Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

NODION LLENYDDOL.

CYNNYDD Y CAPELAU.

News
Cite
Share

CYNNYDD Y CAPELAU. A YW YN GYNNYDD CREFYDDOL ? Mae'n debyg nad oes dim mor amlwg yn hanes bywyd Cymry Llundain yn ystod y deng mlynedd diweddaf na'r ffaith fod crefydd yn graddol golli ei gafael a'i dylan- wad ar ein hieuenctyd. Gellir canfod hyn mewn ami ffyrdd. Nid yw'r oedfaon a'r cyfarfodydd mor lliosog ag y disgwylid iddynt fod. Er fod nifer y Cymry yn ein plith yn cynyddu, lleihau mae'r cynulliadau crefyddol ar fore Sul yn yr ysgol, ac ar nosweithiau yr wythnos. Nid yw atyniad y "cyfarfod pregethu blynyddol y peth a fu. Ceir fod ymysg yr enwadau Cymreig bymtheg-ar-hugain o leoedd i addoli-y Methodistiaid, 17; yr Anibynwyr, 7 Eglwys Loegr, 5; y Bedyddwyr, 3 a'r Wesleaid, 3. Ddeng mlynedd yn ol nid oedd gennym ond rhyw ugain. Gwna hyn gynnydd o tua phymtheg o addoldai yn yr amser a nodir. Dengys nifer yr aelodau a'r gwrandawyr yn ein mysg am yr un cyfnod gynnydd sylweddol oherwydd y cyfleusterau rhagorol sydd i fynychu y gwahanol addoldai hyn. Nid wrth nifer yr aelodau a'r gwrandawyr ar bapur, nac ar eu presenoldeb ymddangos- iadol yn y capel neu'r eglwys, mae mesur dylanwad crefydd ar eu calonnau. Ond wrth eu hymddygiad a'u bywyd cyffredin ddydd ar ol dydd. Er fod cynnydd amlwg yn ein capelau, eto, erys yn ffaith yn ein hanes, fod y capel, yn lie bod yn gysegr i addoli ynddo, yn gyrchfan i'r ieuenctyd gydgyfarfod ar nos Sul a threulio awr neu ddwy yng nghymdeithas eu gilydd ar ol yr oedfa. Bu amser pan oedd dylanwad y capel yn ddigon cryf i wrthweithio a lladd pobpeth dueddai i fod yn sarhad ar y genedl; ond heddyw wele'r gwaradwydd yn Hyde Park ar nos Sul yn aros, ac emynau Ann Griffiths yn cael eu canu yng nghanol crechwen a gloddest rhai o'r cymeriadau mwyaf pwdr y gellir eu cyfarfod yn unman. Diau y gellir priodoli hyn oil i duedd faterol yr oes. Gall rhywrai haeru mai canlyniad naturiol byw ymysg Saeson difater yw. Beth bynnag am hynny credwn fod un rheswm i'w ganfod yn nes adref. Y mae arweinwyr crefydd-neu yn hytrach y rhai ddylasent fod yn arweinwyr-yn ein plith, eu hunain yn ddifraw a difater. Anaml y gwelir hwy yn cymeryd rhan flaenllaw mewn unrhyw fudiad gwir Gymreig, ac ar wahan i'w cylch bach eu hunain y maent yn ddi- son-am-danynt. Gresyn na chawsem i Lundain ryw un neu ddau o arweinwyr crefyddol a'u calon yn llosgi dros ail ennyn fflam cenedlaetholdeb yn ein plith; gan y credwn nad oes un ffordd well i'w chyn- yrchu na thrwy ddylanwad efengyl y dyn Crist Iesu. Pe cawsem i'n plith ddynion a Christnogaeth wedi suddo yn ddwfn i'w calonnau a'u serchiadau, yna caem Gymry twyni-galon yn caru eu Hiaith, eu Gwlad, a'u Cenedl.

YN OL O'R AMERIG.