Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
"YR HEN ORONWY"-GAIR 0 ATEB.
"YR HEN ORONWY"- GAIR 0 ATEB. Digwyddwn fod yng ngwlad Mon— —dirion dir Hyfrydwch pob rhyw frodir." pan ddaeth copi o'r CELT am Awst lOfed i'm meddiant. Naturiol iawn, i wr newydd ddychwelyd o bererindod i'r man lie ganwyd Goronwy Ddu o Fon, ydoedd darllen, yn gyntaf peth, yr ysgrif ymddangosai yn y rhifyn o dan y penawd, Yr Hen Oronwy." Ond waeth gennyf gyfaddef ar unwaith mai teimlad o siom-os nad o rywbeth gerwinach —a'm meddianodd wrth ddarllen yr erthygl. Methwn yn deg a deall beth oedd amcan a phwrpas ei hysgrifennydd. Mae'n ddrwg gennyf os wyf yn camsynied awdwr yr ysgrif, ond wedi ei darllen a'i hail ddarllen yn ofalus, yr unig ergyd a welaf ynddi yw ymgais i lunio esgusawd tros benaethiaid yr Eglwys am eu gwaith yn gwrthod byw- ioliaeth i'r bardd yng Nghymru; a hynny ar draul pardduo coffadwriaeth a bychanu dynoliaeth Goronwy Owen. Gwir fod yr awdwr yn datgan mai Goronwy yw bardd mwyaf y genedl o amser Dafydd ap Gwilym," ac ei fod yn un o feibion mwyaf athrylith- gar y genedl," ond nid yw y brawddegau amgen tipyn o siwgr i guddio y bilsen. Baich yr ysgrif yw profi nad oedd Goronwy yn deilwng o wenau a ffafr esgobion ei oes. Trodd (sef Goronwy) yn dra hoff o'r ddiod-fel yr oedd offeiriaid a beirdd yr oes honno-ac mae'n eglur mai hynny oedd prif achos ei wrthodiad gan yr awdurdodau Eglwysig." Nid oes gennyf unrhyw wrth- wynebiad i'r gwir-hyd yn oed wrth fantoli" buchedd beirdd-ond gadawer ini gael yr holl wir, a dim ond y gwir. Gwyddom yn birion mai gwendid y bardd- truan oedd ei duedd i ymhel a'r diodydcb meddwol, ond nid yw caniatau hynny ynl ddigon o reswm i awdwr yr ysgrif ei alw yn ddyn gwael ei fuchedd yn gaeth i'w flys, wedi colli ei barch a'i gymeriad, a'i, enaid wedi suro ac mae honiad fel y can- lynol-" Nid ei ddawn, na'i athrylith, na'i ysbryd Cymreig fu'n rhwystr iddo yn ddiau, eithr ei gymeriad gwael a'i ddynoliaeth. bwdr "—i'n tyb ni, nid yn unig yn anhawdd ei brofi, ond yn gam a'r gwirion. Pawb a'i cenfydd, o bydd bai, A bawddyn er na byddai." Ei fod wedi ei eni a brawf nad yw heb ei fai," ond mae gennyf i ddysgu eto nad oedd' Goronwy Owen yn ddyn gonest, yn talu ei ffordd, yn ddiweir, yn eirwir, yn barod eii gymwynas, yn dilyn lletygarwch, yn ddi- dwyll ei feddwl, yn gyfaill cywir, yn dad caredig i'w blant, ac yn wr anwyl i'w Elin y wraig rywiog oleu." Diau fod iddo ei ffaeleddau-pa ddyn sydd, neu a fu, hebddynt ?—ond methaf a gweled sail teg i'r ansoddeiriau cryfion, ie, bryntion, ddefnyddir gan awdwr yr ysgrif o- dan sylw. Gyda golwg ar y pechod oedd yn barod i'w amgylchu, dyma dystiolaeth un o ddis- gyblion Dafydd Ddu o Eryri, wedi ei ddi- fynnu o ragymadrodd argraffiad 1860 o weith- iau y bardd Os gwyrodd Goronwy i yfed i anghofio ei dylodi, ac na feddylio am ei flin fyd mwy, fel y gorchymyna Salmon nid oedd hynny ond peth naturiol i ddyn yn y fath amgylchiadau ag oedd ef. A diau i gannoedd mewn digalondid teuluaidd a masnachol syrthio yn ormodol gan fydol brofedigaethau i'r cyflwr hwnnw. Pe cawsai, Goronwy dderchafiad teilwng o'i dalentau yn nechreu ei oes offeiriadol, un i ddeg na chlywsid un gair trwm am dano ar yr achos. y cyhuddir ef gan L. M." A dyma ychydig linellau o ragymadrodd argraffiad Isaac Ffoulkes, 1896 :— Llawer cais a wnaeth