Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Y CYNHAUAF DIFFRWYTH

[No title]

ANRHYDEDD I AELOD MON

Cawl Cenin.

News
Cite
Share

Cawl Cenin. Cyhoeddir yn awr fod Mesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yng Nghymru yn cael ei baratoi gan y Llywodraeth erbyn y Tymor nesaf. Sonia Ymneillduwyr Cymru am ffurfio pwyllgor canolog i wylied gweithrediadau y Senedd bresennol. Rhoddir seiliau y pwyllgor i lawr yn Llandrindod, a diau y derfydd yno fel pob mudiad arall o'r un lie. Pa un ai yn y Gogledd ynte yn y De y mae Llandrindod ? Dyna bwnc ddylasid ei benodi cyn adpg yr Eisteddfod yn Abertawe. Y mae gwyr Llandrindod i wneud cais yn honno am yr Eisteddfod yn 1909, ond gwnaethant gais cyffelyb yng Nghaernarfon y llynedd am Wyl 1908. Gan mai yn y De a'r Gogledd y cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol bob yn ail, ac fod Llandrindod yn hawlio yr Wyl fel tref Ogleddol y llynedd, bydd yn syn clywed ei bod am fod yn y Deheudir pan yn gwneud yr un cais y flwyddyn hon. Bu'r "Cadfridog" Booth ar daith trwy Gymru yr wythnos ddiweddaf mewn car modur yn pregethu efengyl syml y Gwr o Nazareth. Fe gafodd yr lesu ei hunan groesaw gogoneddus gan y dorf pan y marchogai ar ebol asyn i ddinas Jerusalem, ond nid oedd y croesaw hwnnw yn ddim o'i gydmaru a'r brwdfrydedd a gaed yn rhai o'r trefi Cymreig pan yr oedd car modur y Cadfridog yn gwneud ei ymddangosiad yn y lie. Er gwaethaf yr ymddangosiad allanol, ac er cymaint y brwdfrydedd, rhaid oedd i'r Cadfridog addef mai ychydig oedd nifer y dychweledigion a gaed yng Nghymru y tro hwn. 'Dyw cadgyrch Byddin yr Iach- awdwriaeth hyd yma ddim wedi gwreiddio yn ddwfn yn syniad y Cymro, a'r rheswm am hynny yn ddiau yw fod yr hoR gyfii-n drefn yn gwrthweithio yn erbyn y cydraddoldeb cyffredinol a'r ysbryd brawdol a nodwedda y Cymro yn ei holl ddaliadau crefyddol. Yn un peth, mae'r ffaith mai efelychiad gwael o fyddin ddaearol yw'r gyfundrefn, yn beth hollol atgas gan y Cymro. Ni fit milwriaeth erioed yn beth hoffus ganddo, a phan y cymerai arfau o gwbl gwnai hynny dros ryddid neu egwyddor bwysig. Mae ef -erioed wedi gwneud rhyfel yn beth rhy gysegredig i fod yn chwareubeth, ac yn show. Hefyd mae y syniad o raddau a swydd- ogion yn tueddu i wneud y cyfan yn beth gwrthun i'w syniad ef, mai plant cydradd- ydym oil o flaen Gorsedd lor. Ond o'r ochr arall mae'r Fyddin yn cydfyned ag anianawd y Sais, a dyna sy'n cyfrif, yn ddiau, i'r ilwyddianfc mawr mae'r mudiad wedi gael yn Lloegr yn ystod y 25 mlynedd diweddaf hyn.

[No title]