Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

GANWYD plentyn ar gopa'r Wyddfa y Sul cyn y diweddaf. Dyma gyfle rhagorol i roi enw lleol ar y bychan. Ni raid iddo fod na bardd na lienor, na phasio arholiad yr Orsedd, i gael ffug-enw. BETH yw'r rheswm fod y Cymry llwydd- iannus sy'n troi i fod yn Saeson ar ol gwneud pres, yn myned yn fethiantau truenus yn y cylchoedd Seisnig. Gwyddom am lawer yn ystod y 25 mlynedd diweddaf hyn wedi ein gadael am frasder byd y Sais, eto pan ddaw rhyw safle gyhoeddus i'w rhan, hwy yw y rhai cyntaf i geisio am nawddogaeth y cylchoedd Cymreig wedi'r cwbl. DAETH catrawd hardd o Lydawiaid i'r Eisteddfod eleni, a chawsant groeso cynnes yn yr Orsedd. Cawsant eu Iletya yn y Royal Hotel, Abertawe, a gwasanaethai Mr. Kelt Edwards a Mr. Mathews, o Abergwaun, fel cyfieithwyr iddynt. 'Roedd rhai o honynt yn abl i siarad y Gymraeg a'r mwyafrif yn ei darllen a'i deall. MAE Machreth yn gadarn dros ddiwygio yr Orscdd, ond mae Cadfan ac ereill am ei chadw yn ei gwerindeb cyntefig. Beth ddaw o'r rheolau newydd mae'n anhawdd dyweyd, ond mae'n eglur fod beirdd y dyfodol yn edrych yn lied gilwgus ar y rheolau caethion geisir osod arnynt.

Advertising

EISTEDDFOD 1909.

A BYD Y GAN.