Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. BANK HOLIDAY.—Dyma'r gwyliau eto wedi dod, a'r Llun nesaf bydd Cymry'r ddinas yn tyrru tua Hatfield Park. Mae trefniadau lawer wedi eu gwneud er mwyn sicrhau diwrnod hapus yno i'r Cymry i gyd. YN Y WLAD.—Gwan iawn oedd y cynull- iadau yn y gwahanol gapelau y Sul diwedd- af. Mae'r gwyliau eisoes wedi teneuo pob odfa a golwg bur hamddenol fydd ar bawb mwyach nes ail gydio yn y gwaith tua diwedd mis Medi. GWYR Y BEL.—Er mai canol haf yw hi, mae gwyr y bel droed yn trefnu yn brysur gogyfer a'r tymor nesaf. Dechreuir y gwaith tan nawdd y Clwb Cymreig gydag ym- drechfa fawr ar Medi 14eg rhwng y Glam- organ County v. Anglo Welsh Club ar y cae newydd sydd wedi ei sicrhau gan y Cymry yn Canning Town. YR ARGLWYDD FAER I DDOD YNO.—Er mwyn rhoddi ychydig o urddas ar yr am- gylchiad mae'r cyfarfyddiad wedi ei drefnu tan nawddogaeth yr Arglwydd Faer a'r Siryddion, a disgwylir y byddant yn bresen- nol ar yr amgylchiad. Bydd elw yr ornest gyntaf hon i'w gyflwyno i gronfa'r Arglwydd Faer ar ran plant anafus. Ceir y manylion yn y rhifynnau dyfodol. GWERTH Y GAIR.-Aeth un o bregethwyr y ddinas i lanw cyhoeddiad yn y wlad yn ystod y mis diweddaf, ac ar ol talu y treu- liau i lawr ac yn ol heb ond ychydig ymborth ar y daith, yr oedd geiniog a dimau ar ei golled pan gyrhaeddodd ei gartref. Dwy bunt oedd y tal am y pregethu, ond gan fod y costau teithiol yn cyrraedd yn agos i'r swm hwnnw bu raid i'r gwr parchus fodd- loni ar roddi ei amser a'i genadwri a'r geiniog a dimau am yr anrhydedd o breg- ethu i gynulliad gwledig. PENCERDD GWALIA.-Mae'r hen delynor parchus wedi cael amser prysur yn ddi- weddar yn ceisio egluro mai nid efe gafodd y Syr pwy ddiwrnod. Erbyn hyn mae pethau yn dod i'w lie, a chafodd y Pencerdd hamdden i fyned i Gymru yr wythnos hon. Bydd darlun o hono ef a'r delyn yn cael ei arddangos yn Abertawe ar adeg yr Eistedd- fod. Mae'n ddarlun da hefyd, ac yn un o gynyrchion diweddaraf Mr. Kelt Edwards, yr arlunydd. DARLUN arall fydd yn yr Eisteddfod fydd eiddo y ferch fechan Kathleen M. P. Trick, merch Mr. Trick, ysgrifennydd clwb pel droed Cymry Llundain. Fel y cofir, hi yw'r unig ferch sydd wedi ei hethol yn aelod o glwb pel droed, anrhydedd a roed arni gan y Springboks pan oeddent ar ymweliad a'n gwlad. Mae Kelt Edwards wedi cael darlun hapus o honi yng ngwisg y Clwb Africanaidd a bydd yn cael ei ddangos ar adeg yr Eisteddfod yn Abertawe, ac yn sicr o greu llawer o ddyddordeb hefyd. PWLPUDAU'R DDINAS. Pobl ddiarth fydd yn llanw y lleoedd hyn ym mwyafrif y capelau Cymreig yn ystod y mis, a phobl ddiarth fydd yn gwrandaw gan mwyaf, hefyd, oherwydd daw llu o ymwelwyr yma i lanw lleoedd y dinasyddion sydd wedi myn'd i'r wlad. CASTLE STREET.—Ym marwolaeth Mrs. Thomas, gynt o Park Street, collodd yr eghyys hon un o hen ffyddloniaid yr achos ddydd Sul, wythnos i'r diweddaf. Yr oedd hi a'i phriod, yr hwn a fu farw rhyw flwydd- yn ol, wedi bod yn gefnogwyr selog i'r achos yn y lie ar hyd y blynyddoedd, a byddai lie cynnes ar aelwyd Park Street i bawb o garedigion y capel. Dydd Mercher, Gorffenaf 24ain, cymerodd y gladdedigaeth le, a chaed gwasanaeth arbennig yn Castle Street cyn cychwyn am y gladdfa gyhoeddus yn Finchley. Arweiniwyd y gwasanaeth yn y capel gan y Parch. Herbert Morgan, B.A., ac ar ol ychydig eiriau ganddo rhoddodd y Parch. R. Ellis