Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
EISTEDDFOD GADEIRIOL Llanbedr Pont Stephan (LAMPETER). JDlZTJDlD I.A. Lr, .A VVST SPED, 1907. Llywyddion Y Boreu (10.30), PARCH. DDR. BEBB, Prifathraw Coleg Dewi Sant. Prydnawn (2.0), ARGLWYDD RAGLAW SIR ABERTEIFI L/uoedd o Gystadleuwyr'! Bydd ymiadd forwd am v gwobrau Rhagbrawfion yn deehreu am cideg, yn y Memorial Hall. eYKGHERDO MAWREDDOG YN YR HWYR. y Llyivydd — WILMOT INGLIS JONES, Ysw., Y Dderi. CANTORION-Miss Alicia M. Cove. Miss Eva Hall. Mr. John Roberts. Mr. Madoc Davies. „ ,IJdd J*.™ yn. rhedeg << Special Excursion Trains" o Abertawe, Caerfyrddin, Castell-Newydd-Emlyn, Aberystwyth, a phob Gorsaf arall rhwng Lampeter a'r lleoedd a enwvd Late Trains ar ol y Cyngherdd. WELSH C.M. SUNDAY SCHOOL UNION. = = THE 33rd = » Aaaual Excursion ON BANK HOLIDAY, AUGUST 5, 1907, TO Hatfield Park. v T T T yo Frequent Trains from King's Cross (G.N.R.) between 8.45 a.m. and 2.30 p.m. Return Fare: Adults, 2s.; Children (under 14), 9d. Tea, from 4 to 5.30 p.m., at The Salisbury Arms Temperance Hotel. Adults, 9d. each Children, 6d. each. Quoits and other Games can be played in the Park. Hatfield House can be seen between 2 and 5 p.m. Tickets of School Secretaries, and at Stations (King's Cross and Finsbury Park) during the day. Further particulars of Hon. Sec., J. DAVIES, 20, Meadow Row, S.E. Te/egthosse s Central 14153. EDWARDS & DAVIES, MODERN TAILORING ESTABLISHMENT w w w Gentlemen desirous of Dressing well AT A MODERATE COST, and wishing to avoid Clothing with the appearance of Cheap Production, should visit 121, NEWGATE ST., E. C. We have every garment Well Cut, WeIl Made and Well Trimmed.
Y BLAID GYMREIG.
Y BLAID GYMREIG. Bu'R Aelodau Seneddol Cymreig yn cynnal un o'u cyfarfodydd arferol yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Safle anfoddhaol cwestiwn Dadgysylltiad oedd achos pennaf y cyfarfod. Dyna oedd barn bersonol Mr. E. J. Griffith, A.S., ac ar ei gais ef, mae'n debyg, y galwyd yr aelodau ynghyd. Nid yw'r aelod tros Fon wedi cael ei lwyr fodd- loni yn areithiau diweddar Syr H. Campbell- Bannerman nac yn natganiadau croyw Mr. Lloyd-George. Cred ef fod y naill a'r Hall yn rhy ben-agored, ac yr oedd yn dra awyddus yng nghyfarfod y Blaid yr wythnos ddiweddaf i benodi Dirprwyaeth arbennig i ymweled a C. B." er mwyn ei orfodi i addaw y gwnai osod y pwnc hwn yn ei raglen am y pedwerydd tymor o'r Weinydd- iaeth bresennol. Er y gwyddent fod pwnc mor bwysig i ddod ger bron, rhaid addef mai teneu iawn oedd y cynulliad, ac ni chaed y brwdfrydedd a ddisgwylid pan yr oedd mater mor fawr i gael ystyriaeth mwyaf difrifrol y Blaid. Bu Mr. Griffith yn siarad yn groyw wrth ei gydaelodau, ac yn datgan ei farn fod Cymru yn disgwyl rhywbeth oddiar eu dwylaw yn yr argyfwng presennol. Yr oedd ef wedi cael cyfleusterau arbennig i wybod beth oedd barn y wlad, a disgwyliai y byddai'r Blaid yn cefnogi y mudiad a ddygai ger bron. Ond yn anffodus i'r aelod tros Fon efe oedd yr unig wr gaed i ddyweyd gair tros y fath gynygiad. Yr oedd yr aelodau ereill yn teimlo yn gwbl foddhaol ar ddatganiad Mr. Lloyd-George, ac yn ddigon cryf eu cred yn C.