Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Y BLAID GYMREIG.

News
Cite
Share

Y BLAID GYMREIG. Bu'R Aelodau Seneddol Cymreig yn cynnal un o'u cyfarfodydd arferol yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Safle anfoddhaol cwestiwn Dadgysylltiad oedd achos pennaf y cyfarfod. Dyna oedd barn bersonol Mr. E. J. Griffith, A.S., ac ar ei gais ef, mae'n debyg, y galwyd yr aelodau ynghyd. Nid yw'r aelod tros Fon wedi cael ei lwyr fodd- loni yn areithiau diweddar Syr H. Campbell- Bannerman nac yn natganiadau croyw Mr. Lloyd-George. Cred ef fod y naill a'r Hall yn rhy ben-agored, ac yr oedd yn dra awyddus yng nghyfarfod y Blaid yr wythnos ddiweddaf i benodi Dirprwyaeth arbennig i ymweled a C. B." er mwyn ei orfodi i addaw y gwnai osod y pwnc hwn yn ei raglen am y pedwerydd tymor o'r Weinydd- iaeth bresennol. Er y gwyddent fod pwnc mor bwysig i ddod ger bron, rhaid addef mai teneu iawn oedd y cynulliad, ac ni chaed y brwdfrydedd a ddisgwylid pan yr oedd mater mor fawr i gael ystyriaeth mwyaf difrifrol y Blaid. Bu Mr. Griffith yn siarad yn groyw wrth ei gydaelodau, ac yn datgan ei farn fod Cymru yn disgwyl rhywbeth oddiar eu dwylaw yn yr argyfwng presennol. Yr oedd ef wedi cael cyfleusterau arbennig i wybod beth oedd barn y wlad, a disgwyliai y byddai'r Blaid yn cefnogi y mudiad a ddygai ger bron. Ond yn anffodus i'r aelod tros Fon efe oedd yr unig wr gaed i ddyweyd gair tros y fath gynygiad. Yr oedd yr aelodau ereill yn teimlo yn gwbl foddhaol ar ddatganiad Mr. Lloyd-George, ac yn ddigon cryf eu cred yn C.-B." na wnai dynnu yn ol un iod o'i addewid. Unigedd Aelod Mon. Yn ystod yr holl drafodaeth yr unig ffaith ddatguddiwyd oedd "unigeddyraelodtros Sir Fon." Mae wedi gosod ei hun yn fath o feirniad cyffredinol, ac yn anghytuno a phawb ar y ffordd oreu i gyrraedd ein ham- canion cenedlaethol, fel nad oes yr un aelod arall a feiddia ei gefnogi. Mae hyn yn safle druenus i'r eithaf i unrhyw aelod fod ynddi, a'r anffawd ar hyn o bryd yw fod pob aelod arall mor bybyr a Mr. Griffith dros wthio ym mlaen y cwestiwn hwn. Mae pawb yn cytuno ar y pwysigrwydd o wthio y mater i'r ffrynt, ond yr anhawster yw pa fodd i wneud hynny. Dyfarnodd y blaid ei bod yn rhoddi ei hymddiried llwyraf yn yr arwein- wyr Rhyddfrydol, ac mai anoethineb fyddai pasio unrhyw benderfyniadau na fuasent yn ddatganiad croyw o ymddiried- aeth y Cymry yn addewidion C. B. Dyna yr unig beth allesid ei ddisgwyl. Mae'n wir fod Cymru yn dechreu blino ar yr addewidion parhaus yma, ond mae cael addewidion yn well na dim, er y cred Mr. Griffiths nad ydynt wedi eu gwneud o ddifrif nac yn werth i sylfaenu yr un gobaith arnynt yn y dyfodol agos. Ymraniadau'r Blaid. Ond ar wahan i ddifaterwch yr Aelodau Cymreig, y mae un nodwedd arall ynglyn a'r cynulliad yma y dylid ei gofnodi, sef yw hynny yr ysbryd ymrannu sydd ymysg gwahanol adrannau o gynrychiolwyr Cymru. Gwir y gelwir hi yn Blaid Gymreig, eithrnid yw'r cyfan ond enw. Ceisia Syr Alfred Thomas eu cadw yn lied drefnus, a llwydda i'w cael i'w ginio ef yn rheolaidd, a dyna'r unig amser y maent yn blaid unol a char- trefol. Ond ar wahan i'w ginio, 'does bosibl cael cynulliad unol. Mae'r naill aelod mor eiddigeddus wrth y llall fel nas gellir cael heddwch pan fo materion cenedlaethol yn dyfod ger bron. Er fod Cymru wedi ethol 34 o gynrycliiolwyr Rhyddfrydol plaid., gadarn, unol ar adeg etholiad-rhaid addef heddyw na fu'r genedl erioed yn cael ei chynrychioli mor wael yn Senedd Prydain a'r rheswm dros y cyfan yw, yr ymgecru a'r eiddigedd personol sydd cydrhwng y gwa- hanol adrannau o'r hyn elwir "y Blaid. Gymreig." Pa hyd y goddefir y fath ffwlbri yn enw'n gwlad o fewn muriau Ty'r Cyffredin ?

[No title]