Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
[No title]
CYMERWYD lie Mr. D. Lloyd-George, A.S., yn Undeb y Bedyddwyr eleni gan Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., a thraddododd araith nodedig yno ar y pwysigrwydd o gadw'r iaith Gymraeg yn iaith yr aelwyd a chrefydd. MAE sedd wag eto yn y Senedd trwy far- wolaeth Mr. D. Maclver, yr aelod Ceidwadol tros Kirkdale. Bwriada plaid llafur ymladd yr ornest. Ar adeg yr etholiad diweddaf cafodd Maclver fwyafrif o 592 ar ei wrth- wynebydd llafurawl.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. YMADAEL.—Mae Dr. Walter Davies, Hills Place, wedi prynnu meddygfa y diweddar Ddr. Morris, Llanidloes, a bwriada symud o Lundain yno yn ddioed. CLWB Y BEL.—Gwelir fod gwyr y bel droed yn agor eu cae newydd y Sadwrn nesaf, gyda gornest fawr a Gwyr Morganwg. Dis- gwylir torf fawr yno i wylio yr ymdrechfa. AWDURES NEWYDD. Mae Miss Elsie Roberts, merch Mr. L. H. Roberts, Aberyst- wyth, gynt o Wilton Square, wedi dadblygu i fod yn awdures ym myd y Gan. Hi sydd wedi cyfansoddi'r gan newydd i eiriau Eifion Wyn "Men." Enw ar eilun-ferch y bardd yw Men, fel y gwyr pawb sydd wedi darllen ei delynegion. PRIODAS.—Ar y 19eg o'r mis diweddaf yn Eglwys Eastleigh, gan y Parch. R. U. Pilban, y ficer, priodwyd Mr. James Thomas, o fasnachdy John Lewis, Oxford Street, ac un o aelodau King's Cross, a Miss Edith Nellie Salter, o Eastleigh. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei brawd-ynghyfraith, Mr. Sidney Ives, Eastleigh, a gwasanaethodd Mr. J. G. Owen, M.B., King's College Hospital, fel gwr y priodfab. Daeth cyn- ulliad hapus ynghyd i ddymuno llwydd i'r undeb, ac ar ol y boreufwyd, aeth y par ieuanc i Mumbles i dreulio eu mis mel. POPLAR.-Nos Fawrth, y 27ain cyf., cyn- haliwyd cyfarfod yn y lie uchod i ffarwelio a'r Parch. T. Jones, y diweddar weinidog. Cymerwyd y gadair gan Mr. L. Tiddy Jones, a chafwyd anerchiadau ganddo ef, Mr. W. Williams, Acton, a Mr. D. Nelson Evans. Dygai yr oil dystiolaeth i ffyddlondeb Mr. Jones i'w ofal, ei weithgarwch diflino, a'i garedigrwydd i bawb, ac ni fu odid weinidog Cymreig sydd wedi anwylo ei hunan gymaint gyda phobl o bob enwad crefyddol. Nid yw Eglwys Poplar yn gref mewn nifer na chyfoeth, ond mynasant ddangos eu parch a'u cariad tuagat Mr. Jones drwy roddi iddo anrheg fechan, gyda gweddiau am wenau yr Arglwydd ar ei waith yn ei faes newydd. Diolchai yn gynnes am yr arwydd hon o barch ac edmygedd Poplar tuagato, a dy- munai yr un cydweithrediad oddiwrthynt i'w olynydd. Yn ARGLWYDD FAER.—Mae disgwyliad y gall yr Arglwydd Faer neu rai o'r Siryddion fod yn bresennol yn ymdrechfa'r bel droed ddydd Sadwrn nesaf. Rhoddir cyfran o'r derbyniadau am y dydd i gronfa'r Arglwydd Faer tuag at blant methedig, a hyderwn y ceir cynulliad rhagorol i roddi cychwyn i'r achos ar ddechreu tymor y gauaf. MARWOLAETH.