Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

EISIEU CYNLLUN.

News
Cite
Share

EISIEU CYNLLUN. Ar ol i'n Seneddwyr gael ychydig seibiant bwriedir defnyddio tymor yr Hydref i draddodi cyfres o areithiau gan arweinwyr y naill blaid a'r Hall. Nid oes sicrwydd eto pa nifer o'r aelodau Seneddol Cymreig fwriadant dalu ymweliad a Chymru, ond diau y gadewir i ryw banner dwsin, fel arfer, i wneud y cyfan, ac y caiff y gweddill aros yn eu cuddfanau hyd nes yr agorir y Ty eto ar ddechreu'r flwyddyn; ond y mae'n bwysig fod yr hanner dwsin hynny wedi penderfynu ar gynllun priodol sut i osod yr achos gwleidyddol ger bron yr etholwyr Cymreig, ac fod y cynllun hynny yn unol a barn mwy- afrif y blaid Ryddfrydol yn y Senedd. Does wiw i ni wastraffu amser ar areithiau hir- wyntog a chenedlgarol, os nad yw'r traddod- wyr yn barod i fynegu yr un syniadau, ac hefyd i gario allan yr addewidion ar lawr y y Senedd. Mae'r cylchoedd gwleidyddol yn hynod o anrhefnus ar hyn o bryd. Does rieb a wyr yn iawn pa bethau neu fesurau a fwriedir ddwyn ymlaen ar ddechreu'r flwydd- yn nesaf, ac os mai yn y dull hapchwareuol hyn y bwriada'r Weinyddiaeth ymaflyd ym inhrif bynciau y dydd, yna rhaid addef fod ei dirywiad wedi bod yn fawr iawn. Pan gauwyd y Senedd ar ddiwedd Awst nid oedd yr un awgrym wedi ei roddi beth fyddai gwaith yr Hydref, na'r hyn a amcenid ei gyflawni y tymor nesaf, a chan mai un o wendidau mwyaf y Weinyddiaeth o'r blaen oedd y diffyg ymddiriedaeth a feddai tuag at y werin, y mae'n hen bryd rhybuddio y blaid bresennol o beidio rhedeg i'r un perygl ar ddechreu ei diwrnod gwaith. Mae'r wlad am gael arweiniad diogel ar hyn o bryd ar bwnc dyrys yr Ysgolion elfenol. Er uniawni y camwri enwadol hwn y dodwyd y Weinyddiaeth bresennol mewn awdurdod, ac wele ddwy flynedd wedi myned heibio heb i'r gwaith gael ei gwbl- hau. Gwir fod yna ymgais wedi ei gwneud, ond gwyddom hefyd fod yr ymgais honno wedi bod yn fethiant truenus. A'r hyn y ceisir gan y wlad yn awr yw, pa hyd y goddefir y camwri hwn ? Nid digon yw'r bwgan byth-barhaol Ty'r Arglwyddi. Mae hwnnw i barhau o hyd. Does ond chwyl- droad a'i difoda, ac yn sicr nid yw'r wlad yn barod i hynny eto. Byddai'n ddymunol clywed barn yr arweinwyr Rhyddfrydol ar y cynllun nesaf, a gobeithio y rhoddir amlin- elliad priodol ger bron y cyhoedd cyn bo hir. Yr un fath gyda phwnc y Fasnach Feddwol. Parha hon i ennill nerth a dy- lanwad, a daw ei phleidwyr yn fwy lliosog flwyddyn ar ol blwyddyn yn y Senedd, ac wrth ei gwneud yn fwy parchus ac anrhyd- eddus fe'i gosodir ar seilian mwy cedyrn, fel mai gwaith anhawdd iawn fydd ei diorseddu gan y cenhedlaethau sydd i ddod. Mae materion Llafur a Dadgysylltiad hefyd yn bethau agos iawn i ni'r Cymry, a byddai yn amheuthyn o beth i gael datganiadau croyw ar hyn gan y gwahanol gynrychiolwyr Cymreig cyn iddynt fyned yn ol i ddinodedd y Senedd yn nechreu 1908.

Addysg Fydol.

[No title]