Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
"Y Gwir yn erbyn y Byd." EISTEDDFOD FRENHINOL GENEDLAETHOL CYMRU A GORSEDD BEIRDD YNYS PRYDAIN, ABERTAWE, AWST 20fed hyd y 24ain, 1907. Gcaobroiyon mewn Cerddoriaeth, Bafddoniaetb, IJhyddiaeth a Chelf diros c:te1,200. Ysgrifennydd Cerddorol: T. E. POWELL, 68, St. Helen's Road, Swansea. Pob manylion (a Rhaglen Swyddogol, 71d. 2 drwy y Post) gan yr Ysgrifennydd Cyffrcdinol: A. B. DAVIES, 58, Wind Street, Swansea.
YN OL O'R AMERIG.
YN OL O'R AMERIG. [GAN Miss ELEANOR WILLIAMS, CASTLE ST.] Sefyllfa yr Eglwysi Cymreig ar hyn o bryd yn America. I ymwelydd o Gymru un o'r pethau mwyaf pruddaidd ydyw myned trwy lawer o'r hen sefydliadau Cymreig, a gweled mynwentydd bychain yma ac acw gydag ami i feddfaen ac enw hen Gymro neu Gymraes arno. Ed- rycha'r cyfan yn hollol anhrefnus, ac yn ami mae'r Garreg arw a'r ddwy lythyren wedi hollti yn ddwy gerllaw," a neb i'w thrwsio mwy. Gellir dyweyd i sicrwydd bob amser pan welir y rhai hyn fod achos Cymreig wedi bod yn agos i'r lie, ond fod y bob! wedi symud, a'r hen achos wedi myned i lawr- weithiau y capel wedi myned i ffwrdd a'r pryd arall, er mawr ofid, gwelwn hen addoldy, a fu unwaith yn fan cyfarfod pobl Dduw, yn ddim ond adeilad i anifeiliaid, neu wedi ei droi yn saloon afiach. Gwelais un hen gladdfa fach Gymreig yng nghanol mynydd- oedd creigiog Colorado, yn agos i ddeng mil o droedfeddi yn uwch na gwyneb y mor. Y pryd hwn nid oedd ond un hen bost o'r olion yn aros. Bydd yn fuan yn dir angof i ddynion, ond yng nghadw ar fap mawr Duw, a daw i alw Ei eiddo oddi yno. Mewn am- gylchiadau ereill mae yr hen Eglwysi Cym- reig wedi troi yn Eglwysi Seisnig, ac o'r hen Eglwysi bach Oymreig mae llawer or eglwysi mawr Americanaidd wedi cychwyn. Er y cyfnewidiadau i gyd, mae achosion Cymreig cryfion iawn yn aros. Hanerog ydyw eglwysi y Bydyddwyr—Cymraeg a Saesneg-yr oil ond un, Homestead, Pa." Mor bell ag y gwn ni, mae yr Anibynwyr yn lied debyg. Ac eithrio ardaloedd y chwareli, ardaloedd wedi eu poblogi gan Gymry o'r Gog- ledd, dim ond dwy o eglwysi Cymreig sydd gan y Wesleyaid un yn Utica, N.Y., a'r llall yn Bangor, Pa. Am y Trefnyddion Calfinaidd, maent hwy yn dal eu coron, ac yn dal yn ardderchog mewn rhai ardaloedd. Yn Wisconsin a Minnesota maent wedi magu cynulleidfaoedd o Gymry glan ond y mae dydd eu gofwy hwythau bron a'u dal, a bydd yn rhaid iddynt roddi Saesneg i'r plant a fegir yn bresennol neu fe'u collir o'r eglwysi. Dyna alanastra mae pwnc yr iaith wedi wneud yn yr Eglwysi Protestanaidd yn America, nid yn unig ym mysg y Cymry, ond ym mysg y cenhedloedd ereill o wahanol wledydd Ewrop. Mae un genhedlaeth wedi ei cholli i bob pwrpas crefyddol: yr hen bobl yn dal gafael yn eu hiaith, eu hen ffurf o grefydda, a'r plant, hy., yr ail genhedlaeth, ddim wedi dysgu yr iaith, ond hanerog a dull y wlad ieuanc o feddwl yn gwrth-daro yn erbyn yr hen ddull