Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. DIWYGIO YR EISTEDDFOD.—Yn yr erthygl ddiweddaf ar ein cynllun newydd gyda'r cystadleuaethau corawl ceir gwall argraff- yddol sydd yn gwneud yr ystyr yn aneglur. Ni olvgir y dylai pob cor ennill deirgwaith yn olynol "o dan yr un arweinydd." Yr hyn a fynem ei ddywedyd ydoedd: Na oddefid i gor mewn un dosbarth gynnyg mewn dosbarth arall 0 dan yr un arweinydd. Gwelir mai yr amcan ydyw rhoddi pob cymhelliad i'r gwahanol gorau i gystadlu, a gorfodi arweinyddion i gadw at eu corau eu hunain. "MEN."—Dyma enw can newydd, gan .awdures newydd-un fa. yn ein plith ni yn Llundain yn hir, ond y pryd hynny yr oedd yn rhy agos ini allu iawn fesur ei gallu- oedd. Ni chredwn ddarfod iddi dderbyn ei holl ddawn gan Natur Pe felly, dichon y -dadleuid mai i awyr iachus Aberystwyth y dylid rhoddi y clod, am iddi yno amlygu ei galluoedd ar eu goreu. Na, yr oedd y blodeuyn yn bod yn Llundain, ond y fath ydoedd y fog, fel na chaffai gyfle i ddangos ei liun Merch i Mr. Lewis H. Roberts, cyn flaenor yng nghapel y Methodistiaid, Wilton Square —gwr nas gellid peidio ei anwylo gan bawb a'i hadnabu-ydyw awdures y gan, sef Miss Elsie Roberts. Geiriau "canadwy" ydyw yr eiddo Eifion Wyn ar Men," a rhydd y Proffeswr Anwyl gyfieithiad naturiol iddynt. Y copïau i'w cael oddiwrth Mr. D. Jenkins, Aberystwyth. Cenir yng nghyweirnod E fwyaf, yn yr amser dau-pedwar. Cawn fod y gerddoriaeth i'r ddau bennill cyntaf yr un; a rhaid cyd- nabod gallu yma i gynyrchu melody swynol, .deniadol. Y mae yn y cyfeiliant, hefyd, yr ysgafnder hwnnw sydd mor gyfaddas i -destyn y Gan. Y mae yn bur effeithiol. Ceir newid cywair yn y trydydd pennill, ar y geiriau Yn yr allt ar lannau Dwyfor," .&-c., gyda chyfeiliant o gordiau cryfion. Y mae y cyfnewid iad yn darawiadol. Nid ydyw y symudiad olaf cystal, i'n tyb ni, a'r rhai blaenorol. Y mae y nodau ,cromataidd. mor agos i derfyn y gan yn tynnu'r sylw oddiwrth y cyweirnod i raddau, ac yn gwanychu'r alaw lie y dylai fod yn -casglu nerth tuagat y climax. Y mae yr argraffwaith sol-ffa yn wallus. Nid yn yr amser cyffredin y dylid canu, ond yn y dau-pedwar. Ar wahan i'r sylw ar y symudiad olaf, nid oes gennym ond canmoliaeth lwyr i'r gan felodus, swynol hon, a gobeithiwn yn fawr y ca sylw mewn cyngherddau ac eisteddfodau lawer. Yn sicr, y mae y foneddiges hon yn liaeddu pob cefnogaeth. Deallwn fod Miss Elsie Roberts yn un o organyddion Capel Salem, Aberystwyth. Y mae yn ddiweddar wedi ennill gwobr am .gyfansoddi t6n, yr hon a genir yng Nghy- manfa Ganu Dosbarth Aberystwyth (M.O.) y flwyddyn hon. Nid yw ond 21ain mlwydd oed. Eled ymlaen: y mae digon o le iddi yn y cylch. Cymreig. Nid oes ond dwy ferch Gymreig heblaw hi ar y maes fel cyfansoddesau. GERDDORIAETH GYMREIG.