Williams, hen weinidog Castle Street, ei adgofion am yr ymadawedig, gan dalu teyrnged uchel iddi hi a'i phriod, oedd wedi ei rhagflaenu, fel cefnogwyr enwad y Bedyddwyr yn y ddinas yma. Cafodd gladdedigaeth barchus a lliosog iawn, dros bymtheg o gerbydau, tan reol- aeth Mr. Cooksey a'i fab, yn dilyn yr arch o'r capel i'r gladdfa. Nos Sul diweddaf caed pregeth goffadwriaethol yn y capel ar ol yr ymadawedig, a theimlai pawb o'r aelodau eu bod wedi colli chwaer ffyddlon ac aelod dilychwin o'r eglwys hon. Hedd fo ei rhan a gwenau y Goruchaf a daeno tros ei pherthynasau sydd mewn galar a hiraeth ar ei hoi. EISTEDDFOD LLANBEDR. Fel y gwelir oddiwrth ein colofn hysbysebol, cynhelir gwyl arbennig ym mhrif dref Ceredigion, ddydd Iau, Awst yr 8fed. Disgwylir llu mawr o Gymry'r ddinas yno, oherwydd mai "Llambed" yn ganolbwynt gwlad y Cardis gan fwyafrif ein dinasyddion. Un o'r beirniaid cerddorol yno yw Mr. Madoc Davies, a chydag ef mae llu o wyr enwog byd y gan yn cymeryd rhan. Mae pabell eang wedi ei threfnu gogyfer a'r wyl, a disgwylid y bydd yn un o brif gynulliadau gwlad y Cardis am y flwyddyn eleni. CEFNOGWYR 'STEDDFOD 1909.—Os oes rhai o'n darllenwyr heb anfon eu haddewidion fel gwarantwyr Eisteddfod Llundain, 1909, boed iddynt wneud hynny yn ddioed. Mae llu mawr wedi gosod eu henwau i fewn, o gan punt i lawr hyd at goron, prawf fod pob dosbarth yn cymeryd dyddordeb yn y mudiad, ac yn barod i'w gefnogi yn ogystal a siarad am dano DEIGRYN AR FEDD y diweddar Mr. Robert Jones, J.P., "Aberkin," Wandsworth Bridge Road, Fulham, S.W., yr hwn a hunodd yn yr lesu ddydd Iau, Mehefin 27ain, 1907, yn 67 mlwydd oed. Merch Seion ganfyddaf yn wylo. Mewn pruddaidd alarwisg mae hi, Tra'n gweled ei chedyrn yn syrthio Ei dagrau a dreiglant yn Hi Archelyn dynoliaeth sydd beunydd Yn chwifio'n watwarus ei gledd, Gan osod goreugwyr y gwledydd Yn oerion briddellau y bedd. Pan ydoedd gwyrddlesni digymar Mehefin yn harddu y ddol, Ac odlau swynhudol yr adar Yn cymell yr hafddydd yn ôl, Ein cyfaill a'n brawd ymadawodd Am hafddydd sydd hwy ei barhad, A'r anial tymhestlog fiarweliodd, Aeth adref i fynwes ei Dad. Ei fywyd oedd hardd a dirodres Tra yn yr anialwch yn byw, Bu'n ffyddlawn bob amser i'w broffes, Fel Enoch cydrodiodd a Duw; Ei zel dros yr Ysgol Sabbothol Enillai edmygedd y nef, Caiff bellach a'r dyrfa dragwyddol Gyduno mewn mawl Iddo Ef." I'r teulu mewn galar a thrallod Addewid yr lor fyddo'n llyw, Trwy brofiad boed iddynt gael gwybod, Fod Tad yr amddifaid yn fyw Nerth gaffont i sychu eu dagrau, Ffydd hefyd i edrych i'r lan, Gan gofio y gwawria y borau Cant eto gyd-gwrdd yn y man. Putney, S.W. ROSSERONIUM. EISTEDDFOD HAMMERSMITH. Cynhelir yr Eisteddfod hon eleni ar y 28ain o Dachwedd, ac mae'r cyfeillion yn y lie yn awyddus am guro—hyd yn oed yr wyl lwyddiannus iawn a gaed y llynedd. Deg gini yw'r brif wobr gorawl, a rhoddir banner gini am yr unawdau goreu. Yn yr adran lenyddol rhoddir £ 1 10s. am y prif draethawd ar Yr Eglwys a Ohwestiynau Cymdeithasol," a hanner gini am draethiad ar Ann Griffiths. I'r beirdd rhoddir gini am "Gywydd," a. gwobr am benillion ar "Elias ar ben Carmel." Mae'n rhestr faith, a bydd yn llawn gwaith noson i gyffawni yr oll a geir ynddi, os daw'r cystadleuwyr i'r maes fel arfer. Gellir cael y rhaglen am lc. ond anfon at Mr. H. Jones, 4, Iffley Road,. Hammersmith, W.

[No title]