Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

NODION LLENYDDOL.

News
Cite
Share

NODION LLENYDDOL. Ynglyn a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni ni ddaeth ond un wobr i Lundain, ac am gyfieithu y caed honno. Yr enillydd oedd y Parch. J. E. Davies, M.A., Jewin, a'r gwaith -oedd cyfieithiad mydryddol o'r Lladin i'r Gymraeg, o ran o Virgil, ac yr ydym yn Uongyfarch Rhuddwawr am ei fedr ieith- yddol yn ogystal ag am ei alia fel bardd. Yr oeddem yn gobeithio hefyd y cawsem y fraint o'i longyfarch am ryw waith gwreidd- iol y tro hwn, ond rhaid aros am hynny hyd yr wyl nesaf, feallai. Watcyn Wyn.—Daeth hunangofiant y di- weddar fardd o'r Gwynfryn allan ar adeg yr Eisteddfod mewn cyfrol ddel o swyddfa'r Educational Company, Merthyr a Chaer- dydd. Golygir y gwaith gan Gwili, gwr a wyr fwy am Watcyn na neb arall bron, ei gysylltiadau maith ag ef yn Athronfa'r Gwynfryn am gynnifer o flyn- yddoedd. Yr hyn sydd eisieu bellach, yw casgliad cryno o boll weithiau Watcyn, a goreu po gyntaf i fyned at y gwaith o'u casglu gan eu bod mor lliosog ac wedi ym- ddangos yn y fath nifer o gyhoeddiadau. The Nationalist.-Mae'r cyhoeddiad hwn yn dal i fyw er fod y rhifyn am Medi, sydd newydd ddod i law, wedi ei argraffu mor wael nes bod bron yn anarllenadwy. Gan mai gwaith hamddenol Syr Marchant W il- liams yw'r mwyafrif o gynnwys y misolyn Seisnig hwn y mae'n briodol disgwyl cyfran dda yn ymdrin ar yr Eisteddfod ynddo, oherwydd yno y treuliodd Syr Marchant ran o'i ddyddiau gwyl eleni. Ond gan fod gwaith yr Eisteddfod wedi lladratta cym- aint o'i amser nid yw'n syndod i ni weled fod yr ysgrifau mor ddifywyd, ac yn amddi- fad o'r cywair beirniadol sydd wedi enwogi'r cyhoeddiad o'i gychwyn. Diau y daw i'w hwyl arferol yn hyn o beth eto ar ol i wyliau yr haf fyned heibio. Cyhoeddir llythyr dyddorol yn y rhifyn hwn, 0 waith Llewelyn Ddu o Fon, yn ymdrin a chymeriad Goronwy Owain. 0 dipyn i beth rhoddir y gwir oleuni ar gymeriad anffodus yr Hen Oronwy. Pulpud y Beirdd.-Gan mai bechgyn y pulpud y'w beirdd goreu y dyddiau hyn, y mae'n ddymunol weithiau cael casgliad o'u cynyrchion pregethwrol yn ogystal a bardd- onol. Mae dwy gyfrol o dan yr enw hwn wedi eu cyhoeddi eisoes, ac wedi cael der- byniad rhagorol gan y werin. Bn'r Golyg- ydd, y Parch. T. Gwernogle Evans, yn gwasanaethu rhai o'n heglwysi yn Llundain yn ddiweddar, a deallwn fod rhai cyfrolau o'r ail gyfres ganddo eto heb eu gwerthu, a chymeradwywn hon yn galonog i bawb o garwyr lien a hoffant burdeb ein hiaith a barddoniaeth ein hefengyl. Ceir cyfan- soddiadau o waith y beirdd-bregethwyr enwog Dyfed, Penfro, Pedr Hir, Dyfnallt, Crwys Williams, Rhosynog, J. J. Williams, a Ilawer ereill yn y gyfrol, ac maent mor amrywiol yn eu dawn barddonol ag ydynt yn eu syniadau ar fywyd a chrefydd. Cyn- rychiolir pob enwad yma gwyr mor eithafol a Dr. Gomer Lewis a'r Esgob Tyddewi yn cael He wrth ochr Llew o'r Llain a Dr. D. M. Phillips, heb son am Gwernogle ei hunan. Pris y gyfrol yw 3s. 6d., a chyhoeddir hi gan Jones a'i Feibion, Treforris, neu oddi- wrth yr awdwr, Parch. T. Gwernogle Evans, Skewen, Castellnedd.

Bwrdd y Gol.

[No title]

Y DYFODOL.

Advertising

[No title]

Advertising