Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN.

News
Cite
Share

WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN. Ymadawiad y Parch. Thomas Jones. Gorchwyl anhawdd ym mhob byd yw -diorseddu hen arferion fyddant wedi selio, fel pe tae, gan amser, ac mae hyn yn ffaith amlwg ym myd trefnyddiaeth eglwysig. Un o'r pethau sydd wedi disgyn yn etifeddiaeth. o'r oesau fu i'r bobl a elwir Wesleyaid yw y drefn ryfedd o symud eu gweinidogion bob -tair blynedd. Nid cynt, ysywaeth, nag y daw gweinidog i adnabod aelodau yr eglwysi fyddant tan ei ofal, na daw gorchymyn i godi pabell, ac ymaith ag ef i wynebu ar faes dieithr, ac i ddechreu ar gylch newydd o wasanaeth. Sibrydir fod eisoes gynnwrf yn y gwersyll, ;ac y ceir gweled cyn bo hir gyfnewidiadau mawrion yn hyn o beth, ond gan nad faint -ddoethineb neu annoethineb y cynllun, un -o'r effeithiau sydd a wnelo a Llundain Gym- reig heddyw yw, fod y boneddwr sydd yn <lestyn hyn o ysgrif ar fin ein gadael. Erbyn hyn mae y Parch. Thomas Jones wedi treulio ci dair blynedd yn ein plith, ac o'r Sul cyntaf o Fedi ymlaen adnabyddir ef gan awdur- dodau. y Gynhadledd Wesleyaidd fel gwei- nidog Cylchdaith Treorci. EI HANES. Brodor o Bontrhydygroes, Sir Aberteifi, yw Mr. Jones, a dechreuodd ennill ei damaid lei mwnwr yng ngweithfeydd plwm y sir honno. Dechreuodd bregethu tra eto yn ieuanc, ac yn 1876 penodwyd ef yn wei- nidog ar eglwys Treherbert. O'r amser yna ymlaen mae Mr. Jones wedi llafurio yn Neheudir Cymru yn ddidor, hyd ei ddyfodiad i'r Brif-ddinas yn 1904. Teithiodd-chwedl y Wesleyaid-trwy y Deheu o gwr i gwr, a bu yn gofalu am leoedd pwysig a phoblog, megys Tredegar, Llanelly, Pontypridd, ac Abertawe. Yn y lie olaf etholwyd ef yn anrliydeddus i'r safle o Lywydd Eglwysi Rhyddion y rhanbarth. Wedi dyfod i'n plith ninnau, ni fu Mr. Jones yn ddiwaith. Nid dyn i'w enwad yn unig a brofodd. Bu .yn ysgrifennydd i Gyfarfod Gwyl Dewi yn y City Temple ddwy flynedd yn olynol. Mae yn aelod ffyddlon o Undeb y Gweinidogion Cymreig, a thaflodd ei holl ynni ar ran Cen- hadaeth Gymreig Dwyreinbarth Llundain. Gwyddom fod gan weinidogion Cymreig y ddinas ddigon o waith ar eu cyfer, ond ynghannol ei brysurdeb anfynnych y ceid -CYTarfod o nodwedd cenedlaethol yn ein plith na fyddai Mr. Jones yn bresennol i ddangos -ei ochr. FEL BUGAIL YN LLUNDAIN. 0 safbwynt Wesleyaidd mae tair blynedd Mr. Jones wedi bod yn hynod o ffyddlon. Trwy ei ymdrechion diflino sicrhawyd cartref oysurus i'r eglwys yn y Gorllewinbarth. Mae Brunswick—enw yr addoldy newydd—yn un o'r capelau harddaf a berthyn i'r Cymry yn Llundain. Mae capel City Road, hefyd, wedi ei adnewyddu mewn harddwch, oddi- lrlewn ac oddiallan, a chredwn ein bod yn gywir pan y dywedwn fod sefyllfa arianol a S'hif aelodaeth y Gylchdaith yn fwy boddhaol derfyn ei weinidogaeth nag a fuont ers blynyddau lawer. Mae rhywun wedi dweyd mai pregethu yw yr alwedigaeth uchaf ond y fasnach salaf, ac 3aid 'ym ni yn gwybod am neb pwy bynnag sydd wedi gwneud y pulpud yn fwy o foddion i ddilyn ei alwedigaeth, ac yn llai o gyfleustra i fasnachu, na'r Parch. Thomas Jones. Os gwir dywediad Wordsworth, What comes from the heart goes to the heart," y mae pregethau Mr. Jones yn sicr o adael argraff arhosol ar ei wrandawyr. Ond, ieallai, wedi'r cyfan, mai nid yn y pulpud y -ceir Mr. Jones ar ei oreu. Credwn mai Richard Hooker, awdwr yr anfarwol" Ecclesi- astical Polity," a ddywedodd, The life of a pious clergyman is visible rhetoric "-y mae bywyd clerigwr duwiol yn areitheg gweladwy ac i'r rhai sydd yn adnabod Mr. Jones oreu, ac wedi bod tan ei ofal hwyaf, cymeriad gloew, ac ymddygiad hynaws, boneddigeiddrwydd pur, achymwynasgarwch parod, dyma yr areitheg sydd wedi dylan- wadu ddyfnaf ac wedi llwyddo i wau eu hyder a'u serch mor dyn am dano. Gallent ddywedyd yn aml-" I can't hear what you say, for listening to what you are." RHODDI FFARWEL. Cario glo i gwm Rhondda fyddai ceisio adgoffa i'w liaws gydnabod ymhlith darllen- wyr y CELT y mynnych droau mwynion sydd wedi nodweddu arhosiad Mr. Jones yn ein plith. Talp o garedigrwydd yw Gwei- nidog y Wesla yna," meddai cyfaill wrthym yn ddiweddar, a chredwn heb rith gweniaith fod y brawd yn agos i'w lê. Gellir dweyd am Mr. Jones fel y canodd Goronwy o Fon gynt am fam y Morisiaid— CAn hen a ddianghenodd: I'r un ni bu nag o rodd." Dilys ddigon ein bod yn datgan teimlad Cymry Llundain, o bob enwad, pan y dywedwn ein bod yn gofidio colli person oliaeth mor nobl ag eiddo Mr. Jones o'n plith. Nis gallwn, i ddiweddu, ddy- muno dim rhagor- ach iddo na braw- ddeg o eiddo Gwilym Marles- Yn 61 dy lafur gonest boed dy lwydd." E. S. R.

[No title]

YR HEN ORONWY.