Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

r. BYD Y GAN.

News
Cite
Share

r. BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. PRICE PENNANT.—Dyma enw oedd wrth ysgrif ar Yr Eisteddfod a Chanu Corawl," yn y Western Mail. Nid ydym yn ei adnabod, ond y mae ei erthygl yn teilyngu mwy na sylw mynedol," fel y dywedir. Gyda'r rhan fwyaf o'i sylwadau yr ydym mewn perffaith gytun. Awgryma na ddylem efelychu corau y Saeson fel y cyfryw. Y mae yr awgrym yn un teg, canys wrth gystadln y mae yn rhaid i gor-boed ef Seisnig neu Gymreig-gadw yn fanwl at reolau-rheolau sydd, hyd yn hyn, yn rhai cyffredinol ynglyn a phob cystadleuaeth. Am "gystadleuaeth," dywed :— I maintain that the highest rendering cannot be given under the strain of competition. The love of the beautiful is stifled in the desire for conquest. The broad and intelligent rendering, the poetic fire, and the gradations of time so essential to artistic completion give way to a slavish adherence to the marked copy. Nid yw hyn oil yn wir, canys hyd yn oed o dan reolau caeth cystadleuaeth, gall corau Cymru yn bur fynych ddangos ini bryd- ferthwch ar ei oreu-mor belled ag y gall canu corawl ei ddangos. Am feirniadaethau dywed :— The very precise manner in which the relative merits of choirs are arrived at, or are supposed to be arrived at, would form a fine item in a Gilbertian libretto. The winning choir is some- times '97 per cent. better than its nearest rival, which, in turn, excels the next best by '84 per cent. It would puzzle the greatest mathematician of all time to know how such emotion can be measured with such marvellous exactitude. Ofnwn mai y Saeson ddaethant a'r dull hwn o feirniadu i arferiad o'r hyn lleiaf, beirn- iaid Saesneg glywsom ni gyntaf yn pwyso c;1 teilyngdod corau yn ol y dull fligurol hwn. Dywed Price Pennant fod ein cerddoriaeth oreu wedi ei hysgrifennu i wasanaeth yr Eglwys, ac y dylid gwneud pob ymdrech i ddwyn y cyfryw i arferiad, ac i wella corau Eglwysig. Byddai cynnyg gwobrau i gorau Eglwysig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gam- gymeriad. Codai hynny wrychyn corau y Capel. Y mae cymaint o gariad brawdol (gwenwynig) cydrhwng y Capel a'r Eglwys yn fynnych! Ond gellid cynnyg gwobr am ganu darn o waith cyfansoddwr Eglwysig (neu arall), agored i gorau yr Eglwys neu y Capel. Byddai hyn yn symbyliad i gorau cyffredin. Rhaid, wrth gwrs, fyddai chwynnu y cyfryw gorau adeg yr Eisteddfod, a dewis nifer fach i ganu o flaen y dorf. Rhydd Price Pennant ei fys ar y briw yn sicr yn ei sylwadau canlynol: The exaggerated style of expression adopted by many of our Welsh choir- masters arises from a desire to read something into the work which is not there, a playing to the gallery which might, and does sometimes, tell in competition. Yn fynnych iawn y bai mawr ydyw gor- acennu. Y mae hyn yn codi o'r ddysgeidiaeth foreuol a gafwyd yn y dosbarthiadau Sol-ffa drwy ein gwlad', sef fod yr acen drom i fod ar y nodyn cyntaf ar ol y bar o hyd-a chedwir yn gaeth at y rheol hon gan bob dosbarth o'n corau. Wrth gwis rhaid cofio y rheol hon pan yn cystadlu Y mae rheol yn angenrheidiol ar y dech- reu; ond daw amser yn hanes cantor, arweinydd a chyfansoddwr, pan y rhaid iddo beidio cymeryd golwg gyfyng, gul, ar gerddoriaeth. Y mae rhyw syniad, neu. syniadau, yn y man yn cynnyg eu hun i'w sylw sydd yn gofyn yn fwy gwirioneddol am bwyslais na'r curiad cyntaf ar ol y bar"! Os yw hyn yn wir, dengys y rhaid i'n harweinyddion corawl ddysgu bod yn fwy o gelfyddydwyr. Dylent ddysgu. cyng- hanedd a "ffurf"; dylent gynefino a gwa- hanol arddulliau (styles) o gerddoriaeth a'r modd i egluro y cyfryw. Dylent feddu mesur helaeth o'r gallu barddonol, fel y rhaid i'r cyfansoddwr ei feddu. Yn wir, rhoddi amlinelliad ar bapur o feddyliai y bardd a wna y eyfansoddwr yr arweinydd corawl (a'r chwareuwr) sydd i ddangos ac i egluro y darlun i'r gwrandawyr Os am ganu corawl perffeithiach, gofalwn am Arweinwyr mwy meddylgar, rhai allant dreiddio yn ddwfn i ystyr y darn cerddorol, a'i egluro i'r byd. Carai Price Pennnant wneud yr Eistedd- fod yn fwy o Wyl (Festival) ar ddydd y brif gystadleuaeth. Dylid (meddai) dysga rhyw waith cyfan, pob cor i'w ddysgu ac ar ol y brif gystadleuaeth (a chyn y dyfarn- iad), yr oil o'r corau i fyned drwy y gwaith penodedig. Nid ydym ym meddwl y gellid cario y cynllun hwn i arferiad. Nid hawdd fyddai i un cor drefnu i ymarfer y darnau gymaint a chor arall a rhyw ganu carpiog a geid, y mae lie i ofni. Wedi hir ystyriaeth, mentrwn gynnyg y meddylddrych a ganlyn i ystyriaeth Price Pennant a'r wlad, ac yn enwedig i Bwvllgor Eisteddfod Genedlaethol 1909. Credwn pe gellid ei fabwysiadu, y byddai yn ddechreti cyfnod newydd gobeithiol yn hanes ein canu. Dyma'r cynllun:— Dosbarther y canu corawl (lleisiau cy- raysg) i dri dosbarth, rywbeth fel hyn

GYMDEITHAS LYFRYDDOL.