i un o'r fath gynllun fod. Ac. y mae yr hanesion ereill, ar wahan i'r eiddo Nauman, yn gyfyng okerwydd y rkeidrwydd i fod yn fyr." Yr anhawster gyda llyfrau Hanesyddol Cerddorol ydyw osgoi. y myrdd fanyliou sydd i'w cofnodi—a'r dreth ar gof y dar- llennydd sydd am geisio dal arnynt! Gwelliant, yn hyn o beth, ydyw y llyfr sydd newydd ddod o'r wasg, sef A History of Music in England," gan Ernest Walker, M.A., Mus. Doc. Cyhoeddedig gan y Clarendon Press. Llyfr ydyw sydd yn fwy beirniadol nac hanesyddol. Nid yw Dr. Walker yn manylu ar gymaint o fan bethau ac i'r cerddor meddylgar, sicr yw yr apelia CD y gwaith hwn yn fawr. Ymdrinir yn fanwl ar gyfnod ardderchog y Madrigal yn Lloegr, yn yr hwn fath o gerddoriaeth ni ragorwyd ar y Saeson gan unrhyw genedl. Ca Henry Purcell lepwysig a beirniadaeth fanwl. Addefir fod un, a dim ond un. o'r meistri boreuol wedi gadael mwy o ddylanwad ar gerddoriaetk Seisnig na'r eiddo ef, sef Handel, llawer o gerddor- iaeth yr hwn sydd wedi ei chladdu yn nbir anghof, ond yr ydoedd yn cynnwys gemau o'r fath oreu Cyfeirio y mae yr Hanesydd at Operaon Handel. Hwyrach y caf hamdden eto i ddweyd rhagor ar y gwaith newydd ac amserol hwn.
MISS EIRA GWYN.
MISS EIRA GWYN. M wynaidd lais Miss Eira Gwyn I reiddia fryn yr enaid, S einia gan ar ddol a glyn,— S edd hon bryd hyn sydd delaid. E os gu a'i gruddiau glan, I 'r byd fo'n gan ysblenydd, R hydd i ni mewn gwladgar don A lawon ein haelwydydd. G wena'n lion ar binacl bri W yl eneth gu, dalentog Y nni mawl o'i mewn a ry' N ef-nodau lu'n odidog. Harrow. LLINOS WVRS.
[No title]
MR. DAN Pltl.CE.-Gan ein bod yn myned i'r wasg yn gynarach nag arfer yr wytknos hon, bu raid gohirio ein sylwadau am y cantor enwog hwn hyd y rhifyn resal