-B." na wnai dynnu yn ol un iod o'i addewid. Unigedd Aelod Mon. Yn ystod yr holl drafodaeth yr unig ffaith ddatguddiwyd oedd "unigeddyraelodtros Sir Fon." Mae wedi gosod ei hun yn fath o feirniad cyffredinol, ac yn anghytuno a phawb ar y ffordd oreu i gyrraedd ein ham- canion cenedlaethol, fel nad oes yr un aelod arall a feiddia ei gefnogi. Mae hyn yn safle druenus i'r eithaf i unrhyw aelod fod ynddi, a'r anffawd ar hyn o bryd yw fod pob aelod arall mor bybyr a Mr. Griffith dros wthio ym mlaen y cwestiwn hwn. Mae pawb yn cytuno ar y pwysigrwydd o wthio y mater i'r ffrynt, ond yr anhawster yw pa fodd i wneud hynny. Dyfarnodd y blaid ei bod yn rhoddi ei hymddiried llwyraf yn yr arwein- wyr Rhyddfrydol, ac mai anoethineb fyddai pasio unrhyw benderfyniadau na fuasent yn ddatganiad croyw o ymddiried- aeth y Cymry yn addewidion C. B. Dyna yr unig beth allesid ei ddisgwyl. Mae'n wir fod Cymru yn dechreu blino ar yr addewidion parhaus yma, ond mae cael addewidion yn well na dim, er y cred Mr. Griffiths nad ydynt wedi eu gwneud o ddifrif nac yn werth i sylfaenu yr un gobaith arnynt yn y dyfodol agos. Ymraniadau'r Blaid. Ond ar wahan i ddifaterwch yr Aelodau Cymreig, y mae un nodwedd arall ynglyn a'r cynulliad yma y dylid ei gofnodi, sef yw hynny yr ysbryd ymrannu sydd ymysg gwahanol adrannau o gynrychiolwyr Cymru. Gwir y gelwir hi yn Blaid Gymreig, eithrnid yw'r cyfan ond enw. Ceisia Syr Alfred Thomas eu cadw yn lied drefnus, a llwydda i'w cael i'w ginio ef yn rheolaidd, a dyna'r unig amser y maent yn blaid unol a char- trefol. Ond ar wahan i'w ginio, 'does bosibl cael cynulliad unol. Mae'r naill aelod mor eiddigeddus wrth y llall fel nas gellir cael heddwch pan fo materion cenedlaethol yn dyfod ger bron. Er fod Cymru wedi ethol 34 o gynrycliiolwyr Rhyddfrydol plaid., gadarn, unol ar adeg etholiad-rhaid addef heddyw na fu'r genedl erioed yn cael ei chynrychioli mor wael yn Senedd Prydain a'r rheswm dros y cyfan yw, yr ymgecru a'r eiddigedd personol sydd cydrhwng y gwa- hanol adrannau o'r hyn elwir "y Blaid. Gymreig." Pa hyd y goddefir y fath ffwlbri yn enw'n gwlad o fewn muriau Ty'r Cyffredin ?
[No title]
Ni chyferfydd y Ddirprwyaeth Eglwysig tan ddeehreu mis Hydref. Disgwylir cael rhai wythnosau prysur wedyn, er mwyn gorffen a'r tystion. ER cymaint y siarad, 'does gobaith y caiff Mr. S. T. Evans ei ddyrchafu i fod yn Farnwr y flwyddyn hon. Mae un neu ddau ereill, meddir, mewn mwy o ffafr gan yr awdurdodau. YN ystod yr wythnos hon mae'r trens Cymreig o orsafoedd Paddington ac Euston wedi bod yn anarferol o lawn. Myn y Cymro ei wyliau waeth beth fo safle y fasnach. DISGWYLIR dirprwyaeth nerthol o ddinas- yddion yn Eisteddfod Abertawe i wneud cais am gael yr Eisteddfod i Lundain yn 1909- Mae'r rhagolygon eisoes yn dra addawoL