Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Teimlad siomedig ddaeth tros y frawdoliaeth yr wythnos hon pan agorwyd y gweithrediadau arferol yn ystafell y Gol. Yr oedd llu mawr o Eisteddfodwyr wedi dod yn ol o'u gwyliau, ac ereili wedi dod yma am dro o'r hen wlad, a phawb yn dra awyddus i glywed beth oedd ein cynlluniau ynglyn a'r wyl Fawr yn 1909. Yn anffodus yr oedd y Vinsent yn absennol. Daeth y si yngynnar i'r cwrdd ei fod wedi myned i'r cyfandir er cynorthwyo y Brenin Iorwerth i hedd- ychu teyrnasoedd y byd. Gwyddis mai Iorwerth sy'n gofalu am Orsedd Prydain, ond gan y Vinsent mae allwedd cist Cymdeithas yr Eisteddfod, yr hon sy'n rheoli yr Orsedd fwyaf a welwyd erioed heb eithrio Gorsedd Dragwyddol yr hen Wilym Cowlyd ers talwm. Pan ddaw ef a Mr. Lloyd-George yn ol o'u taith, wedi yfed yn helaeth o ddyfroedd iachusol y cyfandir, a rhoddi trip arall i Landrindod i gael bias y dwr yno wedyn, diau y dechreuir ar waith y ddwy flynedd nesaf, ac y trefnir popeth gyda'r un rhwyddineb didrwst ag a wnaed a'r wyl a gaed yma ryw ugain mlynedd yn ol. Yn y cyfamser byddai'n ddyddorol cael gwybod beth yw syniad ein darllenwyr am destynau priodol i'r Wyl. A oes gennym ddarnau cerddorol Cymreig ddigon da i'w gosod yn test pieces i'r corau mawr, a beth am ganeuon addas i'r unawdwyr ddont i'r Eisteddfod yn gystadleuwyr bob blwyddyn? Dylai Cymry Llundain gadw at eu haddewid i wneud yr wyl mor Gymreig ag sydd bosibl, a thrwy drefnu testynau priodol ar y cychwyn mae sicrhau hyn. Hefyd pa adeg o'r flwyddyn fyddai oreu yn ol barn y mwyafrif ? Y mae'r gwyliau wedi dod yn beth mor gyffredin gennym yn awr fel y mae'n amhosibl synied am fis Awst fel mis priodol i gadw'r fath gynulliadau. Dewch i'r cwrdd nesaf frodyr i draethu eich lien. E. Williams.-Blin gennym na ddaeth y CELT i law yn gynarach yn ardal y Bermo. Mae'r newyddiad- urwyr ar y relwe yn ei gael yn gysson bob nos lau o'r -swyddfa hon, a dylasai fod yna yn gynnar foreu Sadwrn fan bellaf. E. J. Davies.-Da gennym glywed eich bod yn bwriadu agor siop lyfrau Cymraeg. Mae digon o le i chwi yma. Yr Hen Oronwy."—Eich llith yn rhy hwyr yr wythnos hon, feallai y caiff le yn y nesaf. W. R. D. -Nid ydym yncyhoeddi 11 adolygiadau am lyfrau oddiwrth yr awdwyr eu hunain. Os am ein barn ar y llyfr, fe ddaw yn ei dro wedi i ni gael hamdden i'w ddarllen.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. AWDWR "THE BIBLE IN WALES." At Olygydd CYMRO LLUNDAIN A'R CELT." ANWYL SYR,—Yn y CELT am yr wythnos ddi- weddaf ceir erthygl ar y Gymdeithas Lyfryddol, a sefydlwyd yn Abertawe adeg yr Eisteddfod. Yng nghwrs yr erthygl cyfeiria eich gohebydd at ddy- wediad Mr. Ifano Jones "My Book on the Bible in Wales," a dymuna wybod pwy yw awdwr y llyfr. Gwyr y rhai a welodd y llyfr ei fod yn cynnwys dwy ran y gyntaf (tud. 1-71) yn draethawd galluog a dysgedig ar hanes y Bibl Cymraeg a'r ail (tud. 1-91), yn cynnwys rhestr o'r holl argraffiadau o hono hyd y flwyddyn 1900. Cefais y pleser o ddarllen holl brawf-lennau y rhan gyntaf o'r llyfr, a gallaf dystio yn gyhoeddus mai gwaith Mr. Ballinger yw hwn. Gydag ef y bu'm i yn gohebu, ac yn ei lawysgrif ef y gwnaed y cywiriadau a'r cyfnewidiadau oedd yn angenrheidiol wrth fod y llyfr yn myned trwy'r wasg. Yn ei ragymadrodd dywed Mr. Ballinger a ganlyn "The materials for the Bibliography were collated and arranged by Mr. James Hano Jones, chief assistant in the Reference Library. I am responsible for the historical survey." Nis gallaf ffurfio barn am gywirdeb y frawddeg gyntaf, ond gwn fod yr ymadrodd olaf yn llythrennol gywir.