Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. AIL-AGORIAD.—Dydd Sul, y fory, ail agorir Eglwys St. Mair, Camberwell, ar ol y glan- hau a'r adgyweirio diweddar. Pregethir yn ystod y dydd gan y Parch. T. D. James, Llanerfyl. EISTEDDFODA.-Bwriada Cymry Llundain baratoi yn rhagorol erbyn Eisteddfod fawr 1909. Mae amryw o fan eisteddfodau wedi eu trefnu eisoes gogyfer a'r gauaf dyfodol. Rhydd cyfeillion Dewi Sant wobr o drigain punt am y prif ddarnau. Rhagorol yn wir. YN Y WLAD.—0 lannau mor Sir Aberteifi a "Chaernarfon daw'r hanes am lu mawr o ym- "welwyr o'r ddinas. Ar ol bod yn cydgynull i Eisteddfod Abertawe mae'r dinasyddion wedi gwasgaru i bob cyfeiriad am y gweddill o'r gwyliau. GWYR LLANDRINDOD. Arweinydd plaid Xilandrindod yng nghyfarfod yr Orsedd yn Abertawe oedd Mr. Edward Jenkins, Gwalia, a gwnaeth araith benigamp hefyd ar ran y cais a wnaed o'r dref honno. Un o wyr Llundain yw Mr. Jenkins, fel y gwyr pawb, a phriodol y dywedai Mr. D. R. Hughes, yn ei araith mai Llundain oedd yn cyfienwi Llan- drindod, a hotel-keepers." CEISIO'R EISTEDDFOD.—Ym mysg y dinas- lyddion oeddent yn bresennol yn Abertawe yn gwneud cais am Eisteddfod 1909, gwel- wyd Mr. J. Pritchard Jones, Mr. J. J. Wil- liams, Parch. G. Hartwell Jones, M.A., Mr. W. E. Davies, Mr. P. W. Williams, Dr. D. L. Thomas, Dr. D. J. Thomas, Mr. T. J. Evans, Mr. D. R. Hughes, Mr. T. W. Glyn Evans, Mr. Leason Thomas, Mr. Ben Harries, a'r iParchn. Machreth Rees, a J. E. Davies, M.A. TROI ADREF.—Gyda diwedd mis Awst y mae son am ddychweliad i Lundain gan y dinasyddion sydd ar wasgar. Yr wythnos hon tyrrai yr ieuenctyd yn ol yn lluoedd gan fod y gwyliau yn dirwyn i ben. GWYL GYMREIG.-Nid gwaith hawdd fydd gan Llundain i droi'r Eisteddfod yn fwy Cymreig nag ei gwelwyd eleni yn Abertawe. Saesneg oedd yn y cyngherddau bron i gyd, ond y syndod oedd mai'r caneuon Cymreig a roddid fel ail-alwadau oedd y pethau a gawsent dderbyniad cynnes. Yn Llundain fe geir digon o ganu Saesneg drwy'r flwydd- yn, ac felly bydd yn rhaid defnyddio'r Gymraeg er mwyn sicrhau newydd-deb ac atyniad arall.

MARWOLAETH CYMRO ANGHYFFREDIN.

YR EISTEDDFOD.

A BYD Y GAN.