Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CRI GWERIN.

News
Cite
Share

CRI GWERIN. PERYGLON CYMRU. III. England for the English, not for the Duke of Westminster Scotland for the Scots, not for the Duke of Sutherland; Ireland for the Irish, not for a handful of landlords Wales for the Welsh, not for the Anglican priest and the sleek mine proprietor those will be some of the first cries of the Isocrats. Grant Allen in u The New Party." Yn un o'n herthyglau blaenorol cyfeiriasom at y perygl mawr i Gymru osod ei gobaith mewn plaid wleidyddol, lieu roddi ei chalon i gadw i wleidyddwr. Ein rheswm dros. hynny oedd mai hunanles oedd egwyddor lywodraethol gwleidyddiaeth y ganrif yma. Angen cyntaf Cymru ddywedasom hefyd, ydoedd deffroad gwerinol. Daw iachawdwr- laeth gwerin yn ddieithriad o'i bywyd ei hun. Felly cyn gwawria boreu cliriach ar hanes Cymru rhaid cael pobl y bryniau uchel a'r dyffrynoedd culion i ddeffro i'w hangenion a'u peryglon cenedlaethol eu hunain. Rhaid i ni gofio fel cenedl fod amryw o alluoedd cryfaf yr oes yn elynol i fywyd y genedl fechan, neu o leiaf yn elynol iddi yn y mynegiad gawn o honynt yn mywyd yr oes ac ofnwn fod yna ugeiniau o Gymry wedi eu hudo ganddynt, ac o ganlyniad wedi troi yn anffyddloniaid. ORI YMHERODRAETH. Un o alluoedd mawr yr hanner canrif ddiweddaf ydyw Ymerodrolaeth (Imperial- ism). Cynnyrch uniongyrchol materolaeth banner ddiweddaf y ganrif yn y byd gwleid- yddol ydyw-ond mwy o berygi ydyw o lierwydd hynny, oblegid mai syniadau materol am fywyd a'i genhadaeth, yn effeithio ar fywyd y genedl fechan fel llwydrew ar flodau gwanwyn. Ymron nad cywir fyddai i ni ddweyd fod hanes yr hanner ganrif ddi- weddaf yn Ewrop yn cael ei wneud i fyny o hanes rhyw bedair neu bump o genhedloedd mawrion. Delfryd uchaf y Sais ydyw lliwio map y byd yn goch, ac y mae yn gwneud hynny yn effeithiol rhyfeddol yn ei ffordd fwngleraidd oer a chreulon ei hun. Ryw bum' mlynedd yn ol gwelsom y gallu ofn- adwy yma yn Neheudir Affrica yn gwasgu cenedl fechan wladgarol ymron allan o fod- olaeth a gwaeth na hynny gwelsom Gymro, alwai ei hun yn genedlaetholwr, yn edrych ar y gwaith dieflig yn ddidaro, tra'r oedd yr un gwaith yn myned ymlaen yn ei wlad ei hun, a Chymru Gymreig yn grudd- fan o'r herwydd. Gwir nad oedd tywallt gwaed yn cymeryd lie rhwng bryniau liwalia, ond yr oedd y Sais a Seisnigaeth yno yn ceisio argraffu ei ddelw hagr ar ein sefydliadau a'n bywyd. Rhyw fodd neu gilydd y mae'r Sais wedi breuddwydio ei hun i gredu ei fod ef, drwy ddwyfol-osodiad, i lywodraethu'r byd. Pan gofir mai "Ei Hunan" ydyw Duw'r Sais, rhaid i ni addef fod gwirionedd yn ei gredo hefydd. Rhaid i'r genedl fechan ar bob cyfleustra gyhoeddi rhyfel yn erbyn y fath ffolineb hunanol a disynwyr. Rhaid i ni geisio dangos i'r estron y fath anibendod y mae wedi ei wneud ymhobman. A chofiwn hefyd Had ydyw ein disgybl yn ddysgwr cyflym, a gwell fyddai ganddo ddysgu pob gwers na'r wers yma. Bydded i ni gofio, fel cenedl, mai egwyddor sylfaenol Imperialism ydyw unffurfiaeth. Yn wir y mae proffwydi InwyaI yr efengyl felldithiol hon yn dweud hynny yn rhugl. Y mae pob adfywiad o fywyd cenedlaethol oddimewn i'r YMEROD- RAETH yn berygl i'r Eilun, ac ni cha fymrym 0 gydymdeimlad, a rhaid i ninnau, fel cenedl, oaod ein gwyneb fel dur yn erbyn pob am- lygiad o'r ysbryd gwenwynig yma, os am gadw ein hunaniaeth cenedlaethol yn ddiogel. Pa wahaniaeth i ni ydyw fod gallu Prydain Fawr yn sicr ar Fynyddoedd y Lloer. Os rhywbeth dylai ein cydymdeimlad redeg allan at unrhyw genedl fechan fyddo'n ym- ladd am ei bywyd, er o bosibl mai arfau Prydain fydd yn ceisio'i darostwng. Dylai pob Cymro llythrenog fod wedi ysgrif- ennu llythyr o gydymdeimlad a'r Zulus fel y gwnaeth Keir Hardie flwyddyn yn ol.

Brdd y Gol.

Advertising