—Dydd Llun, Awst 12ed, yn 12, Elm Park Road, Chelsea, bu farw Mrs. Rees, gweddw y diweddar Mr. W. Rees, hen ddiacon ffyddlon yn Radnor Street, am flynyddau. Roedd Mrs. Rees yn 84 mlwydd oed, ac wedi ei chyfyngu i'r ty ers rhai blynyddau, ond cymerai ddyddordeb mawr yn yr achos yn Chelsea ar hyd yr amser. Yr oedd ei phriod wedi ei rhagflaenu tuag ugain mlynedd. Daeth llu mawr o'i chyfeillion a pherthynasau, dydd Iau canlynol i hebrwng ei gweddillion i gladdfa Brompton, a'r Sul wedyn, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'i theulu yn eu trallod ar ol colli mam mor dyner a rhinweddol. CYMRAEG Y PULPDD.—Dyma fel yr ysgrif- enna Irt Ormyc" ar y mater hwn:— Cawsom ein blino yn fawr ar foreu Sabbath yn ddiweddar wrth wrando ar un o weini- dogion ein cyfundeb yn Llundain yn def- nyddio geiriau sathredig, a gwneud iws o'i eiriau ei hun ag oedd yn jarrio ar ein clustiau. Ein hamcan wrth alw sylw at byn yw dymuniad cywir a gonest am weled di- wygiad yn y cyfeiriad hwn, a disgwyliad ar i bob Cymro siarad a phregethu yn Gym- raeg. Paham y mae yn rhaid defnyddio geiriau mor salw-geiriau Cymraeg wedi en Seisnigeiddio, a geiriau Saesonaeg wedi eu Cymreigeiddio ? a chennym ninnau iaith mor gyfoethog. Er mwyn i chwi ddeaB beth ydym yn feddwl, yr ydym yn anfon engreifftiau o rai o'r geiriau a ddefnvddiwyd yn ystod y bregeth—Iwsio, arrivio, stopio,. pointio, packio, checkio, jarrio, coinio,. clashio, singlio. Dyma "goinio" geiriaiv onide.—Ydym, IRT ORMYC.
[No title]
Proff. EDWARD EDWARDS, pregethwr parchus. a blaenor ffyddlon gyda'r ialethodistiaid, sydd wedi ei ail-ddewis yn gapten Olwb Golf y Borth. Mae enwau tri o gyd- swyddogion eglwysig yr athro ymysg aelodau y Clwb. MAE'R Bala yn colli ei Chymraeg. Y Sul diweddaf agorwyd Capel Saesneg yno, a phregethwyd gan y Parch. P. Williams, Bomere Heath, un o hen efrydwyr Coleg y Bala. Pie mae dylanwad 0. M. Edwards a Tom Ellis wedi mynd ? DYWEDIR y caiff Syr Alfred Thomas ei godi i Dy yr Arglwyddi cyn bo hir. Bu o help dirfawr i'r Llywodraeth, a haedda un- rhyw anrhydedd y gall y weinyddiaeth roi. iddo. Efe sydd yn gallu rheoli yr aelodau- Cymreig gwrthnysig, ac y mae'r gwr fedr wneud hynny yn werth ei wobrwyo. MAE pregeth hynod iawn ar Y Cwymp," gan y Parch. W. 0. Jones, B.A., yn Llais- Rhyddid am fis Medi. Ymwrthyd y pre- gethwr yn llwyr a'r hen esboniadau ac v mae ganddo air llym yn erbyn Dr. Cyn- ddylan Jones. DYWEDIR fod yr Arglwydd Brif Farnwr wedi penderfynu na bydd i'r Ddirprwyaeth ar yr Eglwys yng Nghymru gyfarfod i wrandaw tystiolaeth bellach hyd dydd Mawrth, Hydref laf. Disgwylir y bydd i'r Ddirprwyaeth eistedd yr adeg honno am lawn bythefnos ac ar ol i'r llysoedd ail ymgyfar- fod ar y 12fed o Hydref, disgwylia yr Arglwydd Farnwr fod mewn sefyllfa i roddi: pob yn ail wythnos at waith y Ddirprwyaeth, hyd nes cymerir yr oil o'r dystiolaeth sydd i gael ei chyflwyno.
