Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

PARCH. R. J. CAMPBELL YNG…

News
Cite
Share

PARCH. R. J. CAMPBELL YNG NGHAERDYDD. [GAN EIN GOHEBYDD NEILLDUOL]. Yr oedd nos Fercher, 31ain o Orffenaf, yn noswaith bwysig yng Nghaerdydd. Nid yw Cymry Llundain, mae'n berffaith sicr. yn iawn synied pwysigrwydd a nerth y mudiad, a'r ysbryd newydd sydd yn chwythu dros Gymru y dyddiau hyn. Y mae Cwm Rhondda yn ferw gan ryw- beth na welodd ac na theimlodd Cymru o'r blaen. Nid oedd diwygiad Evan Roberts a'r danchwa deimladoi redodd drwy Gymru, ond arwydd o beth llawer mwy chwyldro- adol na chael rhagor o aelodau i gapeli. Y mae syniad newydd am gyfiawnder, am berthynasau cymdeithasol, ac am gael bywyd, a'i gael yn helaethach wedi meddiannu Morganwg; a'r trueni am dani ydyw nad ydyw arweinwyr ieuainc ein gwlad-yn grefyddol a gwleidyddol-ddim yn am- gyffred y gallu nerthol yma sydd wedi ymaflyd yng ngweithwyr Cymru. Un arwydd o'r mudiad newydd ydyw y croesaw brwdfrydig, tanllyd, gwyllt y mae y Parch. R. J. Campbell wedi ei dderbyn drwy Gymru yn ystod yr wythnos sydd wedi myned heibio. Nos Fercher yr oedd Park Hall, Caerdydd, yn orlawn-neuadd fawr a gynwysa oddeutu tair mil o gynulleidfa-wedi ei llanw hyd yr ymylon, a phawb wedi talu ett sylltau a'u banner coronau i wrando ar lais newydd ym mywyd y gweithiwr Cymreig. Pabam na wel Cymro y ffaith. arwyddocaol hon ? Yr oedd y drysau ar agor am saith o'r gloch, a channoedd eisoes yn disgwyl. 0 saith i wyth dyddanwyd y gynulleidfa yn rhag- orol gan gor Cymreig Madame Hughes- Thomas, y cor ganodd o flaen y Brenin y dydd o'r blaen. Yr oedd y merched yn edrych yn ddengar dros ben yn yr hen wisg Gymreig. Mor dlws ydyw pan y gwisgir hi gan ferch landeg Datganwyd yn felus hen alawon y Cymry- Ymgan Gwyr Harlech," Y Deryn Pur," "Llwyn Onn," &c., gan y cor, a'r hen delyn her ei thannan yn cyfeilio o flaen ymddangosiad y Parch. R. J. Campbell; ac i Gymro yr oedd y gan yn un o'r pethau mwyaf godidog a glywodd clustiau dyn. Y mae cenedl a gynyrchodd hen fiwsig melus y galon ddynol ac a all ei datgan heddyw gyda'r fath brydferthwch yn alluog i gyflawni pob gorchestwaith sydd o fewn cyrraedd y gallu ynol. Unodd y gynulleidfa i ganu Hymn Rhyddid Russell Lowell- Men it is who boast that ye Come of fathers brave and free, ac roedd arddeliad ac enaid yn y canu hefyd. Yr oedd nifer liosog o arweinwyr llafur Cymru ar y Ilwyfan. Yn eu plith Mr. Winstone, arweinydd y glowyr. Cymerwyd y gadair gan y Parch. D. G. Rees, o Gastell Nedd. Dyma fachgen ieuanc sydd wedi gweled y weledigaeth, ae wedi taflu ei gamreu ym mhlith dewrion wyr y cotiau llwydion," fel y dylai preg- ethwyr wneud, ac y mae eisoes yn medi ffrwyth ei ddidwylledd. Yn gywir am wyth o'r gloch cyfododd y Cadeirydd, a dywedodd ei fod ef, fel nifer ereill o weinidogion Cymreig, yn rhoddi croesaw i Mr. Campbell yn enw Cymru, a'u bod yn sefyll ar lwyfan llafur, nid fel di- winyddion, ac nid fel ffilosoffyddion, ond fel Gwerindebwyr (Socialists), am mai, yn eu tyb hwy, dyma yr unig feddyginiaeth in holl afiechyd cymdeithasol. Pan gyfododd y Parch. R. J. Campbell i siarad cafodd groesaw nas gwelid ei bath yn