Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

r. BYD Y GAN.

GYMDEITHAS LYFRYDDOL.

News
Cite
Share

GYMDEITHAS LYFRYDDOL. EI GWAITH CYNTAF. Dyma Gymdeithas newydd a ffurfiwyd yn derfynol ar adeg Eisteddfod Abertawe. Buwyd yn siarad am y peth flwyddyn yn ol yng Nghaernarfon, ac ar ol cael blwyddyn o brofiad ac ystyriaeth, llwyddwyd i gytuno ar reolau a chynllun addas eleni. Penod- wyd Syr John Williams, Llanstephan, yn llywydd Mr. John Ballinger, Caerdydd, yn drysorydd; a Mr. Rhys Phillips, Llyfrgell Rydd, Abertawe, yn ysgrifennydd. Un o amcanion pennaf y Gymdeithas fydd dod o hyd i hanes pob llyfr a chyhoeddiad a ddaeth o'r wasg erioed yn ymdrin a Ohymru neu yn. dal unrhyw berthynas a phethau Cymreig. Gall unrhyw un a hoffo ddod yn aelod o'r Gymdeithas, ond talu coron y flwyddyn, neu fe'i gwneir yn aelod am oes ond tanysgrifio tair gini ar unwaith. Mae yna lawer iawn o bethau ynglyn a hanes llyfrau Cymreig y byddai yn werth ,cael goleuni arnynt. ID Yn un peth, nid yw'r awdurdodau llyfryddol wedi penderfynu i sicrwydd pa lyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn Gymraeg. Gwyr y cyfarwydd fod Mr. J. H. Davies, M.A., Aberystwyth, yn ei s-agymadrodd i'r ad-argraffiad o Yn y Llyfr Hwn" yn hawlio'r flaenoriaeth i'r gwaith hwnnw, ac yn ol y dyddiadau sydd ganddo, yn profi y peth i sicrwydd y dar- llenydd. O'r ochr arall y mae'r Dr. J. Gwenogfryn Evans yn ei ragdraeth yntau i Oil Symyyr Pen am osod y gwaith hwnnw -yn rhestr flaenaf y gweithiau Cymreig. Feallai, gydag ychydig ymchwiliad eto, y deuir o hyd i ryw waith a dyn y naill a'r Hall o'u gorsedd arbennig presennol, ac fod rhyw argraffydd arall wedi eu rhagflaenu yn hyn o faes. Pwnc arall sydd hob ei benderfynu yw, pa Ivfr a gyhoeddwyd gyntaf yng Nghymru. Mao Llyfrgell Abertawe yn hawlio fod llyfr ganddynt hwy, y llyfr cyntaf a ddaeth allan o wasg Trefhedyn, yn Sir Aberteifi, ond dywed Mr. Shankland, Bangor, ei fod ef wedi gweled pamphled a gyhoeddwyd yn yr un lie flwyddyn o amser cyn ddyddiad y gwaith sydd yn Abertawe, fel mai gwaith :5 ranhawdd yma eto yw canoli cydrhwng y iath awdurdodau, a diau y llwydda Cym- deithas y Llyfryddwyr hyn i benderfynu'r mater. Cwestiwn dyddorol arall ynglyn a llyfrau yw pwy yw eu gwir awdwyr ? Addefir fod yna weithiau Cymreig wedi eu cyhoeddi tan yr enw John Bunyan nad oes eu tebyg yn y Saesneg gan yr un awdwr. O'r ochr arall y mae dadl frwd yn awr pwy gyfieithodd y Mabinogion i Lady Charlotte Guest ? Myn Thai mai gwaith y llenores ddysgedig honno ydyw, tra dywed ereill fod gan Gwallter Mechain neu Thomas Stephens, o Ferthyr, tawer i wneud a'r gwaith. Ond feallai, cyn dechreu, ymholi i hanes gwir awduron hen lyfrau a gyhoeddwyd cyn amser yr oes bresennol, y gwna'r Gymdeithas hon bender- fynu mater arall a greodd beth syndod ar -adeg Eisteddfod Abertawe, sef pwy ydyw gwir awdwr "THE BIBLE IN WALES." llyfr a gyhoeddwyd rhyw flwyddyn yn ol gan Mr. John Ballinger, Caerdydd. Gwyr pawb fod Mr. Ballinger yn cymeryd llawer o ddyddordeb mewn llyfrau Oymreig, ac wedi gwneud gwaith amhrisiadwy ynglyn a chyhoeddi rhestr o'r gweithiau sydd yn llyfrgell Caerdydd. Ar ol cael arddangosfa e L o Feiblau Cymraeg yn y lIe beth amser yn ol, hysbysodd Mr. Ballinger fod yn ei fryd gyhoeddi rhestr lawn o'r argraffiadau a "wnaed o'r Bibl Cymraeg, a chyflawnwyd y bwriad. mewn cyfrol hardd ryw flwyddyn yn ol. Yn honno dywed Mr. Ballinger fel hyn The materials for the Bibliography were collated and arranged by Mr. James Ivano Jones, chief assistant in the Reference Library. I am respon- sible for the historical survey." Yn yr un rhagdraeth y mae'n talu teyrnged o ddiolchgarwch i Syr John Williams, Mr. J. H. Davies, a Mr. T. Shankland ac ereill, am eu cynorthwy mawr ynglyn a'r gyfrol, ac eto pan yn siarad yng nghymdeithas y Llyfr- yddwyr, a'r tri gwr hyn yn bresennol, cyfeir- iodd Mr. Ivano Jones at y gwaith fel "MY BOOK ON THE BIBLE IN WALES," ac ategwyd hyn gan Syr Marchant Williams a Cochfarf, dau o wyr blaenllaw Caerdydd, a'r olaf yn gadeirydd y Llyfrgell 03 nad ydym yn cam- synied. Os yw peth fel hyn yn pery am- heuaeth yn awr beth fydd tynged llyfryddwyr y ganrif nesaf pan yn ceisio penderfynu pwy yw gwir awdwr y gyfrol tan sylw. Pa fodd y goddefodd Mr. Ivano Jones i Mr. Ballinger hawlio y llyfr fel ei waith ef heb brotest gyhoeddus ? Ac a yw Mr. Ballinger yn berson mor ddiegwyddor a hawlio clod am yr hyn nad yw'n teilyngu ? Ac 03 mai Mr. Ivano Jones oedd yr awdwr, paham y darfu i Mr. J. H. Davies gyfeirio at y llyfr fel gwaith Mr. Ballinger? Os gall y Gymdeithas Lyfryddol newydd benderfynu hyn o gwest- iwn, ac osgoi y teimladau sur a ddangoswyd yn Abertawe, o hyn i adeg Eisteddfod Llan- gollen bydd wedi cyfiawnhau ei bodolaeth, z: ond gadawer i ni er mwyn pob cyfiawnder a gonestrwydd gael allan wir awdwr y llyfr Bible in Wales