am fywioliaeth ym Mon, neu ryw ran arall yn niffyg Mon; llawer ochenaid drom esgynodd o'i fynwesr a deigryn hallt ddisgynodd o'i lygaid, am gael sangu yr 'ardd wen.' Ond bu pob. ochenaid, a degryn, a chan, a chowydd o'i eiddo yn gwbl ofer. Nid oedd y Bardd Du yn ddigon da,' ebai rhai, 'arno ef oedd y bai,' meddynt. Hach ac i ni gredu y gwaethaf am Oronwy, a'r goreu am ei gydoeswyr offeir- iadol, yr oedd haner pwlpudau Eglwys- Loegr yn Nghymru yn cael eu llenwi gan ddynion annrhaethol waeth nag ef." Na yn sicr ddigon, nid unryw ddiffyg yn' ei fuchedd oedd yn gwneud Goronwy yn "Anathema Maranatha i esgobion ei oes.. nac yn rheswm tros wrthod ei benodi i blwyf Cymreig. Ymddengys fod awdwr yr ysgrif wedi lloffa yn helaeth o Lythyrau y Morrisiaid am ddifyniadau i ategu ei heresi. Tybiaf nad gorchwyl anhawdd iawn fyddai dod o hyd i'r hyn sydd yn fwy tebyg 0 fod yn wirionedd ynglyn a'r mater yma o'r un ffynonellau, ond amser (a gofod, ysywaeth !) a balla heddyw. Terfynaf trwy adgoffa i'r brawd-" Os yw gweniaith weithiau yn eneinio llwch y meirw ac yn perarogli coffadwriaeth yr ym- adawedig, nid yw hynny yn un rheswm paham y dylai enllib roi ei throed i lawr tu1 fewn i ragfuriau cysegredig y bedd. De mortuis nil nisi bonum." Nid yw a fyno glod bid farw," ond truth- garwch gwlad ond dim am y meirw amgen da, yw llais dynoliaeth, can gystled ago arwyddair cariad Cristionogol." E.S.R.
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.
Maen Llog, lie y cyhoeddodd yng ngwyneb haul llygad goleuni" fod gwyl Abertawe i'w hagor yn ol y ddefod arferol. Yn yr orsedd hon caed anerchiadau gan Syr Marchant Williams, Cadfan, a Pedrog. Canwyd penillion gan Eos Dar, a bu llu o'r beirdd yn traddodi eu hanerchiadau, ac yn eu plith Taldir o Lydaw, yr hwn a gyfan- soddodd ei draethiad yn Llydawaeg. Dech- reuwyd gwaith yr Eisteddfod yn dra phryd- lon, a buwyd yn cloriannu y beirdd a'r llenorion yn dra phrysur am y gweddill o'r dydd. Llywyddid y gwaith y bore hwn gan Faer y dref, yr hwn, mewn araith Gymraeg, rodd- odd groesaw cynnes i'r wyl i Abertawe. Arweinid gan Llew Tegid, a gwyr pawb am dano ef y gall wneud ei waith yn benigamp. Syniad hapus oedd cael cor o blant i ganu alawon Cymreig i agor yr wyl, ac yn sicr dylid dilyn arferiad Abertawe yn hyn o beth. Dywedai Pedrog yn briodol fod hyn yn rhoddi yr ysbryd Eisteddfodol yn gynnar yng nghalonau y plant, ac ar ol dechreu fel hyn byddai iddynt lynnu at yr hen wyl am y gweddill o'u hoes. Y prif enillwyr ar y dydd hwn oeddent: Pedwarawd, parti Mr. Chubb, o Bonty- pridd. Unawd berdoneg, Mr. John Nicholas, Port Talbot. Canu penillion, rhanwyd rhwng Mr. Richard Morgan, Brynamman, a Mr. J. Devonald, Merthyr Vale. Unawd baritone, Mr. Josiah Thomas, Abertawe. Corau merched allan o chwech, rhoddwyd y wobr i gor Pontypridd. Ail gystadleuaeth gorawl: allan o 11 o gorau, rhoddwyd y wobr i gor Pembroke Dock. Geography of Wales, goreu Mr. C. J. Evans, Caerdydd. Cymry Shakespeare, dyfarnwyd hanner y wobr gan Ernest Rhys i un o'r enw Ariel." Unawd ar y crwth, Miss Lizzie Fieldman, Abertillery. Yn y cyngherdd hwyrol canwyd gan Miss Sara Gwen Davies, Miss Teify Davies, Miss Evangeline Florence, Mr. Charles Tree, Mr. Emlyn Davies, Mr. Gwilym Richards, ac ereill, a chaed detholiad rhagorol o ganeuon Seisnig, Eidalaidd, a Ffrancaeg, a rhyw un