Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

Advertising

YR EISTEDDFOD.

News
Cite
Share

gloch, yng ngwyneb haul, agorwyd yr Orsedd gan Dyfed, yr archdderwydd. Anerchwyd yr Orsedd gan Pedr Hir, Machreth, ac ereill, a rhoddwyd nifer o urddau i ymgeiswyr llwyddianus yn arholiadau Gorsedd y Beirdd, a nifer o wyr urddasol perthynol i'r lie. Pan agorwyd gwaith yr Eisteddfod caed fod cynulliad gwir foddhaol wedi dod i'r babell, a llwyddwyd i gadw dyddordeb yn y cystadleuaethau am y gweddill o'r dydd. Y prif fardd cadeiriol eleni oedd Bethel," Caerdydd, sef y Parch. Thomas Davies, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Seisnig yn y dref honno. Yr oedd cadeiriad Bethel yn dra phoblogaidd, ac ni chwynai neb o'r saith cystadleuydd aflwyddianus eu bod wedi cael anghyfiawnder. Un o arbenigion y dydd hwn oedd cystadleuaethau i gorau plant. Yr oedd chwech a'r hugain o gorau merched wedi dod yno i gystadlu am Y,8 o wobr, a chwech o gorau bechgyn. Bu raid chwynnu y merched i lawr i wyth, a chaed canu rhagorol gan y rhai hyn ar y llwyfan gyhoeddus. Rhanwyd gwobrau cor merched cydrhwng Lerpwl a Canton, Jb5 yr un, a'r ail wobr 0 £ 4 i gor Panteg, ac yn adran y bechgyn enillwyd y wobr flaenaf gan Bryn- hyfryd, a'r ail gan Llandaff. Cyn gorphen a'r canu yn y babell, bu raid galw'r beirdd ynghyd i benderfynu lleoliad Eisteddfod 1909, a daeth torf fawr o'r hil ynghyd i neuadd capel St. Pauls, ac yn sicr profodd hwn yn un o'r cyfarfodydd goreu a gaed yn ystod yr wyl. Llywyddai yr Archdderwydd yn ddeheuig, ac anerchwyd y cynulliad gan ymgeiswyr ar ran Aberyst- wyth, Caerfyrddin, Llandrindod, a Llundain, ac ar ol gornest galed, ond difyr, llwyddodd Llundain i enill y gamp. DYDD GWENER. Dyma ddiwrnod y coroni a chystadleuaeth y corau meibion. Daeth torf enfawr ynghyd y dydd hwn eto, a chymerwyd dyddordeb anghyffredin yn yr oil o'r gwaith drwy'r dydd. Caed Gorsedd yn Cwmdonkim am 9 o'r gloch, ac un o areithiau goreu y cynulliad hwn oedd araith Elfed ar ran y Gymraeg. Yn hwn eto rhoddwyd urddau barddol i nifer o wyr enwog y genedl. Y Parch. John Owen (Dyfnallt), oedd bardd coronog y flwyddyn hon, a phrofodd y fuddugoliaeth yn un tra phoblogaidd hefyd. Daeth deg o gorau meibion i'r llwyfan, a dernyn anhawdd a roed iddynt i'w ganu. Y buddugol oedd cor Resolven, tan arweiniad Mr. T. Glyndwr Richards, a'r ail oedd cor Port Talbot, tan arweiniad Mr. John Phillips. Wele rai o englynion yr Orsedd ar Eis- teddfod Abertawe:- Hyd ei oes, newid y nen-newid gwr Newid gwedd daearen; Ond i newid ei hawen Ymharous yw Cymru wen.—" Elfyn." Gwledd dawn awen a De-yma sydd Mae saint awen adre' I athrylith o rywle-llon aelwyd A baratowyd yn Abertawe.—" Pedrog." Miri a miwsig mor a meusydd-eiliant Ein telyn o newydd A heb done o wlaw bob dydd, Yn 'Bertawe bo'r tywydd. Am hwyl hoew a mel awen-a lie mawr A llu mwy yn llawen Am hil Brython, am heulwen, Dyma bill a dyma ben.—" Ifano." Y Gymraeg, ai mawr hi ?—nage ddim Medd gwaedd uwch y meini Byw'n hen dan lan benwynni A wna'n hiaith a'n hawen ni. Mae'r 'Steddfod yn glod y Gogledd-a chodi'n Hyd y Nef mewn cynnydd [uwch Wele rhai o'r engyl rhydd Ofynant-" Sut mae Eifionydd ?"Mafonwy.' Mae'r haul yn ymwroli—'n angerddol Ynghyrddau Cwmdoncin; Gwefria yr awen gyfrin Newydd wres i noddi'r rhin. 0 Dyfed deued awen-ei gofid I'th gyfarch yn llawen A bydded i'w meib addien Drwy Gymru dy barchu'n ben.—" Bethel." Gorsedd y beirdd, y gwir sydd i fyw-byth Ebe hon mewn iaith hyglyw Gorsedd ein gwyl fawr heddyw Ar ein hiaith aur goron yw. Gwirionedd ddysgir ini-yn foreu Lleferydd ei meini; Ba Orsedd a'i byw wersi Sydd yn ail i'n Gorsedd ni ? Dyma Orsedd a'i chleddyf Yn y wain heb frenin hyf I ddeffro i daro dyn Na gwylio yr un gelyn.-Il Ap Ionawr." Abertawe,—ddibartiol—y dref 0 dras Eisteddfodol Yma 'u cawn heb neb yn ol I nodi'r wyl flynyddol. Cwmdoncin-pwy ddewin ddywed-hanes Yr enw hwn tybed ? Boddia'n gwaith, a byddai'n ged I ofyn gair gan Dyfed. Yn harddle y pare gwyrddlas,—dyma le I deml hardd ein barddas; Sa'i ar led is awyr las- Noddwn ei defion addas.—" Merthyrfab." Wele rhai o'r penillion ddatganwyd gyda'r delyn gan Eos Dar Rhowch i'r Gwyddel, Sais, a'r Scotyn, I bob un ei hoff offeryn, Rhowch i minnau delyn Cymru A swn y tannau'n cael eu tynnu. Mae eisiau'r hen ganu, Ac eisieu'r hen iaith, Ac eisiau hen ysbryd Y Celt at y gwaith. Os cadwn yr hen iaith, Y delyn a'r gan, Daw byd oil yn debyg I Gymru fach lan. Y mae croesaw iti ddyfod, 'Rym yn erfyn dy gyfarfod Cyn bod son am delyn Cymru Abertawe oedd yn canu. ANERCHIADAU Y BEIRDD. Mae'r dre'n ei le yn lwys, A Gomer yntau'n gymwys; Y dref ddaw i gyd am dro I'r wyl, aed y byd lle'r elo. Y mae'r wyl yng Nghymru wen Yn fyw gan nwyf ei hawen. Rhaid diolch i Abertawe Yn un llais, yn awr, am ein lie; Rhoed Duw i Abertawe Anwyla' ddawn ei law dde'.—" Tawe." Aed y gwlaw o Abertawe ar daith, I Gaerdydd neu rywle Nid yw'n glod Eisteddfode, Ag aed y gwynt gydag e'.—" Cynog." Cadw'i deddf wna'r Eisteddfod-a gwersi Ei Gorsedd heb gryndod Nid oes wlaw na baw yn bod I'w bwrw ar ddisberod.—" Merthyrfab." Gwelwch y diwrnod goleu-a miloedd, N'ymweled a'r Glamne, A'r tywydd'n Abertawe, Waetha'i lun a ddaeth i'w le.-Il Llew Tegid."