Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

First List of London Subscriptions.

NODION LLENYDDOL.

News
Cite
Share

NODION LLENYDDOL. Llythyrau'r Morrisiaid. Dyma'r drydedd ran o'r gyfres ddyddorol hon wedi gwneud ei hymddangosiad, ac fel y rhannau blaen- orol, y mae'n llawn dyddordeb o'r dechreu i'r diwedd. Y tro yma ceir mwy o lythyrau Llewelyn Ddu ei hun, ac mae'r rheiny, feallai, yn fwy byw na'r gweddill am y cyf- eiriadau doniol a wneir ynddynt yn awr ac eilwaith. Lewis oedd y lienor pennaf o'r pedwar brawd, a dengys ei lythyrau gymaint ei ddyddordeb mewn materion Cymreig tua'r 1750's. Ceir amryw gyfeiriadau at Goronwy Owen yn y llythyrau ddangosant fod y Morrisiaid yn gwneud yr oil a allent er sicrhau bywioliaeth iddo. Dyma ddywed William yn un o'i epistolau Mi gefais ddydd arall lythyr oddiwrth Oronwy. Nid cynrhwg ond odid y chwedl a glywsom ynghylch y diota, ag nid hwyrach cystal ag y dymunai ddyn iddo fod Mae'r brawd hybarch yn dywedyd iddo anfon Cywydd y Farn a nodau arno i'r brawd Llew." Dro arall ar ol cyfeirio at ddarn o'i waith dywed Chwi welwch mai bas gan Oronwy ddynwared beirdd y canrifoedd diweddaraf a'i fod yn myned yn ol tu ac oesoedd Taliessin." Ar wahan i'r nodion llenyddol ac hanesyddol sydd ynddynt ceir yma bortread byw o fywyd cyffredin yr oes honno. Yn sicr nis gall hanesydd y cyfnod anwybyddu y llythyrau rhyfedd a gwerth- fawr hyn. Cyhoeddir hwy yn rhannau gan Mr. J. H. Davies, M.A., coleg Aberystwyth, a'r pris yw coron y rhifyn. Dylai pob Cymro llengar sicrhau y gyfres hon. Y Geninen Eisteddfodol.-Arlwy i'r beirdd geir yn y rhifyn arbennig hwn, ac wfft i'r gwr na chaiff gan neu benill yma fo'n cydfyned a'i anian, os yn rhyw berthynas i fardd o gwbl. Dyma gasgliad o bryddestau ac awdlau, cerddi a myfrdraethau, toddei- diau ac englynion heb son am gywyddau, ar destynau mor amrywiol nes pery i ni feddwl fod pawb a phopeth-gweladwy ac anwel- adwy—yn dod i fewn i gylchfyd y bardd Cymreig. Agorir y rhifyn gyda phryddest goffa o waith Rhuddwawr, yr hon enillodd y Gadair yn Llundain yn 1901, a dilynir hon gan gyfres o Delynegion Serch, o eiddo Silyn Roberts, y rhai a fuont fuddugol yn Ffes- tiniog yn 1898. Dyma ganeuon caru yw y rhain Does neb ond bardd mewn cariad- fel oedd Silyn ar y pryd-a allasai gyfan- soddi pethau mor true to nature a hyn. Fraich ym mraich ar felys hynt- Drwy y blodau-drwy y glyn- Dros y maes a'r gwenith gwyn Teimlo wnaem mai serch oedd sail Can yr adar rhwng y dail Minau'n trydar Fel yr adar- Chn a chusan bob yn ail." Canu'n ddysgedig iawn mae Gwili am Mair ei fam Ef," a gwnai'r tro i unryw gyhoeddiad pabyddol- Dysger ini Forwyn Fendigedig Eilchwyl dalu dyled fawl ein tud A phan alwo Cred di'n wynfydedig Na foed mant yn Nghymru wen yn fud. Mae Eifionydd yn gwneud gwasanaeth rhagorol i'w genedl wrth grynhoi y cyfan- soddiadau buddugol hyn y naill flwyddyn ar ol y llall, ac yn sicr haedda ein cefnogaeth fel darllenwyr, a dylem un ac oil ddod yn dderbynwyr cysson o'r Geninen, nid yn unig y rhifyn eisteddfodol hwn eithr pob rhifyn a ddaw allan.

[No title]

ARHOLIAD GORSEDD Y BEIRDD.

Advertising

PUBLISHERS' NOTE.