neu ddwy yn Gymraeg ar ol cael ail alwadau. DYDD MERCHER. Wedi cael tywydd rhagorol i agor dydd cyntaf yr wyl yr oedd gobaith y gwnai'r elfenau fod yn dirion am y gweddill o'r dyddiau. Pan dorrodd gwawr boreu Mercher nis gellid dymuno gwell arwyddion, a phar- haodd yr heulwen i lonni'r torfeydd hyd yr hwyr. Dyma ddydd y corau mawr, a disgwylid torfeydd enfawr i'r dref am y diwrnod, ac yn hyn ni siomwyd neb chwaith. Ni welwyd eto y fath gynulliad mewn Gwyl Gymreig. Yn gynnar yn y prydnawn bu raid cau y pyrth, nid yn unig yr oedd y babell yn llawn ond yr oedd miloedd o'r tuallan ar y cae yn methu cael lie. Llenwid yr heolydd gan bobl anfoddog, pobl wedi dod o bellder daear, amryw o honynt, ac eto wele ni chaw- sent le i fwynhau yr Hen Eisteddfod. Mynnai rhai awdurdodau fod y babell yn ddigon mawr i gynnwys pymtheng mil, ond yr oedd honno yn llawn yn gynnar yn y dydd, a gwelid tua deng mil arall yn mwynhau eu hunain o'r tu allan. Yn ol ein profiad o'r Eisteddfod am yr ugain mlynedd diweddaf yr oedd hwn yn un o "record days yr wyl. Beth bynnag am swm y derbyn- iadau, yr oedd o ran nifer, y dyrfa fwyaf a fu erioed ar gae yr Eisteddfod. Y peth cyntaf y boreu hwn oedd cadw cwrdd tan nawdd Cymdeithas y Cymmro- dorion, i gadarnhau y bwriad a wnaed llynedd yng Nghaernarfon i ffurfio Cym- deithas Lyfryddol Gymreig. Ar hyn o bryd, mae hanes a rhestr o hen lyfrau Cymraeg mewn cyflwr tra aniben. 'Does ond dau neu dri a wyddant rhyw lawer am y llyfrau prinnaf, a chan fod llawer o drysorau hyd yma heb eu darganfod, teimlid mai priodol fai trefnu rhyw gynllun er myned at y gwaith o chwilio i hanes pob cyfrol sydd erioed wedi ymddangos o'r Wasg Gymreig. Darllenwyd papur hynod o ddyddorol ar y pwnc llyfryddol gan Mr. J. H. Davies, M.A., Cwrtmawr, a siaradwyd yno gan Syr John Williams, yr hwn a lywyddodd Syr March- ant Williams, Parch. T. Shankland, ac ereill. Gosodwyd y Gymdeithas ar linellau priodol, a phenodwyd Mr. Rhys Phillips, llyfrgellydd Abertawe, i fod yn ysgrifennydd. Yn adran y cystadleuaethau, caed nifer o ddyfarniadau ar y celfau a phethau ereill, a bu i amryw o ddarnau llenyddol gael eu penderfynu y dydd hwn. Er hynny, dydd y corau mawr ydoedd, ac ni roddid fawr o sylw i ddim arall ar ol hanner dydd. DAMWAIN ALAETHUS. Ond ar gychwyn y gystadleuaeth hon bu digwyddiad anffodus yn y babell. Yr oedd y cor cyntaf yn myned trwy eu gorchwyl, pan ddaeth gwaedd o'r seddau ol fod y lie yn syrthio. Torrwyd y seddau i lawr, a rhuthrodd y dorf ymlaendros beny rhaniadau, a chafodd llu mawr eu niweidio. Yr oedd rhan 61 y babell wedi ei godi yn fath o esgynlawr, ond profodd yn llawer rhy wan i ddal y dorf oedd arno, hyrddiwyd lluoedd i'r llawr. Yn ffodus, nid oedd y cwymp ond ychydig droedfeddi, er hynny, derbyniodd llawer o'r rhai oedd yno niwed peryglus. Feallai y ceisia awdurdodau yr Eisteddfod gyfiawnhau eu hunain o'r cyfrif- oldeb, ond yn sicr nis gallai neb a welodd yr adeilad ddyweyd ei fod yn ddigon cadarn i gynnal y fath bwysau a fwriadai ddal. Pan y mae ychydig bach o anesmwythder, a thorf mor fawr yn cydsymud, y mae'n rhaid wrth adeiladwaith cryf i ddal yn ddianaf. Bu'r anhap hyn yn rhwystr mawr i'r corau, a thorrodd ar fwynhad y gweddill o'r dydd. Parhaodd y corau er hynny i ganu yn ffyddlon hyd yn hwyr, a chymerai pawb ddyddordeb cyffredinol yn y canlyniadau.