Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

YN OL O'R AMERIG.

News
Cite
Share

YN OL O'R AMERIG. CYMRY YR UNOLDALAETHAU. [Gan Miss ELEANOR WILLIAMS, Castle Street]. Mae ein cyd-genedl yn y wlad tu draw i'r mor, yn llawer lliosocach nag ydym ni yn feddwl, er fod tyrfa aneirif o'r hen sefydlwyr cyntaf, wedi myned yn breswylwyr y myn- wentydd yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Mewn sefydliadau bychain, yma ac acw, ar hyd y cyfandir mawr mae y Cymry, a hynny yn ddiau yw y peth goreu i'r wlad, oblegid ymfudodd pobl dda iawn o Gymru i America banner cant a deugain mlynedd yn ol, ac fe aeth yr hen bobl dda a goleuni yr Efengyl gyda hwy i'r anial diroedd hyn. Y peth cyntaf wnaent ar ol cael Log Cabin i fyw ynddo, fyddai dechreu cael cwrdd gweddi yng nghartref un o'r teuluoedd, ac yna yn y Hall, a buan iawn y byddai Capel Log yn cael ei agor, ac allor i'r Duw byw yn cael ei dodi ynddo. Yna yn y Bethel a'r Sion bychain hyn y flachiodd goleuni crefydd lesu Grist ar dywyll leoedd America. Mae yn gorwedd yn yr hen fynwentydd unig lawer o'r gemau disgleiriaf fydd yn harddu coron "Mab Duw." Gwnaeth yr hen Gymry un camgymeriad mawr wrth ddech- reu sefydlu fel gwladfawyr. Chwilio am rhyw ail Gymru yr oeddent, yn lie chwilio am wlad well. Myned i rhyw hen fanciau sal coediog caregog, a gadael y dyffrynoedd breision i estroniaid a llwythau mwy an- turiaethus a hunangeisiol. Yn nhalaeth New York, o gwmpas Remsen, sefydloedd Ilawer iawn, ac mae yno ambell i glwt a chyrriaint o gerrig arno ac sydd ar Foel-y- Caws." Tiroedd gwael lawer, a gwelais yno chwech o ffermydd gweigion yng ngolwg eu gilydd, y bobl yn eu gadael i fyned i'r West i feddiannu y prairies mawr gwastad sydd yn llawer haws eu trin, ac yn rhoddi cynnyrch mawr yn dal am y drin- iaeth. Gellir dyweyd yr un peth hefyd am Ohio. Pobl o ardal Llangeitho sydd yno, wedi sefydlu yn y bryniau sal, a gadael gwlad yn llifo o laeth a mel i bobl ereill. Ceir Ilawer o lo yn nhalaeth Ohio, felly roedd tyrfa o Ddeheuwyr yno. Chwarelwyr wedyn sydd yn myned i Llatington," "Granville," Bangor, Pa, a West Bangor, Mareland. Dyna sefydliadau hollol Gym- reigedd, ac yn llawn o ddisgynyddion pobl y 'Gogledd. Yn nyffryn mawr y Wyoming, talaeth enwog Pennsylfania, mae y glowyr Wrth y miloedd. Y gweithwyr tan wedyn yrl Pittsburgh, Pa., a Youngstown, Ohio. Johnstown, Pa., sydd wedi ei meddiannu a Uiaws o Gymry'r Deheu, yn enwedig yn y Cambria "Steel Works" mawr. Ond yn nhalaeth Wisconsin mae y sefydliadau mawr amaethyddol, ac ym Minnesota mae rhai sefydliadau lied gryfion. Pobl y gogledd, Sir Fon, a Sir Gaernarfon gan mwyaf, sydd yno. Gellir dyweyd hynny, am mai yr enwad Methodistiaid Calfinaidd sydd gryfaf o lawer yn y dalaeth eu capelau mawr hwy sydd yn britho yr ardaloedd. Mae lluoedd o sefydliadau bychain yn Iowa a thalaethau ereill. Pe buasai y Cymry a ymfudasant Wedi cadw gyda'i gilydd mewn un rhan o'r wlad buasai yn fwy o Gymru na'r hen fam wlad, a buasent wedi cadw eu hiaith a'i crefydd yn ddigymysg, a buasai yn wladfa Gymreig rhyfeddol. Ond Ilawer gwell i d-dyfodol America ydyw mai ar chwal yr aethant. Maent, drwy hynny, wedi cario eu Hodweddion rhagorol fel crefyddwyr ac Anghydffurfwyr i gymysgu a bywyd y wlad. A phan gofier fod gwledydd pydredig Europe yn tywallt eu Pabyddion serimoniol Wrth y miliynau i'r wlad, nid oes ond amser hir fedr ddyweyd y rhan bwysig mae ein cenedl ni wedi chwareu ym mywyd goreu y wlad odidocaf tan haul, am gyfnbd i ddod; Nid rhyfedd i'r Llywydd Craffus Roose- velt dalu gwarogaeth mor uchel i ni fel Cymry, gan awgrymu ein bod ni uwchlaw eisiau crefyddol, pan y dywedais fy mod yn cenhadu ychydig i'm cyd-genedl. Pan fydd rhyw un yn y dyfodol pell yn ysgrifennu unfed benod a'r ddeg hanes America bydd rhaid iddo gyfrif yr hen arwyr Cymreig wrth y canoedd. 0 y y caledi mae y tadau a'r mamau wedi ddi- oddef i wneud gwlad i'w plant a plant eu plant yn y rhanbarthau pellenig hyn. Nid heb aberth lawer maent wedi ennill y cymer- iad a'r sefyllfa anrhydeddus presennol feddant fel cynrychiolwyr Cymru yng ngwlad y Gorllewin, ac nid heb ofal a gweddi chwaith y cedwir yr enw da hwn yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

A BYD Y GAN.

[No title]