—Yr eiddoch, &c., J. H. DAVIES. Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Medi 9, 1907. SAESNEG YN Y CAPEL. At Olygydd y CYMRO LLUNDAIN A'R CELT. ANWYL MR. GOLYGYDD,-Caniatewch i mi, fel darllenwr cyson o'r CELT, ychydig ofod i wrth- dystio, a hynny yn y modd mwyaf pendant, yn erbyn yr arferiad dra l.aerllug a fabwysiedir gan rai Pregethwyr a weinyddant yn addoldai Cymreig y Brif.ddinas. Yr ydych chwi, a minnau, a miloedd ereill o Gymry yn mynychu achosion Cymreig yn Llundain oherwydd ein bod am addoli yn yr iaith Gymraeg. Yr ydym hefyd yn dod a'n plant i eglwys neu gapel Cymreig er mwyn cadw yn fyw ynddynt yr yspryd Cymreig, yr hwn na ellir ei ddadblygu ar "Wahan i wybodaeth o'r iaith. Ac er hyn i gyd yr ydwyf ar lawer achlysur wedi clywed pregethwyr yn Llundain yn rhoddi rhan o'r bregeth yn yr iaith fcaesneg, ac yn ystod yr odfaon boreuol a hwyrol yn traddodi anerchiadau i'r plant yn yr iaith Saesneg, heb yn gyntaf dderbyn cais oddiwrth yr eglwys i weithredu fel hyn. Yr ydwyf yn ystyried fud ymgymeriad o'r fath yn un hynod o anfoesgar, a dweyd y lleiaf, ac fel un sydd yn caru ei iaith, ac a barn uchel am ddyfodol cenedl y Cymry, yr ydwyf yn barod i gydweithredu mewn unrhyw gynllun fydd a'i amcan i wneud y fath fandal-waith yn amhosibl. Yr ydwyf fi, a miloedd ereill, bob dydd Sul yn pasio ugeiniau o gapeli ag eglwysi Seisnig ar ein ffordd i'n capel Cymreig, ag a ellir tybio am unryw beth i anghymwyso un o'r fath yn fwy i dderbyn bendith mewn odfa nag iddo geisio meddianu ei hun mewn amynedd dan y fath oruch- wyliaeth. Cefais ddeg munyd 0 hyn boreu dydd Sul diweddaf, ac yr ydwyf yn sicr taw dyna yr ymdrech olaf. Ai ar y sail hon-sef anwybyddiaeth o deimlad, a diffyg ymgynghoriad ag aelodau ein heglwysi—yr ydym yn myned i sicrhau cydraddoldeb crefyddoi yng Nghymru ?—Yn wladgar, JOHN ROWLAND.
Y DYFODOL.
Y DYFODOL. Boed i Ysgrifenyddion y gwahanol Gymdeithasau anfon ar fyrder restr o'u cyfarfodydd arbennig i'w gosod yr y Oolofn hon. Hyd. 6 a 7- Gwyl Diolchgarwch Eglwys St. Padarn. Hyd. 9- Cyfarfod Agoriadol Cymdeithas Dddiwyllia- dol Clapham Junction. Anerchiad gan Llewelyn Williams, Ysw., A.S. Cyngherdd Blynyddol Battersea Rise. Hyd. 12, 13, 14- Cyfarfod Pregethu Battersea Rise. Hyd. 13 a 14- Dewi Sant, Paddington. Cyfarfod Diolch- garwch. Hyd. 18- Cymdeithas Ddiwylliadol Clapham Junc- tion. Anerchiad gan Iolo Carnarvon. Hyd. 20- Cyfarfod Pregethu Blynyddol M C. Beau- champ Road, Clapham Junction. Hyd. 23- Te a Chyngherdd Blynyddol M.C. Beau- champ Road, Clapham Junction. Hyd. 24- Te a Chyngherdd Blynyddol M.C. Snssex Road, Holloway, N. Queen's Hall (small), East London Welsh Church Grand Concert. Hyd. 30- Queen's Hall (small), St. Mary's, Camberwell, Grand Concert. Hyd. 31- Mile End Grand Concert. Tachwedd 3 a 4- Cyrddau Blynyddol Eglwys St. Padarn. Tachwedd 3 a'r 4 (Dydd Sul a Nos Lun)— Cyfarfod Pregethu, Capel y Wesleyaid Brunswick, Balcombe Street, Dorset Square, W. Tachwedd 7 (Nos lau)— Cyngherdd Mawreddog, Capel y Wesleyaid Brunswick, Balcombe Street, Dorset Square, W. Tachwedd 7— Annual Concert: St. Brides Institute, Bride Lane. Tachwedd 14- Te a Chyngherdd Blynyddol Radnor Street. Tachwedd 21- Cyngerdd Eglwys St. Padarn yn y Queen's Hall. Tachwedd 23- Tabernacl King's Cross. Cyngherdd. Tachwedd 28- Eisteddfod Hammersmith. 1908. Ion. 23- Eisteddfod Fawreddog Battersea, yn Batter- sea (Grand) Town Hall. Ion. 30- Eisteddfod Eglwys Dewi Sant, Queen's Hall. Chwef. 15- Y Tabernacl Cymreig Eisteddfod Flynyddol. Mawrth 5— Eisteddfod City Road yn Shoreditch Town Hall.