Advertising
A GAN NEWYDD^ I SOPRANO NEU DENOR. Is IW 30 w99 GA ELSIE ROBERTS. GEIRIAU GAN EIFIOX WYX. CYFIEITHIAD I'R SAESNEG GAN E. AN WYL, M.A FRIS SWLLT. Copiau i'w cael gan David Jenkins, Mus. Bac. (Cantab)r Abervstwyth.
r. BYD Y GAN.
Dos. Rhif y cor. Gwobrau. (!) (2) 3 30-40 Y, 15 £ 8 2 60-80 £ 40 £ 20 1 120-150. I-r 80 £ 40 Hefyd y gwobrau ychwanegol canlynol: Dosbarth 3—Medal Aur i'r cor a enillai deirgwaith yn olynol. 2-Cwpan Arian i'r cor a enillai deirgwaith yn olynol. 1—Cwpan Aur i'r cor a enillai deirgwaith yn olynol. o dan yr un Arweinydd. Na oddefer i gor yn nosbarth 3 gystadlu yn nosbarth 2 yn yr tin Eisteddfod; na chor yn nosbarth 2 wneud ei rif yn llai er cystadlu yn nosbarth 3. Felly hefyd gyda Dosbarth 1 a 2. Wedi llawer o ystyriaeth, nis gwelwn y gellid cadw cor mewn un dosbarth am, dyweder, dair blynedd er cymwyso ei hun i ddosbarth arall, canys dichon na fyddai i lawer o gorau Dosbarth 3 ennill cymaint ag unwaith yn ystod y tair blynedd. Na, rhaid i nifer y cor a phwysigrwydd y gerddor- iaeth roddi yr hawl i gor benderfynu ym mha ddosbarth y bydd iddo gynnyg. Gan nad yw corau meibion mor lliosog o ran nifer lleisiau a'r corau yn Nosbarth 1 o'r rhai cymysg," buasem yn gwneud dati ddosbarth o'r rhai hyn, rhywbeth fel hyn Dos. Rhif y Cor. Gwobrau. (1) (2) 2 30-40 £ 20 £ 10 1 60-80 £ 50 t25 Hefyd, yn Nosbarth 2-Cwpan Arian i gor a enillai deirgwaith yn olynol. Yn Nosbarth 1—Cwpan Aur i gor a enillai deirgwaith yn olynol. o dan yr un Arweinydd. Na oddefer i gor yn Nosbarth 2 gynnyg (gyda rhif ychwan- egol, yn Nosbarth 1), na vice versa. Gellid gweithio ar linellau tebyg i'r rhai olaf hyn gyda chorau merched. Dyma awgrym arall: Dylai y Pwyllgor wahodd cor adnabyddus i roddi perfformiad o waith newydd (wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor), neu o waith safonol. Y Pwyllgor i gyfranu, dyweder £ 50, a'r Eisteddfod Association Y,50, tuagat dreuliau y cor. Y Pwyllgor hefyd i ofalu am Gerddorfa i gyfeilio y gwaith. Dylai Cor yr Eisteddfod hefyd ddysgu gwaith cyfan gogyfer a'r Wyl. Fel hyn ceid o leiaf ddau waith cyflawn. Oni fyddai modd, hefyd, trefnu i gor merched ganu cantawd yn un o'r cyngherdd- au ? Byddai yn beth dyddorol i'r lliaws yn ddiau. Bydd gennym ragor i'w ddweyd ar hyn wedi cael barn rhai o'n darllenwyr. Bydd yn dda gennym hefyd wybod beth a feddylia Price Pennant am y cynllun ? Dyweded air arno yn y Western Mail. Y mae croesaw cynnes i gerddorion draethu ar y mater pwysig a dyddorol hwn yn y golofn hon. Bydded iddynt fanteisio ar y cyfie presennol.