Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

GWYL Y GENEDL.

[No title]

SYR DAVID EVANS WEDI MARW.

News
Cite
Share

SYR DAVID EVANS WEDI MARW. Wele un arall o Gymry enwog Llundain wedi ei dorri i lawr pan yn anterth ei ddydd- iau. Yr oedd yr henadur David Evans- neu Syr David Evans, fel yr adnabyddid ef yn gyffredin gennym wedi dringo i safle anrhydeddus ym mywyd cyhoeddus y ddinas, ac yn cael ei ystyried fel un o wyr blaenaf y cylchoedd masnachol. Ond pan yng nghanol ei ddefnyddioldeb, a phan oeddem megys yn dechreu disgwyl o ffrwyth ei brofiad a'i wybodaeth helaeth, wele ef yn cael ei alw adref, a Chymru yn colli un o'i meibion mwyaf dylanwadol ym mywyd masnachol y lie. Dydd Mercher, Awst 14eg, bu farw ar ol ychydig ddyddiau o gystudd o enyniant yr ysgyfaint. Tarawyd ef yn wael y Sul blaen- orol, a phan ddaeth ei feddygon ato y Llun, gwelwyd ar unwaith ei fod mewn perygl mawr, a chan fod y mynd" parhaus wedi dylanwadu ar ei nerth yn y blynydd- oedd diweddaf yma, nis gallai ddal y clefyd, a bu farw yn sydyn nos Fercher yn ei gar- tref, Ewell Grove, Ewell, Surrey. Brodor o ardal Llantrisant, Morganwg, oedd Syr David Evans, a ganwyd ef yno yn Glanwyclwyd yn 1849. Adnabyddid ei dylwyth fel darllawyr pwysig, a gwnai ei dad fasnach helaeth yn y lie. Aeth y mab ymaith yn gynnar yn ei fywyd gan baratoi i fyned i fasnach gyda'i berthynas, Mr. Richard Evans, yn Llundain. Pan yn 2 lain oed gwnaed ef yn bartner yn y ffirm honno, ac efe oedd y pennaeth ers blynyddau. Yr oedd yn cymeryd cryn ddyddordeb mewn materion dinesig o'r cychwyn, ac etholwyd ef yn aelod o'r Gor- phoraeth dros ranbarth Cordwainer yn 1874, a gwnaed ef yn henadur dros ranbarth Castle Baynard ymhen tua deng mlynedd wedyn. Dringodd i fod yn Sirydd yn 1885, a chyrhaeddodd anrhydedd pennaf y ddinas, sef y safle o Arglwydd Faer, yn 1891-2. Dyn o ysbryd tawel a boneddigaidd oedd Syr David. Bu'n ffodus i gael cyfran mewn masnachdy hynod o lwyddianus, ac oher- wydd ei gyfoeth a'i ddylanwad, yn fwy nag am ei alluoedd meddyliol, y daeth i fri a. pharch. Pan wnaed ef yn Arglwydd Faer manteisiodd ar y cyfle i brofi mai Cymro ydoedd, ac fel yr Arglwydd Faer Cymreig y daeth i sylw'r cyhoedd yn bennaf yn y cyfnod hwnnw. Ni chollodd yr un cyfleustra i ddangos mor falch ydoedd ei fod yn un o feibion yr Hen Wlad. Bu'n gwahodd Cymry o bob gradd i ddod i'w breswylfod yn y Mansion House, a chroesawodd hwy yn anrhydeddus ar bob amgylchiad. Cafodd. yntau ei wahodd i rai o wleddoedd Cymru, a thalwyd parch iddo gan nifer o drefi y Deheudir drwy ei groesawu i'w prif gynull- iadau. O'r adeg honno ymlaen, yr oedd yn cadw ei gysylltiad a Chymru, ac un o'r pethau olaf wnaed ganddo oedd dod yn un o warantwyr yr Eisteddfod i Lundain am 1909. Ceidwadwr ydoedd, yn naturiol, yn ei ddaliadau gwleidyddol, ac nid rhyfedd hynny pan ystyriom mai magwrfa Ceidwad- aeth yw cylchoedd Llywodraethol y ddinas. Yn ardal ei breswylfod yn Ewell, edrychid arno fel un o wyr mawr y cylch, a deuai lluoedd i'w balas hardd yn achlysurol i dderbyn o'i foethau a'i groesaw tywysogaidd. Gedy amryw o blant ar ei ol i alaru eu colled. Bu ei wraig farw tua phedair blynedd yn ol yn gydmarol ieuanc fel efe.

[No title]