Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

EISTEDDFOD 1909.

MR. RIDER HAGGARD A'R IAITH…

News
Cite
Share

MR. RIDER HAGGARD A'R IAITH GYMRAEG. Y dydd o'r blaen yr oedd Mr. Rider Haggard, y nofelydd, yng Nghaernarfon fel un •o'r Dirprwywyr sydd ar ymweliad a glannau y moroedd er gweled y difrod a wneir gan y mor. Aeth, medd yr Herald, gyda Dr. Jehu, un arall o'r Dirprwywyr, i fasnachdy Ileol, a synnodd glywed y diweddaf yn siarad Cym- raeg gyda'r masnachydd. Yn ddiweddarach gofynodd i Mr. D. R. Daniel, ysgrifennydd cynorthwyol y Ddir- prwyaeth, a oedd yr iaith Gymraeg yn cael el siarad yn gyffredinol yn y rhan honno o'r wlad. Atebodd Mr. Daniel pe yr elai ar hyd heolydd y dref, neu pe safai ar y Maes, na chai glywed bron dim ond Cymraeg; y buasai yn cyfarfod pobl y tuallan i'r dref nas gallent siarad yr un iaith arall; ac y byddai Mr. Lloyd-George, yr aelod dros y bwrdeis- drefi, pan yn annerch cyfarfodydd, yn siarad Cymraeg bob amser. Dywedodd Mr. Rider Haggard fod yn dda ganddo ddeall fod yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad mor gyffredinol, oherwydd nid oedd yn hoffii gweled hen ieithoedd yn marw. Yr oedd yr aelodau Seneddol Cymreig yn gyson a hwy eu hunain pan yn gofyn am i'r iaith Gymraeg gael ei chydnabod, oherwydd yr oeddent yn siarad Cymraeg eu hunain. Nid oeddynt fel rhai aelodau Gwyddelig, y rhai ar ol gwneud cais cyffelyb yn Nhy y Cyffredin o blaid y Wyddelaeg, a addefent nas gallent ddeall gair o'r iaith honno. Awgrymwyd i Mr. Rider Haggard mai da fuasai iddo, ar ol iddo fod ar ymweliad a Chymru, ysgrifennu nofel Gymreig, ond dywedai y buasai yn well ganddo adael gwaith o'r fath i ysgrifennydd brodorol. Credai fod un o'i nofelau wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg. Ysgrifennodd rhywun ato i ofyn am ganiatad i gyfieithu y llyfr, a rhodd- odd ef, ond nis gallai ddyweyd ym mha bapur yr ymddangosodd yr ystori. A

BYD Y GAN.

Heulwen a Chysgod.