Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Bwrdd y Gol.

News
Cite
Share

Bwrdd y Gol. Teimlad siomedig ddaeth tros y frawdoliaeth yr wythnos hon pan agorwyd y gweithrediadau arferol yn ystafell y Gol. Yr oedd llu mawr o Eisteddfodwyr wedi dod yn ol o'u gwyliau, ac ereili wedi dod yma am dro o'r hen wlad, a phawb yn dra awyddus i glywed beth oedd ein cynlluniau ynglyn a'r wyl Fawr yn 1909. Yn anffodus yr oedd y Vinsent yn absennol. Daeth y si yngynnar i'r cwrdd ei fod wedi myned i'r cyfandir er cynorthwyo y Brenin Iorwerth i hedd- ychu teyrnasoedd y byd. Gwyddis mai Iorwerth sy'n gofalu am Orsedd Prydain, ond gan y Vinsent mae allwedd cist Cymdeithas yr Eisteddfod, yr hon sy'n rheoli yr Orsedd fwyaf a welwyd erioed heb eithrio Gorsedd Dragwyddol yr hen Wilym Cowlyd ers talwm. Pan ddaw ef a Mr. Lloyd-George yn ol o'u taith, wedi yfed yn helaeth o ddyfroedd iachusol y cyfandir, a rhoddi trip arall i Landrindod i gael bias y dwr yno wedyn, diau y dechreuir ar waith y ddwy flynedd nesaf, ac y trefnir popeth gyda'r un rhwyddineb didrwst ag a wnaed a'r wyl a gaed yma ryw ugain mlynedd yn ol. Yn y cyfamser byddai'n ddyddorol cael gwybod beth yw syniad ein darllenwyr am destynau priodol i'r Wyl. A oes gennym ddarnau cerddorol Cymreig ddigon da i'w gosod yn test pieces i'r corau mawr, a beth am ganeuon addas i'r unawdwyr ddont i'r Eisteddfod yn gystadleuwyr bob blwyddyn? Dylai Cymry Llundain gadw at eu haddewid i wneud yr wyl mor Gymreig ag sydd bosibl, a thrwy drefnu testynau priodol ar y cychwyn mae sicrhau hyn. Hefyd pa adeg o'r flwyddyn fyddai oreu yn ol barn y mwyafrif ? Y mae'r gwyliau wedi dod yn beth mor gyffredin gennym yn awr fel y mae'n amhosibl synied am fis Awst fel mis priodol i gadw'r fath gynulliadau. Dewch i'r cwrdd nesaf frodyr i draethu eich lien. E. Williams.-Blin gennym na ddaeth y CELT i law yn gynarach yn ardal y Bermo. Mae'r newyddiad- urwyr ar y relwe yn ei gael yn gysson bob nos lau o'r -swyddfa hon, a dylasai fod yna yn gynnar foreu Sadwrn fan bellaf. E. J. Davies.-Da gennym glywed eich bod yn bwriadu agor siop lyfrau Cymraeg. Mae digon o le i chwi yma. Yr Hen Oronwy."—Eich llith yn rhy hwyr yr wythnos hon, feallai y caiff le yn y nesaf. W. R. D. -Nid ydym yncyhoeddi 11 adolygiadau am lyfrau oddiwrth yr awdwyr eu hunain. Os am ein barn ar y llyfr, fe ddaw yn ei dro wedi i ni gael hamdden i'w ddarllen.

Gohebiaethau.

Y DYFODOL.

Advertising