Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

NODION LLENYDDOL.

-------------Cleber y Clwb.

News
Cite
Share

Cleber y Clwb. Nos FERCHER. Myn mwyafrif aelodau y Clwb ddal yn dyn at y rheol nad oes caniatad i ymdrin a phynciau gwleidyddol neu grefyddol o fewn ei furiau. Mae hyn yn eithaf priodol, hefyd, oherwydd does na phlaid nac enwad i'w hadnabod mewn sefydliad mor genedlaethol a hwn. Felly pan ddechreuodd un o'r bechgyn siarad am y Ddirprwyaeth Eglwysig ceisiwyd ei atal ar unwaith fel un oedd yn cyflawni trosedd beiddgar iawn. "Pa reol o'r sefydliad sy'n wrthwynebol i ni ymdrin a'r Ddirprwyaeth Gymreig hon," ymholai. Oh," ebe'r cyfreithiwr o'r Dwyrain, y rheol ynglyn a gwleidyddiaeth a chrefydd 4= Ond protestio wnai'r aelod nad oedd na gwleidyddiaeth na chrefydd yn perthyn i'r fath ymholiad. Seiliai ei farn ar ddatganiad y Barnwr Vaughan Williams ei hun, yr hwn a dystiai fod y Ddirprwyaeth uwchlaw pawb a phopeth, ac mai efe oedd yn ben ac yn bont ar yr holl fusnes. Felly 'roedd yn eithaf teg i ni fel aelodau wybod beth oedd yr ychydig wyr hyn yn ei wneud ar ran Cymru a'i phobl, a pha fodd y rhoddid croesaw iddynt pan ar ymweliad a'r ddinas yn rhoddi tystiolaethau. Addefid gan bawb fod yr holl helynt hyd yn awr wedi bod yn anffodus, ac mae hynny yn bennaf i'w briodoli i'r diffyg trefn ynglyn a dygiad y gwaith ymlaen. Does yr un sicrwydd wedi ei gael pa beth a dderbynir neu a wrthodir fel tystiolaeth, ac nis gelwir ar dystion goreu y gwahanol bleidiau yng Nghymru, eithr cymerir hwy ar antur o'r naill ardal a'r llall. Mae argoelion, er hynny, y dygir y cyfan i derfyn o hyn i ganol mis Tachwedd, ac ar ol gorffen a'r tystion mae gobaith am yr adroddiad hir ddisgwyliedig ei hun. Y syniad cyffredin am y Barnwr yw fod yr Ymneillduwyr wedi ei gamesbonio yn ddirfawr. Gwr cadarn cyndyn yw yr hen Vaughan Williams, yn deall natur tystiol- aeth i'r blewyn, ac yn dal at ei ddaliadau ar waethaf pob gwrthwynebiad. Ni fu erioed yn rhyw or-selog ar ran yr Eglwys. Mae'n wir mai eglwyswr yw, ond y mae yn ddigon eangfrydig ei feddwl i dderbyn barn pobl ereill ar bynciau diwinyddol, ac yn wir cyhoeddodd droion y dylai pob gwlad gael ei rheoli yn unol a barn mwyafrif goreu y wlad honno. Ceir gweled beth fydd ei farn am Gymru a'i Hymneillduaeth ar ol cyhoeddi adroddiad y Ddirprwyaeth bresennol. Dyna beth sy'n aros yn hir yn y wlad yw celwydd! Hyn oedd sylw Bangorian ar araith Esgob Llanelwy yn Colwyn Bay ddydd Sadwrn diweddaf. Pan yn siarad ar gynnydd addysg yng Nghymru yr oedd megys pe am gyfiawnhau yr hyn draethid yn llyfrau glas 1846—adroddiad a adnabyddir yn lied gyffredin fel Brad y Llyfrau Gleision. Yr oeddem wedi arfer meddwl fod Ieuan Gwynedd druan wedi hen brofi'r anwiredd gaed yn y rhain, ac na feiddiai, hyd yn oed Esgob, i'w dyfynu fel gwirionedd ar ol hynny. Ond mae Esgob Llanelwy uwchlaw pob deddf a rheol, a rhaid gadael iddo yn ddisylw y tro hwn eto. Pa rai o'r aelodau Cymreig sydd i dder- byn ffafrau oddiar law y Weinyddiaeth hon yn nesaf wys ? Bu'r cwmni heno yn dadleu hawliau y naill a'r Hall o'r rhai mwyaf tebygol, ac ni synem pe deuai un neu ddwy o'r etholaethau yn wag ar fyr rybudd. Yr ofnau cyntaf oedd ynglyn a Chaerdydd. Pe digwyddai i Mr. Ivor Guest gael ei ddyrch- afu i blith yr Arglwyddi, diau y collid y y sedd i'r Rhyddfrydwyr, ac hwyrach y byddai hynny yn fendith. Yr unig obaith yno fyddai sicrhau aelod o blith y Llafur- wyr, dyn ieuanc, ac yn Gymro glew hefyd. Dyna angen mawr Caerdydd heddyw. O'r ochr arall y mae pob tebygolrwydd, meddir, y caiff Syr Alfred Thomas ei ddan- fon i set fawr" y Senedd, sef Ty'r Ar- glwyddi, ar ddechreu y flwyddyn, ac yns. rhaid cael Cymro arall yn barod i lanw'i le. Wedyn dacw Mr. Sam Evans a'i lygad ar y fainc farnol, heb son am Syr Brynmor Jones a Newnes i gael eu codi i leoedd uwch, ac yn olaf wele Mr. Lloyd-Morgan, yr aelod tawel tros ranbarth o Sir Gaerfyrddin. Y mae'n hen bryd iddo yntau syrthio i dir bras y gyfraith, ac hwyrach mai Barnwr y Cwrit Bach y gwelir ef cyn pen ychydig amser. Byddai yn ei le mewn swydd o'r fath. Off daw rhai o'r seddau hyn yn wag dylai fod cynrychiolwyr yn barod cynrychiolwyr Cymreig, ac nid rhyw haid o bobl Seisnig- aidd, na wyddant ddim am ein hangenion cenedlaethol. Rhaid i Gymru godi ei llais bellach. Mae wedi bod yn ddigon hir yn chwareufwrdd y naill blaid boliticaidd a'r Hall. Ac onid yw'r adeg wedi dod iddi fynu Plaid Genedlaethol Gymreig i'w chynrych- ioli yn Nhy'r Cyffredin ? Ap SHON.

[No title]