Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

AA,"% Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

A A, Am Gymry Llundain. ADLONIANT. Cafodd Cymry'r ddinas ddiwrnod hapus ddydd Llun i fyned allan i'r wlad am ychydig adloniant, a deallwn i'r gwahanol bleserdeithiau fod yn boblogaidd iawn hefyd. LLEOEDD GWAG.-Mae'r teuluoedd Cymreig wedi ffoi o'r ddinas. Am y gweddill o'r mis hwn bydd y cartrefi a'r eglwysi yn lleoedd gwag iawn. I ABERTAWE.—Tua'r Eisteddfod Gened- laethol yn Abertawe bydd tynfa'r miloedd erbyn diwedd y mis hwn. Disgwylir cyn- rychiolaeth gref yno o'r dinasyddion i ddadleu ein hawl am yr Wyl yn 1909. Ceir y manylion eto. TROION CHWERW.- Yng nghanol y lIaw- enydd a'r son am wyliau dedwydd, daw'r hanes am nifer o farwolaethau tra sydyn. Un o'r troion chwerwaf y gallesid meddwi am dano yw'r ddyrnod sydd wedi goddi- weddu Mrs. Roberts, gweddw y diweddar Barch. J. Roberts, o Towyn. Collodd. hi ei bachgen hygar, Tommy Roberts, yr wythnos ddiweddaf, a hynny pan oedd ar ddechreu gyrfa bywyd. TOMMY ROBERTS.—'Roedd Tommy Roberts wedi dod yn adnabyddus i holl gylchoedd crefyddol y ddinas. Yn ystod y Diwygiad diweddaf bu ei lais swynol a'i weddiau taer yn foddion gras i filoedd o wrandawyr. Er nad oedd ond rhyw 14 mlwydd oed, yr oedd wedi ei ddonio a galluoedd tuhwnt i'r cyffredin. Eto i gyd wele ef yn cael ei alw adref i uno yn y cor y canai gymaint am dano. YR ANGLADD.—Yr oedd Tommy Roberts yn efrydydd yn Ysgol Caterham, yn paratoi gogyfer a'r weinidogaeth neu'r maes cen- 10 hadol. Cafodd ei gymeryd yn wael rhyw bythefnos yn ol, ac aeth dan operation boenus yn y London Hospital, ond yr oil yn ofer. Bu farw Gorphennaf 31, a chladdwyd ei weddillion yn Manor Park ddydd Mercher, Awst 6. Gweinyddwyd yn doddedig wrth y bedd gan y Parchn. H. Elfet Lewis a D. R. Thomas, a daeth torf ynghyd i ganu ffarwel iddo ar lan ei feddrod tawel. Derbyniodd Mrs. Roberts lu mawr o lythyrau o gydym- deimlad a hi yn awr ei thrallod, ac y maent yn rhy liosog i'w hateb yn bersonol. Dyma fel y canodd Llewelyn i Tommy bach- Swynai y cain rosyn cu-anwyl hwn Engyl i'w edmygu Oedd ry hardd i'r ddaear dda, Addasach i ardd Iesu." HERBERT EMLYN.—Bydd cyfeillion y cantor poblogaidd hwn yn cydymdeimlo ag ef wrth glywed ei fod newydd golli ei dad. Yr oedd wedi bod yn gystuddiol ers blynyddau lawer ac wedi cyrraedd gwth o oedran. Claddwyd ef yng Nghastell Newydd Emlyn ddydd Sadwrn diweddaf. JEWIN.—Ar ddiwedd y gwasanaeth nos Saboth, canwyd emyn a chareuwyd The Dead March ar yr organ, gan Mr. Walter Hughes, er cof am y diweddar Mr. William Moses, Arlington Street, yr hwn a gafodd ei alw yn sydyn i'w hir gartref boreu Saboth, Gorphennaf 28, yn 65 mlwydd oed, ac a roddwyd i orphwys yng Nghladdfa Abney Park, prydnawn dydd Iau, gan y Parch. J. E. Davies, M.A. Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Risca, Sir Fynwy. Daeth i Lun- dain ddeugain mlynedd yn ol, ac ymaelododd yn Jewin, a bu yn aelod ffyddlawn a gweith- gar, ac yr oedd yn hawdd canfod pa bryd bynnag y cyfarfyddid ag ef bod yr achos yn Jewin yn agos at ei galon. Nawdd y nef fyddo dros ei weddw, yr hon sydd wedi ei gadael yn unig. DEWI SANT, PADDINGTON.-Marwolaeth:- Trist yw gennym gofnodi marwolaeth Mrs. James, gwraig Mr. Griffith James, Elephant and Castle, yr hyn a gymerodd le yn ddi- symwth, boreu dydd Llun, Gorphennaf 29, yn 55 mlwydd oed. Yr oedd Mrs. James wedi bod yn cwyno ers blynyddoedd, ond nid oedd neb yn meddwl fod ei diwedd mor agos. Genedigol ydoedd o Aberystwyth, a merch i'r diweddar Mr. a Mrs. Ellis, Foundry. Claddwyd hi yn Cemetery Aber- ystwyth dydd Gwener, Awst 2. Mae ein cydymdeimlad yn fawr a'r teulu, sef Mr. Griffith James (gwr), Mr. Griffith Ellis James (mab), a Mrs. R. 0. Ellis (merch), y rhai sydd yn aelodau parchus o'r Eglwys uchod. Nawdd y net a'i hamddiffyno yn eu dwfn drallod. FALMOUTH ROAD.