Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. HAF GWYOH. -Os bu'r haf yn hir cyn dod, mae wedi gwneud y diffyg i fynu erbyn hyn. AR WASGAR.—Yn ystod yr wythnos ddi- weddaf aeth llu mawr o Gymry'r ddinas ar eu gwyliau i'r Hen Wlad. Wedi'r cyfan fe welir lleoedd glan y mor yn llawn o ymwel- wyr cyn diwedd y tymor. Y CLWB CYMREIG.—Yr wythnos ddiweddaf penodwyd Mr. Pritchard Jones yn gadeirydd pwyllgor y Clwb Cymreig am y flwyddyn ddyfodol. Mae Mr. Jones yn gredwr cadarn yng ngwerth y sefydliad hefyd. LLUNDAIN A'R EISTEDDFOD.- Cred rhai pobl nas gellir gwneud yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ilwyddiant arianol yn Llun- dain. Os mai Ilwyddiant arianol yn unig yw prif reswm dros wahodd yr Eisteddfod, does yr un dref yng Nghymru bron a all ei gwahodd. Colled arianol, fel rheol, yw hen sefydliad y Cymry, a 'doedd y golled yn ddim o'i gydmarti a cholled Pontypridd er engraifft. BLWYDDYN EITHRIADOL oedd blwyddyn 1887 pan fu'r Eisteddfod yma o'r blaen. Yr oedd atyniadau'r Jiwbili yn lliosog a'r tywydd yn haf aid d iawn. Erbyn hyn mae pethau wedi newid llawer iawn, a'r cylchoedd Cym- reig yn llawer mwy lliosog nag yn y blyn- yddoedd hynny. Mae yma ddigon o Gymry bellach i'w gwneud yn llwyddiant heb son am gael y miloedd i fynu o Gymru. Y DIEITHRI.AID.-Mis y bobl ddiarth i lanw pulpudau fydd mis Awst. Daw llawer o ddoniau yr Hen Wlad ar ymweliad a ni, ac os bydd y cynulliadau yn deneu rhaid iddynt beidio digaloni. Fe ddaw pob peth i drefn eto o hyn i ddiwedd mis Medi. PRIODAS.—Wele un arall o fechgyn y ddinas yma wedi ymadael a'r stad hen- lancyddol. Yng nghapel Ebenezer, Aber- tawy, ddydd Llun yr wythnos ddiweddaf unwyd mewn priodas Mr. Hughes-Jones (mab Mr. a Mrs. Jones, Suffolk Street, Pall Mall) a Miss Lydia Maria Davies (merch Mr. J. F. Davies, Cradock Street, Abertawy). Rhoddwyd y cwlwm priodasol gan y Parch. W. James, y gweinidog, a daeth torf o gyf- eillion y ddeuddyn hapus ynghyd i wylied y gweithrediadau. Gwasanaethodd Mr. J. R. Jones, fel gwas y briodas i'w frawd, a rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad. Morwynion y briodas oeddent Miss Cissy Jones, Suffolk Street, a'r Misses Fanny, Olwen, a Ceinwen Davies, y rhai oeddent oil mewn gwisgoedd prydferth. Ar ol y sere- moni yn y capel, cynhaliwyd croesaw yng nghartref y ferch ieuanc, lie y daeth y perth- ynasau a'r cyfeillion i ddymuno pob llwydd ar yr uniad. Yn y prydnawn ymadawodd y par ieuanc am ogledd Cymru, lie y treulir eu gwyl fel. WELSH NATIONAL FESTIVAL.—Ar ol sicr- hau'r pum' can punt bydd Gwyl Sant Paul yn beth parhaol o hyn allan. Yr oedd yn golled arianol bob blwyddyn o'r blaen ond yn awr gellir myned at y gwaith gyda mwy o hyder nag erioed. Hyderwn, er hynny, y gwneir gwell trefniadau ynglyn a'i chynnal mewn blynyddoedd i ddod, ac y cymer ein Heglwyswyr Cymreig at y gwaith yn hytrach nai roddi yn nwylaw haid o Sais-Gymry na wyddant ond ychydig am yr hyn a wneir yn ein plith fel Cymry. Y CYMMRODORION.- Yr wythnos hon cy- hoeddwyd dwy gyfrol drwchus gan Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yn cynnwys manylion o weithrediadau y Gymdeithas, ynghyd a'r papurau a ddarllenwyd yn ei chyfarfodydd, yn ystod tymhorau 1904-5 a 1905-6. Feallai mai dyma'r ddwy gyfrol mwyaf gwerthfawr i'r hanesydd ag sydd wedi dod allan ers talm, gan fod ysgrifau gan rai o'r awdwyr goreu i'w cael ynddynt, ac amryw ar bynciau hynod o amserol. Ceir adolygiad ar gynwys y cyfrolau yn ein rhifynau dyfodol. RAMBLERS KING'S CROSS.