Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y DYCHWELIAD.—Erbyn hyn mae'r cyn- ulliadau Cymreig yn dechreu llanw, a daw'r eglwysi yn lIawn o addolwyr o hyn allan. Cyn diwedd y mis bydd yr oil o blant y gwyliau wedi dychwelyd. AR Y CYFANDIR.-Mae parti hapus o Gymry wedi myned i'r cyfandir am seibiant, tan arweinyddiaeth Mri. Lloyd-George a Vincent Evans. Ca'r Senedd a'i helbulon, a'r aelodau a'u cwerylon, lonydd nes y deuant yn ol. Y MODURWYR.—Mae pob gwr o nod wedi prynnu car modur erbyn y seibiant Seneddol presennol, a daw'r hanes o'r Alban fod dau neu dri o "wyr y North" wedi myned i wlad y Scot am dro. Pob llwydd iddynt i ddianc rhag damweiniau. CADW'R LLE YMLAEN.—Er fod y meddyg Walter LI. Davies wedi ymadael i ardal Llanidloes, y mae wedi trefnu i'r Dr. Pryce Jenkins gadw'r feddygfa ymlaen yn Oxford Street. Mae Mr. Jenkins yn hen bel-droed- iwr o fri, ac yn adnabyddus i gylch eang o bobl ieuainc y ddinas. "LONDON WELSH" MATCH.—Dyma fydd yr helynt fawr heddyw, ddydd Sadwrn. Mae digon o le i'r torfeydd llawnaf yn y cae newydd sydd gan wyr y bel, a rhoddir croesaw cynnes i'r lluoedd yno ar ddechreu y tymor heddyw. Mae'r cae gerllaw gorsaf West Ham, a gellir cyrraedd iddo o unrhyw ran o'r ddinas ymhen rhyw ugain munud. YN YR UNDEB.—Yr oedd amryw o wyr blaenaf enwad y Bedyddwyr yn Llundain wedi myned i Lanelli yr wythnos ddiweddaf er mwyn bod yn bresennol yn uchel-wyl yr enwad. Siaradwyd yno gan y Parch. Herbert Morgan. Llywyddwyd un o'r cyn- ulliadau gan Mr. John Hinds, a darllenwyd papur dyddorol gan Miss Eleanor Williams. MARWOLAETH CYMRO ADNABYDDUS.—Bydd yn chwith gan lu mawr o Gymry'r ddinas glywed am farwolaeth yr hynafgwr parchus, Mr. William Roberts, gynt o Thanet Place, yr hyn gymerodd le ddydd Llun diweddaf yn ei breswylfod, Plas Hyfryd, Caergybi, ar 01 cystudd maith a chaled. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Llundain, ac fel per- chennog y gwesty enwog yn Thanet Place, daeth yn adnabyddus i gylch eang o Gymry o bob gwlad. Yr oedd yn gymeriad tawel, boneddigaidd, ac yn fawr ei barch gan ei gydnabod. Llanwodd y swydd o ddiacon yng nghapel y Tabernacl am flynyddau lawer, a theimlid chwithdod ar ei ol, pan ymadawodd i Gymru rai blynyddau yn ol i dreulio ei nawnddydd mewn hedd allawnder. Ond cymharol fyr fu ei fwyniant, a bu'n ddioddefydd o'r anhwyldeb fu'n angeu iddo am fisoedd lawer, ac mae cydymdeimlad y lliaws a'r teulu ac a'i ferch, Mrs. Jones, Jones Hotel," Suffolk Street, yn awr euhir- aeth a'u trallod. GWEINIDOG NEWYDD. Bydd y Parch. Oliver T. Edwards, Horncastle, mab ein cydwladwr a'n gohebydd achlysurol "Maelor," yn dechreu ar ei weinidogaeth yn Tilbury ddydd Sul nesaf, y 15eg. Cymer ofal y lie tan nawdd y Pioneer Movement, a chan ei fod yn ddyn ieuanc gweithgar a chymeradwy, y mae'n sicr o enill yr un parch a safle lwydd- iannus yn ardal Tilbury ag a wnaeth yn Horncastle yn ystod ei arhosiad yno. Pob llwydd iddo medd darllenwyr y CELT i wasanaethu yr achos da. DYDD Llun diweddaf bu farw'r Parch, Ernest R. Wilberforce, Esgob Chichester, yn 67 mlwydd oed. MYN rhai awdurdodau gyhoeddi ein bod wedi llwyddo fel gwlad o'r diwedd i fod ar y blaen mewn cynllunio peiriant i hedeg. Bu'r peiriant newydd am daith drwy yr awyr am beth amser ddydd Llun diweddaf, MAE Lady Jenkins, priod a prif farnwr Jenkins, o Bombay, yn aros yn Llangoed- more, Ceredigion, ar hyn o bryd. Ganwyd iddi etifedd ddydd Sul diweddaf. AETH y Cadfridog Booth ar daith trwy Gymru mewn car modur. Dilynwyd ei esiampl gan Gomer y dydd o'r blaen, yr hwn a aeth i Gymanfa'r Bedyddwyr mewn car modur o'r fath harddaf. Disgwyliwn yn nesaf glywed fod Elfed wedi pwrcasu peiriant hedeg, oherwydd mae'r car modur yn rhy araf iddo ef. MAE myfyrwyr y colegau enwadol Cymreig: yn cwyno yn arw yn erbyn y tal gwael a roddir iddynt am bregethu yn achlysurol ar hyd a lied Cymru. Dywed un brawd iddo deithio gwerth pedwar swllt un Sul, ac iddo dderbyn tri swllt fel ei gydnabyddiaeth ar ol pregethu ddwywaith. Pe bae'n bregethwr mawr cawsai o 30s. i ddwy bunt. Rhaid i'r students Cymreig ffurfio Trade- Union yn sicr, ond boed iddynt ofalu anv ddysgu Cymraeg yng nghyntaf

"TROCHI" CAMPBELL.

[No title]

Advertising

"Y GYMRAEG YN MARW."