pendrwm bygythiol o grefydda. Tarewir un a syndod wrth sylwi nad oes ond ychydig o ddynion yn gallu cymeryd rhan gyhoeddus yng nghyrddau yr eglwysi. Merched gan mwyaf sydd a baich yr achos ar eu hysgwyddau. Nid oedd neb yn arwain y rhai ieuainc. Blinasant hwythau ar fyned i wrando ac heb ddeall mo'r iaith na mwynhau y dull; a'r hen bobl yn dra arglwyddiaethol yn cadw y cwrdd gweddi a'r gyfeillach i nifer fechan yn lie magu ereill i gymeryd eu lie i gario yr Arch. Ond yn yr eglwysi hynny sydd wedi setlo pwnc yr iaith, a'r hen deimladau cynhyrfus pleidiol f t-i wrth wneud yn darfod, mae golwg gobeithiol iawn ar y to sydd yn codi. Mae y plant mor ddeallgar, ac yn cael manteision mor dda i ddadblygu, nes maent yn bobl ysbrydol, a phan gant wir grefydd i aros, yn lie Christian Science a Dowieism, byddant yn bobl rhyfeddol i Dduw. Eisieu mawr yr Eglwysi Cymreig ydyw gweinidogion a chenhadon da pobl o gymeriad a galluoedd. Nid y rhai hynny sydd yn fethiant yma, oblegid gwahanol bethau. A dyna fendith fyddai i rai o'n pobl ieuainc dysgedig duwiol, yn lie bod yn sathru traed eu gilydd yma, i fyned i feddiannu y wlad fawr tu draw i'r Werydd. Y mae eglwysi mawr gan y Trefnyddion Calfinaidd, a thaliad an- rhydeddus, ond ni waeth heb fyned yno heb ddwy iaith. Cymraeg yw y gwasanaeth y boreu a Saesneg y nos. Ond yn Eglwysi y T.C. unwaith yn y mis yn unig mae llawer o honynt hwy yn cofio yr ieuenctyd. Mae aberth yn cael ei wneud gan yr hen Gymry i gadw yr achosion i fyny, a dylent gael llawer mwy o gydym- deimlad o'r wlad hon. Os yw yn werth cadw Hindw yn India, mae yn werth cadw Cymro yn America.
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAG. Y mae ein taith bresennol wedi ein gyrru o swn pethau'r Gan i ryw Wlad bell "-Ile y mae yr arferion yn bur wahanol i rai yr hen wlad. 0 ran hynny o fiwsig Cysseg- redig ac o naws grefyddol ar y gwasanaeth, yr ydym. ymhlith y moch ac yn ymborthi ar gibau Yr ydym eisoes wedi rhoddi syniad am y math o gerddoriaeth a geir yn Eglwys Sefydledig Rwssia; ac y mae llawer o'n darllenwyr wedi clywed rai o brif ddatgan- wyr y wlad hon mewn opera yn Lloegr, fel na raid dyweyd dim am y cyfryw. Yr ydym wedi sylwi, fodd bynnag, fod y tremolo yn bur amlwg mewn arferiad yma, fel ag y mae yn yr Almaen, &c. Ac y mae y gofyniad yn codi, paham y mae mor gyffredinol yr adeg hon ar y dydd yn hanes y Gan, os mai gau- beth ydyw? Un eglurhad, fe ddichon, yw fod gwahaniaeth i'w wneud cydrhwng y Ilais "vibrant" a'r llais "vibrato," ac yr honai naw o bob deg o'r unawdwyr tramoraidd mai canu y maent gyda'r llais "vibrant." Ond credwn fod yn anhawdd i unrhyw ddau berson benderfynu y pwynt terfynol cydrhwng y naill a'r llall. Y mae yn ddiau fod llawer, wrth ymarfer y naill, yn anymwybodol wedi llithro i arferiad o'r llall. Cyngor Sims Reeves a Ffrangcon Davies-fel y crybwyll- wyd eisoes yn y golofn hon—ydyw ymgadw oddiwrth y