—Ar Hampstead Heath bu aelodau yr uchod yn treulio pryd- nawn Iau diweddaf. Dyma y "ramble" olaf cyn i'r aelodau ymwasgaru ar eu gwyl- iau haf, ac roedd yr hin yn bopeth a allesid ei ddymuno, a'r nifer a ddaeth ynghyd ym mhell uwchlaw a welwyd o'r blaen yn y rambles." Mae yr arweinwyr, Mri. John Waters ac Abraham Williams i'w liongyfarch am y llwyddiant nodedig fu gyda'r ramble hon. Profiad pawb ar derfyn y dydd ydoedd iddynt dreulio p'nawn hapus, ac yn gobeithio y ceir dyddiau cyffelyb pan ar ymweliad a'r Hen Wlad yn ystod yr wythnosau dyfodol. Gan fod y pla ramblo" wedi dod tros Gymru ieuainc y ddinas yn ddiweddar, ni fydd angen am na thren na char modur na beisicl yn y wlad ar ol hyn-mae pawb wedi dysgu cerdded mor ddi-drafferth. RADNOR STREET.—Dydd Iau diweddaf, cafodd Cymdeithas Ddiwylliadol Radnor Street ddiwrnod allan yn y wlad yn Hampton Court. Eglwys gymharol fechan ydyw Radnor Street, ac o angenrheidrwydd nid ydyw ei Chymdeithas Ddiwylliadol yn lliosog iawn. Er hyn i gyd y mae yn un o'r Cymdeithasau mwyaf diwylliedig yn Llun- dain. Er engraifft, yn ystod y ddwy flynedd diweddaf, y mae wedi cael darlithiau gan y fath enwogion a G. K. Chesterton, Parch. J Morgan Gibbon, y Parch. Wm. Thomas (Ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Llundain), Mr. Vincent Evans, ac ereill. Efallai mai ffyddlondeb yr ysgrifennydd, Mr. Philip Williams, Earl's Court Road, sydd yn cyfrif am hynny-gwr y dylasai ugeiniau o Gymry Llundain ei gymeryd yn esiampl. Nid ydyw yn rhy falch i barhau yn ysgrifennydd Cymdeithas Ddiwylliadol ei eglwys, er prysured ydyw. Efe ydoedd wedi trefnu y trip yma i Hampton Court, ac nid gormod yw dweyd i bawb gael un o'r diwrnodau hapusaf dreuliasent erioed. Cychwynwyd o Hammersmith am dri, a chafwyd te yn y Thames Hotel am bump, a chyrhaeddwyd gartref am ddeg. Gwnaeth- pwyd y daith yn ol ac ym mlaen mewn stecially resey-ved car, a mwynhawyd hi yn ddirfawr. Gwelsom yn bresennol, ym mhlith ereill, y Parch, a Mrs. Machreth Rees, Mr. T. Huws Davies, Mr. Jones (y Cenhadwr), Mr. a Mrs. Pritchard, Uxbridge Road; a Mr. Philip Williams. Sibrydai rhywrai mai y pregethwyr oedd yn mwynhau eu hunain oreu yn ystod y dydd. Bron nad ellid meddwl mai dydd Eisteddfod ydoedd. Yn y Broadway, Hammersmith, nos Iau, cynnyg- iwyd a phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr. Williams, a mynegwyd y dymuniad i'r trip gael ei wneud yn un blynyddol (gan bregethwr eto). UN OEDD YNO. EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1909. Cais Llundain.—Da gennym allu hysbysu fod rhestr y gwarantwyr yn cynyddu yn ddydd- iol, a disgwlir y gwneir y 11,000 i fyny cyn ddiwedd yr wythnos hon. Cyrhaedda y guarantee list tua £ 750 yn awr, yn cynwys symiau o £100 i 91 Is., ac anfonwyd cylch- lythyr allan rhyw ddeuddydd yn ol i sicrhau y gweddill. Os oes ereill o'n darllenwyr garent gymeryd rhan yn y mudiad, bydded iddynt anfon gair ar unwaith, gan nodi y swm, i'r 1909 Eisteddfod Committee," 64, Chancery Lane, W.C.

Tysteb Emlyn Evans.

[No title]