Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

EISTEDDFOD 1909.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD 1909. Yr wythnos nesaf byddis yn penderfynu ym mha le y cynhelir yr Eisteddfod yn 1909. Deallwn fod ceisiadau wedi dod i fewn i bwyllgor yr Orsedd ar ran pedwar o leoedd, set Llandrindod, Caerfyrddin, Aberystwyth a Llundain. Mae cais Llandrindod wedi ei wneud yn Gymraeg a Saesneg, a'r prif reswm a roddir .dros ei chynnal yno yw'r ffaith mai Llan- drindod yw'r man mwyaf canolog a hawddaf ei gyrhaedd o bob parth o Gymru. Profir hyn gan dabl yn rhoddi'r pellder, a'r amser a gymer i deithio, o'r gwahanol drefydd. Bwriedir cynnal yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos gyntaf o Orphennaf. Gesyd Caerfyrddin ei deiseb hithau yn Saesneg a Chymraeg, a seilia ei chais ar yr hen fost mai hi oedd cartrefle'r Eisteddfod yn y dyddiau gynt-cyfeiriad, mae'n debyg, at Eisteddfod 1451, neu adeg gynnarach yn hanes yr hen sefydliad. Cefnogir y ddeiseb gan Faer y dref a llu o wyr enwog ereill y ,cylch. Cymraeg yn unig ddefnyddia Aberystwyth i osod ei chais ger bron yr Orsedd. Gwyr hi ddigon am y Pwyllgor, mae'n ddiau, i gredu fod yr aelodau yn deall Cymraeg. Yn 1865 y caed Eisteddfod Genedlaethol yma ddiweddaf, a dywed y cais presennol fod to arall o bobl wedi codi erbyn hyn, ac fod .eisieu gweled yr Wyl yno arnynt. Ynglyn a'r ddeiseb rhoddir rhestr faith o enwau y rhai ydynt yn barod i gefnogi'r Wyl os caiff Aberystwyth yr anrhydedd o'i chynnal. Yng Nghymraeg hefyd y rhydd Cymry'r brif-ddiiias eu cais hwythau dros ei gwahodd i Lundain yn 1909, ac yn gwneud hynny am y ffaith fod Cymry Llundain yn Eisteddfod- wyr aiddgar, ac yn parhau yn bur i'w Owlad, ei Hiaith, a'i Llenyddiaeth. Addaw- .ant, hefyd, eu bod yn ymrwymo y gwneir pob ymdrech i sicrhau fod yr Eisteddfod yn .drwyadl Gymreig. A chwareu teg iddynt fe wnaed hynny ar adeg Gwyl 1887 hefyd. Ond yr hyn y mae deiseb Llundain yn rhagori arno ar y ceisiadau ereill yw'r .gefnogaeth bybyr y mae'r cais wedi ei gael ,gan brif arweinwyr y genedl. Arwyddir y cais hwn gan Arglwyddi Tredegar, Aberdar, Glantawe; y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd- George, wyth o aelodau Seneddol Cymreig, yr oil o'r gweinidogion Cymreig yn Llundain, ynghyd a chynrychiolwyr Undeb y Cym- deithasau Llenyddol, a thorf fawr o'r Cymry mwyaf blaenllaw ar hyd a lied y ddinas. Mae pymtheg cant o bunnau eisoes wedi eu eicrhau fel trysorfa warantedig, a chan fod tua phedwar-ugain mil o Gymry yn byw yn Llundain, dylai'r Wyl fod yn un Iwyddianus dros ben. Beth bynnag fydd dyfarniad yr Orsedd yr wythnos nesaf, nis gall un amheuaeth fod nad yw cais Llundain dros gael yr Eistedd- fod yn un o'r rhai mwyaf dylanwadol sydd erioed wedi ei osod o flaen Pwyllgor Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.

MR. RIDER HAGGARD A'R IAITH…

BYD Y GAN.

Heulwen a Chysgod.