Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

NODION EISTEDDFODOL.

News
Cite
Share

NODION EISTEDDFODOL. Dyma dymor yr Eisteddfodau lleol, ac mae pob ardal wledig o nod wedi bod yn cynnal eu "heisteddfod fawr" yn ystod yr wyth- nosau diweddaf hyn a ffurfiant fath o rag- arweiniad priodol i'r Wyl Genedlaethol a gynhelir yr wythnos nesaf yn Abertawe. Mae i'r eisteddfodau lleol a thalaethol hyn eu cenhadaeth arbennig hefyd. Ar wahan i fod yn fath o risiau dyrchafol i'r Wyl Fawr flynyddol, y maent yn hyfforddiant neillduol i ymgeiswyr lleol, ac yn foddion dylanwadol i gadw yr ysbryd Cymreig a'r bywyd eis- teddfodol yn ei lawn fri ymysg gwerin y genedl. Nid ydynt oil, feallai, yn troi yn llwyddiant arianol, ond mae yr aberth a wneir ynglyn a hwy, a'r lies i len a chan a geir drwyddynt, yn werth eu cynhaliad ac yn aros yn golofn parhaol i'r rhai sydd yn eu llywio y naill flwyddyn ar ol y llall. Un o'r cynulliadau mwyaf ar Wyl y Bane diweddaf oedd Eisteddfod Corwen. Caed hin deg i gynnal yr wyl, yr hyn a sicrhaodd gynulliad enfawr. Mae'n eisteddfod gadeir- iol o'r radd flaenaf, a chymaint oedd bri y cystadlu corawl fel y tynnodd un o gorau mawr canolbarth Stafford i ymgeisio ynddi ar y prif ddarn. Beirniadwyd yno gan Dr. Dan Protheroe, o'r America, a Mr. Tom Price, o Ferthyr, ac 'roedd dyddordeb cyffredinol o barthed i'w barn ar y canu a gaed yno. Am y prif ddarn corawl rhoddid gwobr o £50, a daeth corau o'r Cefn Mawr, Tonypandy, a Talke yno-Gogledd, Deheu, a gwlad y Sais yn ymgodymu am y dorch. Gorweddai y gystadleuaeth, meddai Tom Price, cyd- rhwng y ddau gor Cymreig, ac o'r rhai hyn 'doedd yr un amheuaeth nad y Sowth oedd y goreu. Rhoddwyd derbyniad brwdfrydig i arweinydd cor Tonypandy, a bu raid iddo oddef y driniaeth o gael ei gario ar gadair uchel drwy y dref ar derfyn yr eisteddfod. Nodwedd amlwg yr wyl-medd ein goheb- ydd arbennig oedd yn bresennol-oedd yr ysbryd Cymreig a redai drwy yr holl weith- rediadau. Rhoddid ei le priodol i'r iaith yn yr areithiau, a rhan amlwg i ganeuon Cym- reig ynglyn a'r holl gystadlu. Dyma wers deilwng o'i hefelychu gan drefnwyr eistedd- fodau, ac mae'n sicr mai hyn oedd yn gyfrifol am y llwyddiant mawr ynglyn a'r cyfan. Yn yr hwyr caed cyngherdd mawreddog, i'r hwn y tyrai y lluoedd fel ag a wnaent i'r Eisteddfod ei hun. Canwyd yn rhagorol gan Mrs. Eleanor Jones Hudson a Miss Gwladys Roberts, Mri. Harrison a Knowles, ynghyd a Mr. Eli Hudson yn chwareu y chwibanogl fel y gall efe wneud, a rhoddwyd derbyniad cynnes iawn iddynt oil. Da oedd gweled y fath nifer o ganeuon Cymreig yn cael rhan mor amlwg yn yr adran yma eto. 0 Bwllheli ac o Newmarket daw yr un hanes, heb son am Caerfyrddin a lleoedd ereill yn y Deheubarth. Yn Newmarket Elfed oedd yn cloriannu'r beirdd. Testyn y bryddest oedd, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn," ac un o'r enw Gyda'r Llanw" oedd yn oreu. Ni atebodd i'w enw, a thrwy hyn collai yr arian, ond caiff y gadair pan alwo am dani. Rheol dda a wnaed yn Newmarket, sef fod yn rhaid i'r bardd buddugol, neu ei gyn- rychiolydd, fod yn bresennol cyn cael y pres. Mae'r ysbryd herwhela wedi dod tros rai o'n beirdd fel y cant gadeiriau wrth y ddwsin, ond his gwelir hwy ond yn anaml yno i dderbyn yr anrhydedd. Dylai fod yr un mor angenrheidiol i'r gwyr lien fod yn yr wyl ag yw i wyr y gan, onide fe ddylai y pres fyned yn ol i ddwylaw y pwyllgor. Yn Llanbedr-Pont-Stephan y cynhaliwyd gwyl fawr Ceredigion eleni, a gwlad fras am ei heisteddfodau yw gwlad y Cardis bob haf. Daeth cynulliadau mawr ynghyd i'r gwahanol gyfarfodydd, a gwelwyd cannoedd o'r dinasyddion ym mysg y nifer. Beirniaid y canu oeddent Mr. David Evans, Mus.Bac. (gynt o Jewin), a Mr. Madoc Davies, A.R.C.M., a chawsant waith caled drwy y dydd, am fod nifer y cystadleuwyr a'r corau yn lliosog iawn. Ceir adroddiad gan ein gohebydd arbennig mewn colofn arall. Y teimlad cyffredinol oedd fod gormod o ganu Saesneg yn y cyngherdd yn yr hwyr. Mewn gwyl mor Gymreig dylid cadw at feithrin yr hen iaith mor bell ag y bo modd. Mae rhagolygon am gynulliad mawr yn Abertawe. Dechreuir ddydd Mawrth gyda'r ail gystadleuaeth gorawl; dydd Mercher ceir y corau mawr dydd Iau cadeirir y bardd; a dydd Gwener fydd diwrnod y coroni, a cheir seindyrf pres y dydd Sadwrn i chwythu diweddglo yr Wyl. Trefnir llu mawr o gyfarfodydd bychain ynglyn a'r Wyl ar wahanol adegau, a bydd adran y Cym- mrodorion eleni mor atyniadol ag erioed. Sonir llawer am ddiwygio yr Eisteddfod, ac mae amryw lythyrau wedi ymddangos eisoes yn y Wasg yn cyhoeddi fod angen ymdrin a'r pwnc hwn. Fel y gwyddis, bu Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., yn siarad y llynedd am gael safon newydd ynglyn a'r canu, ac mae'r beirdd hefyd am gael diwyg- iad ynglyn a'u hadran hwythau. Ca'r ddau achos eu gwyntyllu yn yr Eisteddfod hon, a sicr y byddant yn destynau y ceir llawer o siarad arnynt. Trefnir i babell Eisteddfod Abertawe, yr hon sydd wedi ei gosod yn Victoria Park, i gynnwys tua 15,000. Dosrennir y seddau i 1,000 o rai coron; 1,000 am 3s. 6d. yr un 1,700 o rai dau swllt, a phum mil o seddau swllt. Bydd i'r llwyfan gynnwys 500, a'r orielau rhyw 650 ychwanegol. Mae'r babell yn un o'r rhai harddaf sydd eto wedi ei chodi, a disgwylir cynulliadau mawr ar y gwahanol ddyddiau i'r lie.

EISTEDDFOD GADEIRIOL CEREDIGION,…

[No title]