Advertising
PUBLISHERS' NOTE. The Publishers of "The London Welsh- man and Kelt" will be pleased to hear from any Reader or Newsagent who ex- periences a difficulty in obtaining this paper. To avoid any delay a standing order should be given to a Newsagent, or at the Railway Bookstall, so that they can make the necessary arrangements to obtain a supply punctually each week. Bydd; yn hyfrydwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgrifau gwrthodedig. PROFESSIONAL COLUMN. MADee dhvies, n.R.e.M., Teacher, L.C.M. Voice Production and Solo Singing. Telephone 8914 Central. For Terms: Apply, 118, Euston Road. MISS MAY JOHN (Soprano), First Prize-Winner World's Fair, Chicago. Double Medallist, R.A.M. For Oratorio, Ballad and Miscellaneous Concerts, and Eisteddfodau, apply direct to 20, MONTGOMERY STREET. ROATH PARK, CARDIFF [B339-11-9 MHDflME HLieE LHSSEN, The Danish Contralto (late of Hull), Is Open for Engagements at Concerts, At Homes, &c. ee Mme. Lassen sang in splendid style "Year after Year," and Schumann's "To the Sunshine." She emphasised the delight experienced by sweetly rendering "The Ring" (Schumann).— Morning News, Hull Address: 38, Scarborough Road, Leytonstone, London, N.E GWYNNE DAVIES, Tenor. Ofatorio, Concepts, Banquets, etc. NOTE CHANGE OE ADDRESS :— 1, PORTLAND ROAD, FINSBURY PARK, N. P. EDWARDS, Mus. Bac. (Pedr Alaw), Beirniad Cerddorol, Arweinydd Cymanfaoedd Canu, 40, Scarborough Road, Leytonstone, N.E. Cyfansoddiadau- PSALMODY.Yn cynwys dros dri chant o Gor. ganau Newyddion. Pris, Hen Nodiant, 3/ Gyda darlun o'r Awdwr. (Copiau oddiwrth Weekes & Co., Hanover Square, W.) Dywed Emlyn Evans am y gwaith yn y Cerddor- "Nid ymym yn gwybod am gynifer o Gor- ganau gan yr un Awdwr, mewn unrhyw wlad nac iaith. Gobeithiwn y ca'r gwaith y fath dderbyniad ag a'i had-dala am ei lafur a'i wasanaeth." THE BEATITUDES," Cantawd. Hen Nodiant, 2/ Sol-ffa (Cydganau), 6c. cc YR ARGLWYDD YW FY MUGAIL," Anthem i Gorau Meibion. Hen Nodiant, Swllt; Sol-ffa, 4c. Sieryd Tom Price, J. T. Rees, Mus. Bac., ac eraill, yn uchel am y darn hwn. cc Fy ENAID, BENDITHIA YR ARGLWYDD," Anthem.* Hen Nodiant, 4c.; Sol- fia, 2g. Copiau oddiwrth Gwmni'r Wasg Gymreig, Caernarfon. Y gweddill oddiwrth y Cyfan. soddwr. The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name of the writer, and the address must also be given, not neces- sarily for publication, but as a guarantee oj good faith. TRADE ADVERTISEMENTS. Displayed. Per insertion :— Per Inch, in Column 2/6 „ Half Column 15/- Column 1/8/0 „ Page. 4/0/0 Reduction for a series of 13 or more insertions. Special Position by Arrangement.