—Da gennym fod -ein darllenwyr yn dechreu cymeryd dydd- -ordeb yn y cwestiwn o safon ein caneuon, &c. Os yw mor isel ag y myn rhai, y mae yn ddyledswydd arnom i ystyried pa fodd i fyned oddiamgylch i'w wella. Carem i rai o'n darllenwyr ddweyd eu barn ar yr hyn a ddeallant hwy wrth safon "CANEUON CYMREIG? A ydyw yn wahanol i safon caneuon ereill, am fod y cyfansoddwyr yn Gymry, neu am fod i'r caneuon eiriau Cyrnraeg ? Pe chwareuid dwy gan newydd, un gan Sais, a'r Hall o waith Cymro, y ddwy wedi eu cyfansoddi ar eiriau bydol (secular) o'r un nodwedd, a fyddai yn bosibl dweyd pa un ydoedd eiddo y Cymro ? Gofynwn hyn am y dywedir yn gyffredin fod nod- weddion arbennig yn perthyn i gerddoriaeth un genedl ragor un arall. O'r ochr arall, ai nid un effaith o ddad- blygiad celfyddyd ydyw (gyda cherddoriaeth y Gorllewin) gwneud i ffwrdd a rhyw nod- weddion neillduol (taleithol) mewn cerddor- iaeth ? Y mae celfyddyd yn goddef, ond nid yn argymhell y neillduolrwydd a berthyn i gerddoriaeth pobl drigant gynnifer o filldir- oedd oddiwrth eu gilydd. Ei hamcan hi ydyw cyrraedd y ffordd oreu, sicraf, fwyaf gyffredinol i gario ei chenadwri i'r galon ddynol; i buro y chwaeth a dyrchafu y meddwl. Nid ymfoddlona, gan hynny, nes llwyddo i ddwyn y llwythau ynghyd-i ganu yn ol ei safon hi. Da gennym allu hysbysu fod eisoes ddau lythyr wedi eu derbyn oddiwrth ohebwyr ar Ganeuon Cymreig." Carem i'r ddau ym- ddangos gyda'u gilydd, a hyderwn y ceir lie iddynt yn y golofn hon yr wythnos nesaf. Gwahoddwn ereill i'r maes. Bydd croesaw i bob gohebiaeth deg a boneddigaidd. BEN DAVIES.-Nid yw y cantor hwn yn rhuthro i'r Wasg er mwyn dweyd yr hyn a dyn sylw neilltuol ato ei hun, canys mae ei safle yn y byd cerddorol wedi ei sicrhau. Ac y mae wedi cyrraedd yr oedran hwnnw pan y disgwylir i ddyn fod yn gymhedrol wrth wasgaru ei eiriau. Cymer Mr. Davies gysur oddiwrth waith a dylanwad yr Eisteddfod ar ein cenedl, ac y mae yn bur falch o'r Hen Wlad a'i chan. Yn y Throne dywed :— I do not wish to be unduly boastful, but it is a matter of very great pride to me to think that while the people of other countries spend their leisure time in watching horse races or bull fights, the colliers and farmers of Wales, and their wives and daughters, occupy their time in literary and musical directions." Eto What has made the vocal music of Wales superior to that of any other in the world, is its perfect naturalness Art has not done so much for Welsh music as nature has, and after all, is not naturalness the great desideratum? The people of Wales owe much to their Eisteddfodau. Comparative freedom from crime, the orderliness of the working population, and their deep religiousness, and may I add also their almost unswerving loyalty to existing Institutions, and their desire for pro- gress on lofty, intellectual lines-all these things may be attributed to the magnificent influence of the Great National Festival." Diolch yn fawr i Ben Davies am ddweyd gair mor effeithiol wrth y Sais

[No title]

PWY SYDD I DALU?

"Y GYMRAEG YN MARW."