ami. Dywed fod yr hwyl Gymreig yn rhywbeth sydd wedi cyfnewid ei natur. Teimlai ei fod eisoes yn rhyw hanner Cymro. Yn unol ag addewid roddodd i Mr. Keir Hardie, dywedodd ei fod wedi talu ymweliad a Chymru i siarad ar berthynas y Plentyn a'r Wladwriaeth. Dywedodd ei fod yn siarad fel Socialist, ac yn ei dyb ef fod cym- deithasaeth yn fynegiad cywir yn wir, yr unig fynegiad o Gristionogaeth ag sydd yn bosibl. Mewn amlinelliad brysiog o fywyd plant yn nheyrnas Prydain, dywedodd fod yna duedd- iad cryf i'r genedigaethau leihau mewn nifer o flwyddyn i flwyddyn, ac fod ffrwythlondeb y dosparth gwrteithiedig yn llai na'r dos- parth diddysg, ac mai arwydd gwael ac isel oedd cael teuluoedd mawr, mai gwell oedd magu dau neu dri yn y dull y dylid gwneud hynny, na chael nifer liosog o blant, ac edrych ar hynny fel rhyw rinwedd neillduol. Y mae y trueni a'r boen y mae plant bychain yn dioddef oherwydd y teuluoedd mawrion a weJir ym mhlith tylodion ein dinasoedd mawrion yn warth i genedl wareiddiedig. Dywedodd fod plaid Ilafur yng Nghymru o dan ddyled trwm i'r Western Mail am lithiau grymus Mr. G. R. Sims-eu bod yn sicr o wneud mwy o Genedldebwyr (Social- ists) nac unrhyw beth a ymddangosodd yn y wasg Gymreig. Prif achos tylodi a dirywiad y wlad, yn ei dyb ef, ydyw cwestiwn y tir. Y mae y ffaith fod y tir yn cael ei berch- enogi gan nifer gymharol fechan o boblog- aeth y wlad yn achos ac yn esboniad o holl dylodi y wlad. Y mae tir Cymru a thir Lloegr yn perthyn yn naturiol i'r Cymro a'r Sais yn byw yno, ac hyd nes y bydd i'r genedl berchenogi y tir ni fydd yn bosibl i'r gweithiwr fyw y bywyd ac y bwriadodd y Duw mawr iddynt ei fyw. Y mae y cylch ynfyd yn gryfach na'r cynghor. Y tirfeddiannydd ydyw achos tylodi a meddwdod. Nid yw y tafarnwr ond arwydd. Credai ef y dylai'r wlad brynnu, neu yn hytrach ddegymu i ddifodiant y tir- feddianwyr, a chynorthwyo gyda llog y rheilffyrdd, ar y ddealldwriaeth eu bod yn dyfod i feddiant y bobl ar ben tymor pen- odol; a thrwy gymorth rheilffyrdd rhad dychmygai weled bentrefi hardd-nid dinas- oedd mawrion—yn britho gwyneb Cymru, a iechyd y wlad wedi ymuno a gwrtaith bywyd y dref. Y mae ein dull o drin y tylawd yn fethiant digymysg, ac nid ydyw ymdrechion John Burns mor argyhoeddiadol. Y mae ein eilunaddoliaeth o'r syniad fod gan y rhieni hawl dros addysg grefyddol y plentyn wedi sefyll yn wrthglawdd i bob cynnydd. Y mae crefydd yn sefyll yn gyndyn yn erbyn addysg y plentyn. Yr ydym yn cweryla ag yn ysgyrnygu dros addysg gref- yddol y plant pan nad ydynt yn prisio dim pa un a ydyw y plentyn wedi ei fwyda a'i ddilladu fel y dylai. Y mae un dyn fel Dr. Barnardo wedi gwneud mwy dros blant y wlad na'r oil o wladweinwyr y deyrnas gyda'u gilydd. Rhaid cael y pregethwr yn arwydd ac yn rhybudd i'r hen bleidiau yng Nghymru. Y mae yr hen blaid Wleidyddol sydd wedi cynrychioli Cymru drwy y blynyddau yn colli ei gafael ar y werin. Y mae torri geiriau gwag, sydd mor nod- weddiadol o bulpud Cymru, wedi methu cael unrhyw ddylanwad ar ieuenctyd y wlad, a chan nad beth fydd y dyfodol y mae Cymru yn chwilio am fynegiad newydd i'w hys- brydoliaeth.

[No title]

NODION LLENYDDOL.