Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

NODION LLENYDDOL.

ANGLADD YN Y WLAD.

News
Cite
Share

ANGLADD YN Y WLAD. Amgylchiad sydd yn aros yn fyw yn fy nghof yw angladd. Yr oedd angladd i mi yn yr oedran hwnnw, tua phum mlwydd oed, yn beth i'w ofni fel angau Yr oedd rhyw angladd mewn cymydogaeth wledig fel Cwmgarw, y pryd hwnnw, a'r tai yn anaml, yn beth i son am dano, ond heddyw dyma angladd cymydog, angladd perthynas, angladd hen ddyn ag oedd y gymydogaeth yn edrych i fynny ato, ac yn ei barchu, a'i anwylo, angladd newyrth Rhisiart, Cwm- garw, yn codi o'r ty o fewn dau led cae i'n ty ni! Yr oeddwn yn teimlo nad oedd ond megis dau led cae rhyngwyf ag angau Nid wyf yn cofio am na bwyta nac yfed, na gweithio, na chwareu, y diwrnod hwnnw. Yr oedd rhyw erfyn a distawrwydd llethol wedi meddiannu'r hen gwm i gyd. Yr wyf yn cofio fy mod i a fy chwaer-yr oedd arnaf ormod o ofn myned wrthyf fy hun-yn rhedeg i benucha'r ardd i edrych am yr yngladd, ac yn rhedeg yn ol i'r ty i ddweyd fod y dynion yn dechreu dod! Rhedeg i benucha'r ardd eto, ac yn ol i'r ty drachefn. Eto ac eto, a thrachefn a thrachefn, y gwnaethom hyn, hyd nes i ni weld lot o ddynion yn myned a'r elor at dy newyrth Rhisiart. Yna rhedasom i'r ty a'n hanadl yn ein gyddfau i ddweyd Mae'r dynion wedi dod a'r elor i moyn yr angladd Yr oeddwn wedi dychrynu, ac wedi gwylltu yn methu aros yn y ty, ac yn ofni myned allan rhag fod yr elor wedi dod i'm cario innau i'r bedd Ymhen tipyn clywem y canu lleddf yn dod yn groes i'r afon, ac yn groos i'r cwm, a rhedasom i'r ty i ddweyd eu bod yn canu ac yn llefain wrth dy newyrth Rhisiart! Yr oedd y swn mor felus ac mor lleddfol, yn adsain yn groes i'r hen gwm tawel, ac yn gwneud i'r cilfachau ddynwared canu ac wylo, a ninnau'n ocheneidio fel mewn llesmair wrth ei glywed. Dyna beth rhyfedd i ni oedd canu mewn angladd, a thyna beth naturiol oedd yr wylo oedd yn gymysg ag ef. Yr oedd yn peri i gofio hen bennill mamgu, un o'r penillion cyntaf ddysgwyd i ni: Mewn coffin pren ar fyr ca'i fod. Heb allu cyffro llaw na thro'd Fy nghorff yn llawn o bryfed byw, A'r enaid bach He mynno Duw. Yr oedd fy enaid bach yn crynnu fel deilen, tra yn ymguddio ym mherth yr ardd i weld yr angladd ym mynd heibio. Ofnwn yn fy nghalon rhag fod fy angladd innau wedi dod, gan mor agos ac mor sylweddol oedd yr ymweliad cyntaf hwn o eiddo angau wedi fy nharo. Wedi iddo ddod i lawr gyda glan yr afon, a thros y bont gul, ac i fyny y rhiw heibio talcen y ty, nid oedd un o honom yn dweyd un gair, ond yr oedd fy chwaer yn wylo. Y mae twymynon, a doluriau, a chystudd- iau, fel full stops yn hanes bywyd dyn, ac yn ei rannu yn baragraffau, paragraff newydd o hyd yn dynodi cyfnod newydd. Credaf fi y byddai dyn wedi marw yn ieuanc, oni bai ambell bwl o ddolur i newid ei fywyd ac estyn ei einioes. Dyna fendith yw twymyn dda, neu bwl o ddolur tost, i dori ar unffurfiaeth bywyd ac ar undoniaeth meddwl. Nid wyf yn gallu dirnad pa fodd mae dynion iach wedi gallu byw cyhud! Pa fodd mae dynion heb fod yn dost heb farw o flino! Pa fodd y mae dynion sydd yn gweithio o hyd yn gallu gwneud dim Eithaf peth yw i Fethodist fynd at Ani- bynwyr i'r ysgol, neu Anibynwr at Fetho- dist, neu Wesley at Fedyddiwr, i gael cymysg tipyn ar waed yr enwadau gwahan- edig sydd yn ein gwlad. Yr wyf yn gwybod hyn drwy brofiad, erbyn heddyw, ac yn synnu na byddai gennyni fwy o golegau unedig, lie gallai'r gwahanol enwadau adnabod eu gilydd, cyn myned yn ddall i ragoriaethau y naill y llall. Dim ond Bangor a Chaerfyrddin, heddyw, sydd yn ceisio gwneud hynny, a bendith ar ben y ddau. Os deil y ddau goleg i weithio fel hyn am beth amser, yr wyf yn teimlo yn sicr y bydd gennym Anibynwyr mwy caeth, a Bedyddwyr mwy rhydd, nag a fu erioed. Y mae Corff y Methodistiaid, y dyddiau hyn, yn gwneud cam a'i enaid ei hun, gallwn feddwl !-(Allan 0 Adgojion Watcyn Wyn.")

[No title]

Advertising