-Mai-wolaetli a chladded- igaeth Mrs. C. Lloyd Davies, Upper Kennington Lane.—Gyda hiraeth dwys yr ydym yn cof- nodi marwolaeth y chwaer anwyl uchod. Croesodd i'r anweledig yn blygeiniol iawn ddydd Mercher, Gorphennaf 24. Ni feddyl- iodd neb fod ei hymadawiad o'i chartref yn Llundain ychydig wythnosau yn flaenorol a'r fath hanes prudd i'w ddilyn. Ond, nid fy meddyliau I yw eich meddyliau chwi." Bu farw Mrs. Davies dan gronglwyd ei rhieni yn Cemmaes Road, Trefaldwyn. Merch yd- oedd i Mr. a Mrs. Humphreys, o'r lie hwnnw. Mae ei thad wedi ei blaenu i'r ochr draw ers- rhai blynyddau; ond cafodd ei mam fyw i weld y cyntaf o saith o blant yn cael ei symud gan yr angeu. Y dystiolaeth uwchaÍ ellir roddi i werthfawredd dylanwad bywyd Mr. a Mrs. Humphreys ydyw y meithriniad boreuol roddasant i'w plant. Mae yr oil o'r plant wedi ymsefydlu yn Llundain, ac y maent yn addurn i'w cydgenedl yn y brif- ddinas. Lleinw un o honynt, Mr. Richard Humphreys, swydd blaenor yn eglwys weith- gar Willesden Green, ac y mae un arall, Mr. Ed. Humphreys, ynghyd a mab-yng-nghyf- raith, Mr. John Thomas, yn ddiaconiaid ymroddgar yn eglwys Castle Street. Yr ydym yn nodi y ffeithiau hyn yn unig i ddangos gwerth bywyd syml cartrefi Cymru ar ddyfodol y plant a ddygir i iynny dan ddylanwad rhieni duwiolfrydig. Cylch agosaf cydnabod Mrs. Davies wyddai oreu am ragoroldeb ei chymeriad uwchraddol hi. Wrth natur, yr oedd yn wylaidd iawn ni) fynnai ei gweld os gallai guddio ei hun—er nad yn fynnych y cyfarfyddid ag un a feddai ymddangosiad brydferthed ag ydoedd yr eiddo hi. Yr oedd yn, bersonol hardd, Dygai ei gwynebpryd dystiolaeth i'r ddyn- oliaeth ddofn-lydan orweddai dano. Chafodd gras fawr o drafferth gyda hi: 'roedd pryd- ferthwch yr Arglwydd ei Duw yn amlwg: arni, a'i rhinwedd allan o honi. Teimlem ein hunain yn well, ac yr oedd ein syniad am dani hithau yn uwch bob tro y buom yn ei chymdeithas. Erys ei choffadwriaeth yn ddylanwad dyrchafol yng nghof pawb gafodd y fraint o'i hadDabod.-Daeth torf fawr o gydnabod y teulu galarus i Paddington Cemetery ddydd Mawrth, Gorphennaf 30ain i ddangos eu cydymdeimlad a'r galarwyr, a'u parch dwfn i'r hon a gleddid. Yng nghanol arwyddion o hiraeth, ac mewn sicrwydd di- goll fod ysbryd Mrs. Davies gyda'r Hwn a'i rhoes ef, gosodwyd ei chorff yn nhy ei hir gartref. Gwasanaethwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parchn. S. E. Prytherchr Falmouth Road, a J. Thickens, Willesden Green. Gorphwysed y dywarchen yn ysgafn ar ei bron, ac arhosed ei hanes yn ddylanwad pur yng nghylch ei theulu a'i chydnabod. Llifa ein cydymdeimlad at ei phriod yn er alar mawr, ac at ei rhai bach. Nawdd nef fo yn gysgod dros ein hanwyl frawd a'i deulu. Mae Tad yr amddifad yn fyw. S. E. P. PAWB YN EIN HADWAEN.—Yr wythnos hon' daeth cerdyn yma o ganolbarth yr Almaen, wedi ei gyfeirio-" Y Golygydd, CELT Llun- dain, Llundain, Prydain Fawr." Y cudd- swyddog D. Williams, 0 Scotland Yard, oedd' wedi ei anfon, a daeth yma yn ddiymdroi. Cafodd ein gohebydd, Pedr Alaw, brofiad gwahanol yn Rwssia. Yno credai'r swydd- ogion mai papur anarchaidd ydoedd, ac nis gadawent iddo ei gael heb lawer o dranerth ac eglurhad. Y BLAID SENEDDOL.-Caed cyfarfod o'r aelodau Seneddol nos Fawrth diweddaf i ystyried pa beth ddylai eu hagwedd fod ynglyn a'r Mesur Addysg newydd. Awgrym- wyd na fyddai yr un cynllun, heb adran i greu Swyddfa Addysg Gymreig ynddo, yn dderbyniol gan yr aelodau. Ond a wnant lynnu wrth y fath benderfyniad cymhedrol wys ? Mae'n rhaid dihuno ar hyn o bwnc ar unwaith, oherwydd y gwir am dani yw, nad yw'r adran bresennol ond gwegi noeth, a gall y Weinyddiaeth nesaf ei diddymu gyda'r un rhwyddineb ac y crewyd hi gan y blaid bresennol. CYMRO WEDI BODDL-Mae rhyw ddirgelwch rhyfedd ynglyn a diwedd truenus Mr. John*

YR HEN ORONWY.