vibrato." Y mae defnyddiad y llais vibrant" yn dibynnu, wrth gwrs, ar y math o gerddoriaeth sydd i'w chanu ac yu yr operaon dramataidd y mae yn fynnych alw am y cyfryw. Yn sicr y mae allan o le mewn alaw fel Llwyn Onn," a rhai o'r un nod- wedd. Y mae yn hen syniad-yn enwedig yn yr Almaen-fod Lloegr ar 61 i'r Ellmynwyr mewn meddiant o chwareuwyr cerddorfaol; ond y mae Richter, Mottl, ac ereill ydynt wedi ymgydnabyddu a cherddorfiiu Seisnig, wedi tystio i allu y Saeson: nad ydynt yn ail i'w brodyr ar y Cyfandir fel chwareuwyr. Dyma'r waith gyntaf i ni glywed band Rwssiaidd yn chwareu. Un perthynol i un o'r minteoedd milwrol ydoedd, a chawsom y pleser o'i glywed yn chwareu un darn Seisnig, sef yr arweiniad i "Maritana," gwaith gwyrddlas Wallace. Cawsom ddigon o brawf nad hwn ydoedd y chwareuad goreu ydoedd yn bosibl i'w gael o'r darn. Yr oedd y clarionets a'r offerynau o'r un dosbarth yn dda; felly hefyd y cyrn, y tenor trombones a'r baritones; ond yr oedd y basses yn fynnych yn amhur nis gallai'r chwareuwyr gyflwyno y."rhediadau" yn ddigon glan. Yr oedd y band yn dda yn y mannau lie yr ydoedd y gynghanedd yn llyfn, a gallai llawer o fands Oymru-balzds gweithwyr ein gwlad-roddi cystal chwareuad ini yn y mannau hyn, ac fe ddichon o'r holl ddarn! Dyma'r wlad lie y blodeuodd y cerddorion mawrion-Chopin (o Poland), Anton Ruben- stein, a'r mwyaf o'r tri, Tchaikovsky. Y mae barddoniaeth Chopin i'r berdoneg yn fyd-enwog, ac ni fu meistr ar yr offeryn hwn a ragorai ar Rubenstein. Am gerddoriaeth gerddorfaol Tchaikovsky, y mae ei chwareuad parhaus yng nghyngherddau uwchraddol ein gwlad yn ddigon o dystiolaeth o'i ragoroldeb. Y mae son am y cerddorion hyn yn ein cymell i addaw i'n darllenwyr ychydig o'u hanes hwy, ac ereill o'r cewri cerddorol sydd wedi myned trosodd at y mwyafrif. Gwnawn hyn yn fuan. O'r anwyl, dyma wythnos ryfedd! Un dydd mewn tref o'r enw Bobrujsk, tua 500 milldir o'r brif-ddinas. Yr oedd wedi bod yn gwlawio am ddyddiau, ac yr oedd yn rhaid gyrru mewn drosky am filldir a hanner i'r dref drwy lynnoedd o ddwfr budr. Nid oes gofal yn y byd am gadw yr heolydd mewn trefn yno, ac y mae yn sobr o le Nid yw nifer fawr o'r trigolion druain yn gwisgo esgidiau na hosanau, ac y mae golwg gofidus arnynt. Y mae Tolstoi wedi eu darlunio i'r byw Dyna yn fyr un dydd. Y Hall ydoedd ym. Mhalas y Gauaf (Winter Palace), St. Peters- burg, drwy ba un y buom yn tramwyo am ddwy awr. Ac o'r pethau drud sydd ynddo! Y fath hanes sydd ynglyn a'r lie hwn! Cymerai gyfrolau i'w draethu. Ymhlith y pethau mwyaf dyddorol ydoedd yr esgidiau. bach sidan a wisgai Alexander yr Ail pan y bcdyddiwyd ef, ac, o ryfeddol! Yn y capel" o fewn y Palas y mae Haw loan y disgybl mewn cas gwydr. Dyna o leiaf ddywedai yr arweinydd yn ddifrifol wrthym. Ond dyna ddigon ar bethau y tu allan i fyd y Gan, a dyma ni ar gychwyn adref i gael gwybod sut y mae pethau o gylch bwrdd y golygydd.